Galw am achub safle gwasg hanesyddol sydd mewn 'cyflwr ofnadwy'

Hen adeilad Gwasg Gee yn Ninbych
  • Cyhoeddwyd

Mae galw o'r newydd am achub adeilad sy'n cael ei ystyried yn bwysig i hanes Cymru.

Roedd Gwasg Gee yn gyfrifol am nifer o gyhoeddiadau dylanwadol yn y 19eg ganrif, gan chwarae rhan yn radicaliaeth Cymry'r oes.

Ond mae'r adeilad yn Ninbych wedi bod yn wag ers i'r wasg gau yn 2001, a bellach mae'r safle wedi ei ychwanegu at restr o adeiladau hanesyddol Prydain sydd o dan fygythiad.

Mae'r perchnogion yn dweud eu bod yn ceisio sicrhau dyfodol yr adeilad.

Adeilad yn 2022Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych
Disgrifiad o’r llun,

Disgynnodd rhan o'r adeilad yn 2022, gan orfodi gwaith brys i ddiogelu'r safle

Dwy flynedd yn ôl cafodd gwaith brys ei wneud ar yr adeilad rhestredig Gradd II i'w wneud yn ddiogel, ar ôl i dalp ohono syrthio.

Bellach mae mudiad Save Britain's Heritage wedi ychwanegu'r safle at restr o dros 1,000 o adeiladau hanesyddol sydd mewn perygl.

Yn ôl y mudiad mae'r adeilad mewn "cyflwr ofnadwy sy'n gwaethygu" ac mae angen "cymorth mawr".

Gwasg Gee yn 1990Ffynhonnell y llun, Iain N. Wright|RCAHMW
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Gwasg Gee yn dal i weithredu yn 1990 pan dynnwyd y llun yma. Ffynhonnell: Coflein, dolen allanol

Roedd Gwasg Gee yn un o'r gweisg prysuraf yng Nghymru ar un adeg, yn argraffu llyfrau, cyfnodolion, a phapurau newydd yn cynnwys Baner ac Amserau Cymru - Y Faner yn ddiweddarach.

Bu'r awdures Kate Roberts a'i gŵr Morris yn berchen ar y cwmni am gyfnod.

Gwasg Gee yn 1990Ffynhonnell y llun, Iain N. Wright|RCAHMW
Disgrifiad o’r llun,

Er sawl ymgais i achub yr adeilad, mae'n parhau'n wag hyd heddiw. Ffynhonnell: Coflein, dolen allanol

Pan gaeodd y busnes yn 2001, sefydlwyd ymddiriedolaeth gyda'r gobaith o geisio prynu'r adeilad a'i droi'n amgueddfa argraffu.

Yna, yn 2007 cafwyd cais cynllunio i'w droi'n fflatiau.

Ond ni wireddwyd yr un o'r syniadau hynny, ac mae dyfodol yr adeilad yn dal mor ansicr ag erioed.

Mae perchnogion yr eiddo wedi bod yn trafod ei drosglwyddo i'r cyngor sir ers o leiaf 2005, ond hyd yma nid yw'r ddwy ochr wedi medru dod i gytundeb.

Mae rhai o greiriau'r hen wasg yn cael eu dangos yn Amgueddfa Dinbych, sydd ar fin ailagor yn hen adeilad Marchnad Fenyn y dref.

Yn ôl Medwyn Williams, sy'n gyfrifol am yr ystafell argraffu yn yr amgueddfa newydd, mae trigolion yn dal i obeithio y daw rhywun i "achub yr adeilad".

Medwyn Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medwyn Williams yn gobeithio y daw rhywun i achub y safle

"Mae'n bwysig cadw enw Gwasg Gee yn fyw," meddai.

"Oedd hi'n bodoli am 200 o flynyddoedd a 'den ni'n credu bod hi'n bwysig iawn yn achub yr iaith Gymraeg drwy gyhoeddi papur newydd Baner ac Amserau Cymru a'r Gwyddoniadur Cymraeg.

"'Den ni'n gobeithio ddaw rhywun ymlaen i achub yr adeilad.

"Mae'r elusen yma wedi cymryd diddordeb ac mae ar eu rhestr diogelu nhw rŵan.

"Gawn ni weld falle 'neith y cyhoeddusrwydd yna help i'w achub."

Cais arian grant i ddiogelu'r adeilad

Dywedodd Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'r adeilad, sydd mewn dwylo preifat, wedi dirywio dros 25 mlynedd.

"Yn dilyn tywydd gwael, roedd cwymp sylweddol yn rhan flaen yr adeilad yn 2022 a bu'n rhaid i Gyngor Sir Ddinbych wneud gwaith brys i ddiogelu'r adeilad ac atal cwymp arall.

"Mae'r cyngor yn ceisio cael arian grant i wneud rhagor o waith diogelu ac atal dirywiad pellach yn yr adnodd hanesyddol pwysig hwn."

Dywedodd llefarydd ar ran y perchennog, cwmni segur Gee & Son (Denbigh) Ltd: "Mae'r cyfarwyddwyr wedi bod yn trafod trosglwyddiad yr eiddo i Gyngor Sir Ddinbych ers i'r tenant diwethaf adael yr adeilad yn wag.

"Maent wedi bod yn cydweithredu hefo'r cyngor ers 2021 i geisio sicrhau dyfodol i'r adeilad, a byddant yn parhau i wneud hynny."

Pynciau cysylltiedig