Penodi Ffion Dafis yn gyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws

Bydd Ffion Dafis yn cymryd yr awenau yn 2026
- Cyhoeddwyd
Mae Ffion Dafis wedi ei phenodi yn gyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws.
Bydd y gyflwynwraig, awdures ac actores yn cymryd yr awenau ym mis Ionawr 2026 - gan olynu Betsan Llwyd, sydd wedi bod yn y swydd ers 2012.
Yn ogystal â chyflwyno rhaglen gelfyddydol Radio Cymru, mae Ffion wedi gweithio fel cyfrannydd llawrydd yn y byd celfyddydol yng Nghymru ers dros 25 mlynedd.
"Feddyliais i erioed wrth sleifio i mewn i gefn y neuadd ym Mhenrhosgarnedd i wylio 'Swmba' pan yn hogan chwilfrydig rhy ifanc o lawer y byddwn i'n cael y fraint o arwain y rebal o theatr yma i bennod newydd yn ei hanes," meddai.
'Barod i fod yn ddewr'
Ychwanegodd: "Wrth i gymdeithas newid, mae'n rhaid i ni arwain y naratif ac adlewyrchu y Gymru amrywiol yr ydan ni'n byw ynddi.
"Dwi'n barod i fod yn ddewr a cheisio denu cynulleidfaoedd sy'n credu nad ydy theatr o reidrwydd ar eu cyfer nhw.
"Dwi hefyd eisiau tanio dychymyg y gynulleidfa driw sy'n meddwl y byd o'r theatr - theatr sy'n rhan o'n gwead ni yma yng Nghymru."
Dywedodd Mared Llywelyn, oedd yn cadeirio'r panel cyfweld ac sydd hefyd yn Is-Gadeirydd Bwrdd Bara Caws: "Mae penodiad Ffion Dafis yn gam cyffrous i'r cwmni, a ninnau ar drothwy dathlu pen-blwydd yn 50 a datblygiadau'r cartref newydd.
"Rhannodd Ffion weledigaeth ddychmygus a beiddgar - yn addo y bydd Bara Caws yn parhau fel y 'Babi a ddaeth i'r byd yn bowld ac yn swnllyd'. Yn ei geiriau hi,' Mae'n bwysig bod y sŵn a'r strancio yn parhau".
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Gorffennaf 2022
Dywedodd Mari Emlyn, aelod o Dîm Rheoli Bara Caws: "Fel rhan o'i chyflwyniad yn ei chyfweliad, mi ofynnodd Ffion "Ydan ni am ffitio fel maneg?" a'r ateb yn sicr ydi "ydan!".
"Fel cwmni cydweithredol mae hynny'n holl bwysig, rydym yn hynod gyffrous fel tîm ac yn edrych ymlaen yn fawr at weithio'n agos gyda hi i wireddu ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
"Bydd Ffion yn cymryd yr awenau o ddwylo medrus Betsan Llwyd ac yn cychwyn ar ei gwaith yn Ionawr 2026 - jesd mewn pryd ar gyfer ddathliadau Bara Caws yn 50."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.