Balchder cyfarwyddwr artistig theatr wrth iddi adael 'trysor cenedlaethol'

Betsan LlwydFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Awgrymodd Betsan Llwyd ei bod am ddychwelyd i'r byd actio a mynd yn llawrydd

  • Cyhoeddwyd

Bydd Betsan Llwyd yn gadael ei rôl fel cyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws ar ddiwedd y flwyddyn ar ôl 14 mlynedd yn y swydd.

Mewn cyfweliad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd fod Bara Caws yn "drysor cenedlaethol" a'i bod yn falch fod y cwmni wedi parhau i deithio Cymru.

"Mae'n gyfnod anodd ar y celfyddydau yn gyffredinol, o bob cyfeiriad," meddai.

Dywedodd fod "teithio'n greiddiol i fodolaeth y cwmni" ond fod "costau dros nos wedi codi'n aruthrol".

"Mae gymaint o bwyslais wedi cael ei roi yn y blynyddoedd diweddar ar wyddoniaeth a mathemateg, ac mae 'na beryg bod y celfyddydau'n mynd i ddiflannu o oedran ifanc iawn. Mae hynny'n bryder mawr i mi yn bersonol ac i'r sector."

'Mynd i galon cymunedau'

Mae Betsan yn dweud bod cwmnïau theatr yn gorfod gwneud arbedion ym mha bynnag ffordd sydd bosib.

"Yn Bara Caws 'dan ni'n gweithio ar minimum equity, 'dan ni'n ailgylchu setiau ac ailgylchu dillad, 'dan ni'n trio'r gorau medrwn ni i dorri'r brethyn, ond mae'n hollbwysig bod Bara Caws yn parhau i fynd i'r cymunedau ta waeth pa mor anodd ydy hi," meddai.

"Mae gennym ni ffyddloniaid ar hyd a lled Cymru yn Bara Caws – 'dan ni'n ofnadwy o lwcus efo'n cynulleidfaoedd.

"Roedd cyfnod Covid yn heriol wrth gwrs, ond fe wnaethon ni lwyddo i gadw'r cwmni i fynd a chreu gwaith newydd yn electronig o'dd y cwmni erioed wedi gwneud o'r blaen er mwyn cyrraedd cynulleidfaoedd adra.

"Wir, pan nathon ni'r daith gynta'n fyw fe nathon ni werthu allan, achos erbyn hynny roedd pobl yn barod i ddod 'nôl ac isio bod efo'i gilydd a sgwrsio, felly mae cynulleidfaoedd yn driw ac yn gefnogol iawn."

betsan llwydFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Betsan Llwyd wedi ennill dwy wobr BAFTA am actio, yn 1995 ac yn 2001

Cafodd Theatr Bara Caws ei sefydlu yn 1977 a dywed Betsan fod y ffaith fod sioeau'n mynd ar daith i ardaloedd ledled Cymru'n gwbl allweddol i esbonio apêl y sefydliad.

"Dwi'n cofio cael profiad arbennig o weld Theatr Bara Caws yn dod i Neuadd Pantycelyn pan o'n i'n fyfyriwr yn y Brifysgol [Aberystwyth], a gweld y theatr yn mynd i galon cymunedau a rhoi profiadau theatrig annisgwyl iawn ar y mymryn lleia' o arian.

"Dwi'n credu bod ni wedi gallu parhau i wneud hynny, a hefyd llwyddo i ddenu awduron profiadol iawn oedd eisiau dangos eu gwaith, actorion profiadol iawn, a bod ni hefyd yn gwneud yn siŵr bo' ni'n rhoi gymaint o gyfle i gymaint o ymarferwyr a phosib, achos mae hwnna'n rhan wreiddiol o waith Bara Caws – rhoi llwyfan i lot fawr iawn o bobl i ddatblygu sgiliau a chanfod sgiliau newydd, a dwi'n falch iawn bod ni dal yn gwneud hynny."

sioeau newyddFfynhonnell y llun, Theatr Bara Caws
Disgrifiad o’r llun,

Poster i brosiect ddiweddaraf Theatr Bara Caws

Dywedodd Betsan fod gadael ei rôl yn gyfle i ddechrau pennod newydd hefyd.

"Mae gen i ambell i brosiect proffesiynol i'w wneud, gan fynd 'nôl i'r byd llawrydd," meddai.

"Mi fydda i'n gallu actio achos dwi heb gael cyfle yn y blynyddoedd diweddar 'ma, a chyfarwyddo hefyd.

"Rhywbeth arall dwi eisiau ei wneud, rhywbeth mae pawb eisiau gwneud os ydy'u hiechyd nhw'n iawn, ydy mynd i deithio'r byd.

"Hefyd mae'n debyg mai un o'r pethau mwyaf sydd 'di digwydd i mi yn bersonol ydy bod gennym ni wyres fach newydd, Alis Williams Astudillo, yn Ninas Mecsico."

Pynciau cysylltiedig