Cynllun peilonau: Pump yn y llys am wrthod mynediad

Roedd nifer o brotestwyr wedi ymgynnull i gefnogi'r tirfeddianwyr oedd yn y llys
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion pum fferm wedi ymddangos yn y llys am wrthod yr hawl i gwmni sydd eisiau adeiladu llwybr o beilonau yn Nyffryn Tywi rhag cael mynediad i'w tir.
Mae cwmni Green Gen Cymru eisiau llunio llinell bŵer newydd rhwng fferm wynt arfaethedig yn Nant Mithil ym Mhowys ac is-orsaf arfaethedig yn Llandyfaelog ger Caerfyrddin.
Ond roedd nifer o dirfeddianwyr ffermydd yn ardaloedd Llanymddyfri a Llanarthne yn Nyffryn Tywi wedi gwrthod caniatáu i gynrychiolwyr y cwmni gael mynediad i'w tir.
Roedd nifer yn wynebu achosion yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Llun, ac roedd tua 80 o bobl wedi ymgynnull y tu allan i'r llys i gefnogi'r tirfeddianwyr.

Mae Green Gen Cymru yn gwneud ceisiadau am warantau o dan A.173 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Maen nhw am gael mynediad ac arolygu tir o dan A.172 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 yn unol â Deddf Trydan 1989.
Clywodd y llys bod perchnogion dwy fferm bellach wedi cytuno i roi mynediad i'w tir i'r gwaith, a bod disgwyl i un arall gwblhau gwaith papur i gadarnhau'r un peth.
Ond mae dau safle sydd yn dal i wrthod mynediad ar gyfer y gwaith.
Fe fydd eu hachosion yn cael eu clywed yn ddiweddarach yn y mis.
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio.

Mae Green Gen yn awyddus i godi 60 milltir o beilonau fel rhan o'r cynllun
Yn ôl Owen Jones, Rheolwr Materion Allanol Green Gen Cymru, dydy rhoi peilonau dan ddaear ymhobman "ddim yn bosibiliad".
"Ni methu tanddaearu popeth, oherwydd mae'r prisiau yn rhy gostus", meddai.
"Mae prisiau ni'n dangos ei fod o leiaf pum gwaith yn rhy ddrud i danddaearu. Felly mae'r costau'n mynd lan i'r cannoedd o filiynau yn ychwanegol.
"Ni wedi dangos ein bod ni wedi tanddaearu mewn rhannau o'r llwybr.
"Ond ar ddiwedd y dydd mae angen seilwaith trydanol newydd yn y wlad ac i wneud hynny ni angen mynediad i'r tir."
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd19 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2024
Roedd yr Aelod Seneddol lleol, Ann Davies, ac aelodau Senedd Cymru, Adam Price a Cefin Campbell, y tu allan i'r llys, ynghyd â llawer o bobl leol o Ddyffryn Tywi.
Roedd Cymdeithas yr Iaith hefyd yn bresennol i gefnogi'r tirfeddianwyr.
Yn wreiddiol, cafodd eu cais i gynnal eu hachosion trwy gyfrwng y Gymraeg ei wrthod.
Disgrifiodd y gymdeithas y penderfyniad fel "sarhad ar yr iaith Gymraeg".
Daeth cadarnhad yn ddiweddarach y byddai'r achos yn cael ei chlywed yn Gymraeg trwy gyswllt fideo gyda barnwr yn y gogledd.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cael cais am sylw.