Jamie Roberts: Dim arwydd o welliant o dan Warren Gatland
- Cyhoeddwyd
Mae Jamie Roberts yn dweud ei fod yn sefyll yn unfrydol ar ôl beirniadu Warren Gatland yn gyhoeddus yn dilyn colled gyntaf Cymru yn erbyn Fiji yng Nghaerdydd.
Cafodd cyn-ganolwr Cymru a’r Llewod ei ethol yn aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru'r llynedd tra’n parhau i weithio yn y cyfryngau.
Roedd Roberts yn un o’r lleisiau mwyaf beirniadol wedi’r golled yn erbyn Fiji wrth ddweud yn blwmp ac yn blaen mai dyma oedd y cyfnod gwaethaf i’r tîm cenedlaethol yn ystod yr oes broffesiynol.
“Dwi’n deall y spin mae Warren yn ceisio rhoi. Ond dwi wirioneddol o’r farn nad yw Cymru wedi symud ymlaen o gwbl," meddai.
Fe ymatebodd prif hyfforddwr Cymru i’r sylwadau drwy ddweud nad oedd yn poeni rhyw lawer, a bod gan bawb hawl i’w barn bersonol.
Ond fe ychwanegodd Gatland fod yna sawl person wedi cysylltu â’r cyn-chwaraewr i ddweud nad oedd y sylwadau’n briodol na theg - rhywbeth sydd wedi’i wadu'n llwyr gan Roberts ei hun.
Dywedodd Jamie Roberts: “Dwi’n aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru ond dwi hefyd ar adegau yn cael fy nghyflogi gan y cyfryngau ac mae disgwyl i mi roi barn onest.
"Mi wnes i roi barn o’r hyn weles i ar y penwythnos a sut oeddwn yn gweld y tîm yn yr oes broffesiynol ac yn anffodus mae’r ffeithiau yn glir, does dim gwelliant wedi bod 'na chynnydd o ran tîm Cymru ac mae hynny, mae gen i ofn, yn ffeithiol gywir."
Aeth y cyn-ganolwr ymlaen i ddweud nad oedd hyn yn bersonol o gwbl tuag at y prif hyfforddwr presennol.
“Dyw hi byth yn bersonol a dwi’n edmygu Warren Gatland yn fawr ac mae gen i barch mawr tuag ato, ond yr hyn dwi ddim yn barod i wneud yw ymddiheuro am sylwadau dwi 'di wneud sydd, dwi’n credu, yn onest ac yn rhan o’r hyn sy’n ddisgwyliedig wrth geisio dadansoddi."
'Canlyniadau heb wella'
Fe enillodd Jamie Roberts 94 o gapiau dros Gymru, ac roedd yn rhan allweddol o garfan y Llewod o dan hyfforddiant Gatland yn 2009 a 2013.
Roedd yn rhan ganolog o ddull chwarae Gatland - yn un fyddai â’r cryfder corfforol i sicrhau byddai Cymru ar y droed flaen ac yn croesi’r llinell fantais.
Er ei fod yn barod i feirniadu, mae dal yn barod i ganmol rôl y gŵr o Seland Newydd yn llwyddiant y tîm cenedlaethol.
“Does gen i ond y parch mwyaf at Warren Gatland, mae e wedi bod yn hyfforddwr gwych dros y blynyddoedd.
"Mae 'na bwysau o hyd ac mi fydd e yn fwy na neb yn gobeithio am fuddugoliaeth yn druenus.
"Mae hi wedi bod yn gyfnod o drawsnewid o ran y gêm yng Nghymru a dwi’n derbyn hynny, mae 'na sawl chwaraewr ifanc yn gorfod bwrw’i swildod ar lefel rhanbarthol yn gynt na’r disgwyl.
"Dyw hi ddim yn rhwydd ac mae’n heriol, ond mae rhaid i Warren gyfaddef mai ei ben sydd ar y bloc o ran canlyniadau’r tîm cenedlaethol - a dyw’r rheiny yn syml ddim wedi gwella.”
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd
Er gwaetha' colli am y 10fed tro yn olynol a dod yn gyfartal â’r record waethaf erioed yn hanes rygbi Cymru, mae’r cyn-chwaraewr yn ffyddiog gall y tîm daro'n ôl, ac yn grediniol gall Gymru brofi buddugoliaeth yn erbyn y Wallabies.
“Dwi’n deall mai Awstralia fydd y ffefrynnau ar ôl curo Lloegr ond dwi wir yn meddwl fod yna gyfle gwych i newid y sefyllfa yn llwyr.
"Yn seicolegol mi fydd yn anodd i Awstralia i greu perfformiad tebyg i’r un welon ni yn Twickenham, ar ôl cyrraedd yr uchelfannau yn emosiynol dim ond un lle sydd i fynd a dwi’n siŵr fydd Warren wedi crybwyll hynny yn ystod yr wythnos.
"Does dim dwywaith mae Cymru yn gallu ennill - bosib bod sawl un yn meddwl mod i’n hurt yn dweud hynny ond yn draddodiadol mae Cymru yn perfformio’n dda yn erbyn y Wallabies.
"Mae 'na sawl gêm dros y 15 mlynedd ddiwethaf wedi bod o fewn sgôr, rhywffordd mae’n rhaid i Warren a’r garfan feddwl hynny ac o bosib fydd ennill yr un gêm yna yn gwneud byd o wahaniaeth."