'Dynion yn rhan o'r ateb' i ddiogelu menywod sy'n rhedeg

Mae nifer o fenywod yn teimlo'n anniogel yn rhedeg, yn enwedig yn y gaeaf wrth iddi dywyllu'n gynt
- Cyhoeddwyd
Pa mor ddiogel ydych chi'n teimlo pan fyddwch chi allan yn rhedeg - yn enwedig fel menyw?
Fel rhan o ymgyrch Llywodraeth Cymru mae clybiau rhedeg o bob rhan o Gaerdydd wedi dod at ei gilydd i herio agweddau tuag at aflonyddu rhywiol.
Dyma'r cam diweddaraf yn eu hymgyrch, sy'n herio dynion ifanc i ddysgu am drais ar sail rhywedd.
Yn ôl ystadegau diweddar mae dros 70% o fenywod wedi profi rhyw fath o aflonyddu rhywiol mewn man cyhoeddus.
I nifer o fenywod sy'n rhedeg yn gyhoeddus, mae'n brofiad cyfarwydd iawn.

Dywedodd Olivia Browne bod menywod yn gallu poeni am eu bywydau tra allan yn rhedeg
Daeth degau o bobl i ddigwyddiad yng Nghaerdydd yr wythnos hon wedi'i drefnu gan blatfform 'Iawn'.
Mae 'Iawn' yn cefnogi dynion ifanc i ddysgu am drais ar sail rhywedd, gyda'r nod o wneud Cymru y lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.
Roedd Olivia Browne yn un o'r merched ddaeth i'r digwyddiad yng Nghaerdydd, a dywedodd ei bod yn gallu bod yn anodd i fenywod sy'n rhedeg.
"Dwi 'di cael fy nilyn mewn ceir, dwi 'di cael dynion yn gweiddi 'get in', dwi 'di cael sylwadau gan fechgyn tua 12 mlwydd oed," meddai wrth raglen Newyddion S4C.
"Ges i sylw yn cerdded mewn i'r dre' heno."
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2023
Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru dyw 10% o ddynion ddim yn deall beth yn union yw ystyr "aflonyddu rhywiol".
A doedd un ymhob tri o ddynion ddim yn ystyried bod gwawdio neu weiddi sylwadau sarhaus yn niweidiol.
Dyma felly pam bod ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru yn pwysleisio mai dynion sydd angen newid agweddau.

Daeth degau o bobl i ddigwyddiad yng Nghaerdydd yr wythnos hon wedi'i drefnu gan blatfform 'Iawn'
"Dwi'n credu bod y rhan fwyaf o ddynion ddim actually yn ymwybodol bo' nhw wedi 'neud pethau fel'na eu hunain," meddai Olivia.
"Os chi mewn grŵp o ddynion, a chi gyd yn syllu ar ryw fenyw tra mae hi'n rhedeg, falle 'sdim syniad gan y dynion yna sut mae'n g'neud i'r fenyw 'na deimlo.
"Ond i ni, ni wir yn pryderu am ein bywydau ni, achos ma' menywod yn cael eu lladd, mae menywod yn cael eu treisio, maen nhw yn cael eu dilyn - mae'n rhywbeth sy'n digwydd."
'Dynion yn rhan o'r ateb'
Mae'r broblem yn cael ei chydnabod gan heddluoedd ar draws Cymru hefyd.
Mae Heddlu Gwent wedi dechrau cynllun 'Rhedeg Mwy Diogel' i wella hyder merched sy'n rhedeg yn yr awyr agored yn ystod misoedd y gaeaf.
Ond y gobaith nawr yw newid agweddau, a phwysleisio nad cyfrifoldeb menywod yn unig yw eu diogelwch - rhaid i ddynion fod yn rhan o'r ateb hefyd.

Mae Sioned yn pwysleisio bod angen i ddynion fod yn rhan o'r ateb o ran gwneud menywod yn fwy diogel
"Dwi'n cael profiada', particularly pan ti'n pasio dynion a maen nhw'n chwibanu arnat ti neu'n gwneud rhyw comment pan ti'n pasio," meddai Sioned, un arall a oedd yn y digwyddiad yng Nghaerdydd.
"Dwi 'di cael dynion mewn ceir yn canu corn pan ti'n rhedeg.
"Dwi'n meddwl bod 'na notion efo dynion in particular bo' nhw'n mynd 'dim fi, dwi ddim yn rhan o'r broblem'.
"Dwi'm yn meddwl bo' nhw'n sylweddoli bo' nhw'n medru bod yn rhan o'r ateb.
"So mae'n rili pwysig bo' ni'n codi ymwybyddiaeth o experiences merched a sut fath o betha' ma' dynion yn medru 'neud er mwyn cefnogi a helpu."