'Dwyn cyffuriau, nid anafu oedd y bwriad' - achos llofruddiaeth

Bu farw Joanne Penney, 40, ar ôl cael ei darganfod ag anafiadau difrifol mewn fflat yn Nhonysguboriau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio dynes mewn fflat yn Rhondda Cynon Taf wedi dweud ei fod yn meddwl mai'r bwriad oedd dwyn cyffuriau, nid achosi niwed.
Cafodd Joanne Penney, 40, ei saethu ar stepen ddrws fflat yn Llys Illtyd, Tonysguboriau ar 9 Mawrth 2025, a bu farw yn y fan a'r lle.
Ar ddiwrnod cyntaf yr amddiffyniad clywodd Llys y Goron Caerdydd dystiolaeth gan Joshua Gordon, a ddywedodd nad oedd bwriad erioed i achosi niwed i unrhywun y diwrnod hwnnw.
Mae Mr Gordon a phedwar person arall – Kristina Ginova, Tony Porter, Melissa Quailey-Dashper a Jordan Mills-Smith – yn gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Dywedodd Joshua Gordon ei fod yn "torri ei galon" dros farwolaeth Joanne Penney
Roedd yr achos llys eisoes wedi clywed bod marwolaeth Ms Penney wedi dod o ganlyniad i ffraeo rhwng dau grŵp troseddol oedd yn delio cyffuriau.
Wrth roi tystiolaeth ddydd Mawrth, fe wnaeth Mr Gordon gadarnhau ei fod wedi bod yn delio cyffuriau yn ardal Caerlŷr ers tua phum mlynedd, ar ôl symud yno o Lundain.
Dywedodd ei fod wedi dechrau fel deliwr bychan, ond ei fod yn fwy diweddar wedi dechrau cludo meintiau mwy o gyffuriau – cocên yn bennaf.
'Mae'n torri fy nghalon'
Pan ofynnwyd iddo am y diwrnod cafodd Joanne Penney ei saethu, dywedodd nad oedd yn ei hadnabod ac nad oedd wedi bwriadu achosi unrhyw niwed iddi.
"Oeddech chi wedi bwriadu dod â bywyd Joanne Penney i ben?" gofynnodd ei fargyfreithiwr, Talbir Singh.
"Na," atebodd Joshua Gordon.
Ychwanegodd: "Mae'n torri fy nghalon [beth ddigwyddodd]. Rwy'n teimlo dros ei theulu, rwy'n teimlo dros Joanne Penney ei hun, dydw i ddim yn dymuno'r canlyniad yna i unrhyw un."
Dynes a gafodd ei saethu yn Rhondda Cynon Taf wedi ei henwi
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Dynes wedi marw ar ôl cael ei saethu yn Rhondda Cynon Taf
- Cyhoeddwyd10 Mawrth
Dynes wedi ei saethu yn ystod dadlau rhwng gangiau cyffuriau - llys
- Cyhoeddwyd22 Hydref
Gofynnodd Mr Singh iddo: "Oeddech chi eisiau achosi niwed i unrhyw un yn y cyfeiriad yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth?"
"Na," meddai Mr Gordon.
"Oeddech chi'n disgwyl unrhyw drais y diwrnod hwnnw?" gofynnodd Mr Singh.
"Na," oedd ei ateb unwaith eto.
Pan ofynnwyd i Mr Gordon pam aethon nhw i'r fflat yn Nhonysguboriau, dywedodd eu bod yno "i ddwyn cyffuriau".
Ond mynnodd nad oedd yn gwybod bod Marcus Huntley, un o'r teithwyr yn y car gydag ef, yn cario gwn.

Cafodd yr heddlu eu galw i Lys Illtyd yn Nhonysguboriau ar 9 Mawrth 2025
Dywedodd Mr Gordon ei fod wedi anfon pecynnau o gyffuriau i Gymru ar bedwar achlysur yn gynharach yn y flwyddyn, ond mai diwrnod y saethu oedd y tro cyntaf iddo deithio i Gaerdydd.
Ychwanegodd nad oedd wedi cael ei dalu am y pedwerydd llwyth, gan fod rhywun wedi ysmygu'r cyffuriau a bod rhan ohono hefyd wedi "cael ei ddwyn".
Pan ofynnwyd iddo a oedd erioed wedi gafael mewn gwn byw wedi ei lwytho, gwadodd hynny ond ychwanegodd ei fod wedi gweld "rhai ffug" yn y byd delio cyffuriau.
Dywedodd hefyd nad oedd "erioed" wedi siarad gyda Marcus Huntley am ynnau, nac wedi trafod prynu gwn gydag ef chwaith.
Clywodd y llys fod gan Mr Gordon un euogfarn am gario llafn mewn man cyhoeddus, a hynny yn 2022.

O'r chwith, Marcus Huntley, Tony Porter, Melissa Quailey-Dashper, Jordan Mills-Smith a Joshua Gordon
Ddeuddydd cyn i Ms Penney gael ei lladd, roedd ymosodiad ar ffrind i Mr Gordon yn y fflat yn Nhonysguboriau, clywodd y llys.
Dywedodd Mr Gordon ei fod wedi ffonio dyn o'r enw "Jimmy" wnaeth gadarnhau beth ddigwyddodd, gan awgrymu bod hynny oherwydd bod Huntley wedi "gwerthu ar ei dir ef".
Ychwanegodd Mr Gordon ei fod wedi cael sgwrs "barchus" gyda "Jimmy" am y peth.
Gofynnwyd i Mr Gordon eto pam y teithiodd i Gymru ar ddiwrnod y saethu, ac fe atebodd bod hynny er mwyn casglu ei ffrind, ac i roi mwy o gyffuriau i Huntley werthu.
Ond mynnodd nad oedd rhai o'r rheiny a deithiodd gydag ef o Gaerlŷr yn gwybod bod delio cyffuriau yn rhan o'r rheswm.
Mae Joshua Gordon, 27, Kristina Ginova, 21, Tony Porter, 68, a Melissa Quailey-Dashper, 40, o Gaerlŷr, a Jordan Mills-Smith, 33, o Gaerdydd yn gwadu llofruddio Joanne Penney.
Mae Mr Gordon, Ms Ginova, Mr Porter a Ms Quailey-Dashper hefyd yn gwadu cyhuddiad o fod yn rhan o weithgaredd grŵp troseddol, ac mae'r achos yn parhau.
Mae Marcus Huntley, 21, o Laneirwg, Caerdydd eisoes wedi cyfaddef llofruddiaeth, ar ôl i'r llys glywed mai ef oedd yr un daniodd y gwn a laddodd Ms Penney.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.