Y Cymro a helpodd i dwyllo Hitler

Cerdyn adnabod William MartinFfynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Cerdyn adnabod 'Major William Martin'

  • Cyhoeddwyd

Wyddoch chi am y Cymro a helpodd y Cynghreiriaid i chwarae tric ar Hitler, i achub bywydau degau ar filoedd o filwyr ac o bosib ddod â’r Ail Ryfel Byd i ben yn gynt na’r disgwyl... er ei fod wedi marw?

Dyma hanes anhygoel y gŵr o Aberbargoed, Glyndwr Michael.

Cynllun i dwyllo'r Almaenwyr

Ddechrau 1943, roedd y gwasanaeth cudd-wybodaeth ym Mhrydain yn edrych am gorff marw. Roedd digon ohonyn nhw o gwmpas, wrth gwrs, â’r rhyfel yn rhygnu 'mlaen, ond roedden nhw’n edrych am gorff rhywun a oedd wedi marw’n ddiweddar ac a allai edrych fel petai wedi disgyn o awyren, achos roedd ganddyn nhw gynllwyn ar droed...

Enw’r cynllwyn oedd Operation Mincemeat, a’r bwriad oedd i wisgo’r corff fel swyddog milwrol Prydeinig, rhoi gwybodaeth ffug am gynlluniau’r Cynghreiriaid arno, a’i ollwng mewn lleoliad ‘cyfleus’.

Y gobaith oedd y byddai’r Almaenwyr yn derbyn y wybodaeth anghywir, ac yn ad-drefnu eu hunain i adlewyrchu ‘cynlluniau cyfrinachol’ y Cynghreiriaid.

Wedi ei ddyfeisio gan Ian Fleming, a aeth ymlaen i ysgrifennu'r nofelau am yr ysbïwr James Bond, mae'n swnio'n union fel stori o ffilm. Ond mae'n wir, ac mi weithiodd... ac roedd Cymro wrth galon y cwbl.

'Y Dyn Na Fu Erioed'

Y corff a gafodd ei ddewis i chwarae’r rôl bwysig yma oedd Cymro di-gartref o’r enw Glyndwr Michael.

“Hogyn tlawd o gefndir tlawd iawn, iawn,” eglurodd yr hanesydd Bob Morris ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru. “Roedd ei dad o’n löwr oedd wedi marw pan oedd Glyn yn hogyn reit ifanc.

“Ar ôl i’w fam o farw, do’dd ganddo fo neb i’w gynnal o, ac roedd o’n hogyn efo anabledd meddyliol, ac felly mi aeth i Lundain, yn meddwl ‘sa fo’n cael gwaith yn fan’no. Byw ar y stryd oedd o, mae’n debyg, yn y diwedd. Mi ffeindiodd o’i ffordd i ffatri wag, ac mi ffeindiodd o ddarnau o fara ar y llawr yna a’u bwyta nhw, ac o ddallt, roedd 'na wenwyn llygod arnyn nhw, ac mi fuodd o farw yn yr ysbyty.”

Cafodd corff Glyndwr ei gymryd gan yr awdurdodau a’i roi mewn oergell, ac roedd rhan gynta’r cynllwyn mewn lle. Nawr roedd angen gweithio ar y camau nesaf.

Cafodd Glyndwr hunaniaeth newydd, sef Major William Martin, a oedd o Gaerdydd. Cafodd dogfennau ffug eu llunio ar ei gyfer, a chafodd pob ymdrech ei wneud i sicrhau fod unrhyw un a fyddai’n dod o hyd i’r corff yma, yn credu mai William Martin oedd o. Fel yr eglurai Bob Morris:

“Rhoi gwisg iddo fo, rhoi llythyrau gan ei gariad o, llun o’i gariad o, ticedi sioe theatr – bob math o bethau, i roi rhyw identity personol i’r hogyn. Hyd yn oed llythyr gan ei dad o – y tad dychmygol yma – wedi ei anfon o’r Llew Du yn Yr Wyddgrug. A rhag ofn fod 'na ryw ysbïwr Almaenig yn mynd i chwilio i ffeindio allan os oedd hyn yn wir neu beidio, bod enw tad William Martin i mewn yn y llyfr ymwelwyr yn y Llew Du, jest rhag ofn i rywun drio ffeindio tyllau yn y stori...”

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Llun o 'Pam', cariad William Martin oedd un o'r creiriau personol a gafodd eu rhoi ar y corff. Mewn gwirionedd, llun o glerc o'r MI5 yw hwn

Ac wrth gwrs, rhan hanfodol y cynllwyn oedd cês wedi ei glymu ar y milwr a oedd yn cynnwys gwybodaeth dilys-yr-olwg am ‘gynlluniau nesaf’ Prydain, “gyda llythyrau manwl iawn, yn cyfeirio at y Cadfridog Eisenhower ac at y Cadfridog Alexander, oedd yn paratoi cyrch o Tunisia i ymosod ar Ewrop,” meddai Bob Morris.

“Bwriad y negeseuon yma oedd dweud ‘‘'Dan ni’n mynd i ymosod yng Ngwlad Groeg, ond 'dan ni am 'neud cyrch bach yn Sicily er mwyn twyllo’r Almaenwyr i feddwl mai fan’no mae’r glaniad mawr yn mynd i fod’. Paratowyd rhain, a’u llofnodi gan y bobl go iawn.”

Brad y Sbaenwyr

Roedd popeth yn barod. Cafodd y corff ei gludo mewn fan i’r Alban, yna’i hwylio i dde Sbaen mewn llong danfor, lle cafodd ei ryddhau i’r môr, gan esgus ei fod wedi syrthio o awyren.

Ffynhonnell y llun, Wikipedia
Disgrifiad o’r llun,

Trefnwyr cynllwyn Operation Mincemeat, Charles Cholmondeley ac Ewen Montagu yn cludo corff Glyndwr Michael i'r Alban ym mis Ebrill 1943

Drannoeth, ar 30 Ebrill 1943, cafodd corff y milwr Prydeinig ei ddarganfod gan bysgotwyr sardîns ger ddinas Huelva. Er fod Sbaen yn wlad niwtral yn ystod y rhyfel, roedd y Cynghreiriaid yn amau y byddai’r Sbaenwyr yn rhannu’r wybodaeth yma gyda’r Almaenwyr, ac roedden nhw’n llygad eu lle.

Chwaraeodd is-gennad Prydeinig y ddinas ei ran yn y sioe, yn pwysleisio pa mor hanfodol oedd hi fod yr wybodaeth ‘bwysig’ oedd wedi disgyn gyda Major Martin yn dychwelyd i Brydain ar frys. Cafodd y corff ei gladdu mewn mynwent leol o fewn dyddiau, ond chyrhaeddodd y cês a’i gynnwys ddim yn ôl i Lundain tan 11 Mai.

Dangosodd profion fforensig ar y papurau eu bod wedi cael eu hagor, ac ym mhen ychydig, daeth mwy o dystiolaeth fod yr Almaenwyr yn gwybod am y cynllun newydd, meddai Bob Morris:

“Mi roedd Bletchley Park wedi dechrau derbyn negeseuon cyfrinachol gan yr Almaen, i’w milwyr mewn gwahanol lefydd, yn deud bod y cyrch rŵan yn mynd i ddigwydd yng Ngwlad Groeg, a bo’ nhw’n bwriadu symud mwy o filwyr i Wlad Groeg. Felly dyna sut oedden nhw’n gwybod yn bendant fod y fenter wedi llwyddo.”

Cyfraniad mewn marwolaeth

Ffynhonnell y llun, Garth Nicholson
Disgrifiad o’r llun,

Bedd William Martin yn Huelva

Er nad oedd yn ymwybodol o hyn, chwaraeodd Glyndwr Michael ran fawr ym mrwydro’r Ail Ryfel Byd, yn y cynllwyn cyfrinachol yma a newidiodd drywydd y rhyfel:

“Roedd 'na gymaint yn dibynnu arno fo. Achos os fasa nhw’n medru twyllo’r Almaenwyr mai yng Ngwlad Groeg oedden nhw’n mynd i lanio, mi fasa 'na filoedd o filwyr yn cael eu symud i fan yno ac wedyn mi fasa’r glaniad yn Sicily, sef lle oddan nhw wirioneddol yn bwriadu glanio yn haws o lawer, ac wrth gwrs, dyna’n union a fu.

“A’r amcangyfrifon mwya’ cyffredin ydi bod y ffaith bod Yr Almaen ddim yn disgwyl iddyn nhw lanio yn Sicily wedi arbed bywydau tua 30,000 o filwyr.

Am flynyddoedd, doedd neb, heblaw am y swyddogion oedd yn rhan o’r cynllwyn yma, yn gwybod pwy oedd y corff a gafodd ei ddefnyddio yn Operation Mincemeat, tan i’r papurau swyddogol gael eu rhyddhau yn 1996.

Ers hynny mae yna ychwanegiad i fedd Major William Martin yn Huelva, a’r geiriau ‘Glyndwr Michael served as William Martin RM’ bellach ar y garreg yn nodi cyfraniad y Cymro o Aberbargoed.

Ffynhonnell y llun, Jaggery/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna hefyd blac yn Aberbargoed i gofio am Y Dyn Na Fu Erioed, Glyndwr Michael

Pynciau cysylltiedig