Dydd Miwsig Cymru: pigion erthyglau Cymru Fyw
- Cyhoeddwyd
Mae Dydd Miwsig Cymru yn gyfle i ddathlu cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ond wrth gwrs mae 'na gerddoriaeth gwych yn cael ei greu drwy'r flwyddyn.
Bydd Cymru Fyw yn rhoi sylw cyson i'r sin, felly gwnewch baned, rhowch eich hoff drac ymlaen ac ymlaciwch drwy bori drwy'r casgliad yma o eitemau gafodd eu cyhoeddi dros y 12 mis diwethaf.
Cyfweliadau
Tu ôl i bob cân a phob artist mae 'na stori - ac mae nifer o bobl yn fodlon eu rhannu. O ail-ddarganfod cerddoriaeth ar ôl gwaeledd i hoff luniau un o'n sêr, dyma rai o'r erthyglau gafodd eu cyhoeddi ar Cymru Fyw dros y 12 mis diwethaf:
Hanes pop Cymraeg
Tra bod digon i'w sgwennu am gerddoriaeth cyfoes, mae hanes pop Cymraeg yn bwnc yn ei hun. Ymysg yr erthyglau eleni, roedd yr awdur Llwyd Owen yn olrhain hanes hip hop Cymraeg gyda'i 10 trac hanfodol, a chawson ni hanes recordio clasur o albwm - Bibopalwla'r Delyn Aur gan Meic Stevens
Cwisys
Mae ffans pop yn tueddu i hoffi cwisys pop... ac mae sawl un wedi bod ar Cymru Fyw, yn cynnwys dathlu pen-blwydd deugain un o leoliadau cerddoriaeth byw pwysicaf Cymru ac un o'n grwpiau eiconig. Rhowch gynnig arni:
Orielau
Mae delweddau yn elfen bwysig o unrhyw sin cerddoriaeth pop, o'r band ar y llwyfan, y dorf yn mwynhau, a'r posteri sy'n eu denu yno yn y lle cyntaf.
Hefyd o ddiddordeb: