URC yn 'ceisio gwneud ein gorau i sicrhau dyfodol rygbi Cymru'

Dave Reddin ac Abi Tierney yn ystod cynhadledd newyddion Undeb Rygbi Cymru ddydd Mercher
Disgrifiad o’r llun,

Dave Reddin gyda'r prif weithredwr Abi Tierney yn ystod cynhadledd newyddion Undeb Rygbi Cymru ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae un o benaethiaid Undeb Rygbi Cymru yn dweud ei fod yn deall dicter rhai ynghylch y cynnig i dorri nifer y clybiau rygbi proffesiynol o bedwar i ddau.

Fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru (URC) gynllun ddydd Mercher ar gyfer dyfodol y gêm elitaidd, sy'n peryglu dyfodol y Dreigiau, Caerdydd, y Gweilch a'r Scarlets.

"Rwy'n gobeithio bod pobol yn deall ein bod yn ceisio gwneud y peth gorau bosib ar gyfer dyfodol rygbi yng Nghymru," dywedodd Dave Reddin, a gafodd ei benodi'n gyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elitaidd URC ym mis Ebrill.

Ychwanegodd bod yna "benderfyniadau anodd i'w gwneud" a bod yr undeb "eisiau gwrando ar safbwyntiau a heriau i'n cynigion" trwy'r ymgynghoriad ffurfiol sy'n dechrau ar 1 Medi.

Beth yw'r opsiynau?

Yr opsiynau posib yw:

  • Pedwar clwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model A)

  • Tri chlwb proffesiynol gyda chyllid cyfartal (Model B)

  • Tri chlwb proffesiynol gyda chyllid anghyfartal (Model C)

  • Dau glwb proffesiynol gyda chyllid cyfartal (Model D)

Er bod yr undeb yn mynnu nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud eto, maen nhw wedi dweud mai Model D yw'r "cam radical" sydd ei angen i achub y gêm yng Nghymru.

Wrth gael ei holi ar raglen BBC Radio Wales Breakfast fore Iau, dywedodd Dave Reddin bod "llawer wedi newid" o fewn y gamp yn ddiweddar, a bod rhoi rhanbarth Rygbi Caerdydd yn nwylo'r gweinyddwyr ym mis Ebrill "yn arwydd o hynny".

"Mae rygbi yn wynebu heriau ar draws y byd," dywedodd. "Yn ariannol mae'n colli arian i'r rhan fwyaf o'r undebau rygbi.

"Dyw Cymru yn sicr ddim yn ddiogel rhag hynny."

Logos pedwar clwb rhanbarthol proffesiynol Cymru - y Scarlets, y Gweilch, y Dreigiau a Rygbi Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau yn peryglu dyfodol y Scarlets, Gweilch, Dreigiau a Rygbi Caerdydd

Pan ofynnwyd a fyddai'r undeb yn diystyru'r cynllun i haneru nifer y clybiau proffesiynol pe bai'r ymgynghoriad yn amlygu gwrthwynebiad, atebodd: "Mae'n rhaid i ni wrando.

"Os yw pobl yn ymateb gyda dadansoddiad ar sail tystiolaeth sy'n awgrymu y gellid ystyried opsiynau eraill sy'n well, rydym eisiau clywed hynny."

Cadw emosiwn o benderfyniadau

Ychwanegodd: "Mae yna lot o emosiwn ar hyn o bryd a byddai rhoi enwau ar ranbarthau nawr wedi achosi mwy fyth.

"Emosiwn ac angerdd y cyhoedd yw un o'n cryfderau ond mae'n rhaid i ni adael i hynny setlo yn gyntaf.

"Os yw 90% o'r bobl yn anghytuno o bersbectif emosiynol, mae'n rhaid i ni wrando ar hynny, ond mae'n rhaid i ni hefyd feddwl yn strategol am y dyfodol.

"Dyw emosiwn, yn gyffredinol, ddim yn sail dda i wneud penderfyniadau."

Pump o chwaraewyr y Scarlets yn dathlu sgorio cais ar Barc y Scarlets yn LlanelliFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o chwaraewyr y Scarlets yn dathlu sgorio cais ar Barc y Scarlets yn Llanelli y tymor diwethaf

Un sy'n amheus ynghylch cynllun yr undeb yw'r blogiwr rygbi, Siobhan Corcoran, sy'n dilyn y Scarlets.

"Dyw dau dîm ddim yn ddigon i ni fod yn gystadleuol yn y dyfodol - dyw e jest ddim yn ddigon o chwaraewyr," meddai ar raglen Dros Frecwast.

"'Sa i'n gwybod ble maen nhw'n meddwl y bydd y cefnogwyr yn dod os ydyn nhw'n creu dau dîm newydd.

"Dyw e jest ddim yn gneud sense i fi o gwbl.

"Yr un peth sy'n gwneud rygbi yng Nghymru yw'r emosiwn - y rivalries.

"Os ni jest yn cael dau entity yn chwarae, a dim passion ynddo fe, bydd y cefnogwyr ddim yn mynd.

"Pan o'n i'n darllen y ddogfen, doedd dim elfen bersonol, dim hanes, dim passion, dim byd fel 'na.

"Os ti eisiau gêm cryf, ti eisiau i blant fynd i chwarae i glybiau, mynd trwy'r academy system, achos os does dim clwb gyda hanes iddyn nhw deimlo'n gryf am, bydden nhw ddim eisiau chwarae.

"Mae'n edrych yn neis ar bapur, ond ddim mewn realiti."

'Fi'n cael fy rhwygo'

Cymysg yw teimladau'r gohebydd, a chyn-chwaraewr y Scarlets a'r Dreigiau, Rhodri Gomer Davies.

"Fi'n cael fy rhwygo rhywfaint," dywedodd. "Fi'n deall bod angen i ryw fath o newidiadau ddigwydd.

"Fi yn gyffrous i glywed y bydd rhagor o arian yn cael ei fuddsoddi mewn ieuenctid, bod yr undeb yn mynd i gymryd rheolaeth o'r academïau er mwyn meithrin y genhedlaeth nesaf.

"Yn anffodus, ar frig y gêm, does dim gyda ni ddigon o chwaraewyr o safon i gynnal pedwar tîm fel mae hi ar hyn o bryd.

"Ond os y'n ni'n mynd o bedwar lawr i ddau, mae'n mynd i fod yn amhosib bron i fynd nôl lan i dri neu bedwar yn y dyfodol.

"Dyna ble fi'n cael fy rhwygo rhywfaint - fi'n deall nad oes digon o chwaraewyr ar hyn o bryd i gynnal pedwar tîm, ond unwaith chi'n mynd lawr i ddau, mae hynny'n cyfyngu'r opsiynau sydd gyda chi o ran y pwll o dalent sy'n chwarae ar y safon uchaf."

Ychwanegodd ei fod ef yn ffafrio'r system Model C - ble byddai tri chlwb proffesiynol, gydag un o'r rheiny yn derbyn llai o gyllid na'r ddau arall.

Y Fonesig Nia Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Rhaid dangos beth sydd gan Lanelli i'w gynnig o ran cyfleusterau a thraddodiad o ddatblygu rygbi, medd Nia Griffith

Mae Aelod Seneddol Llanelli, ble mae cartref clwb y Scarlets, yn annog y cyhoedd i ddangos cryfder eu teimladau yn ystod y cyfnod ymgynghori.

"Roedd pawb yn disgwyl rhywbeth fel hyn ac mae'n gyfnod ansicr ac anodd iawn," dywedodd y Fonesig Nia Griffith.

"Be' sy'n bwysig iawn i ni yn Llanelli ac yng ngorllewin Cymru ydy sicrhau bod pobl yn deall beth sydd gyda ni i gynnig.

"Mae stadiwm 'da ni - y gorau rhwng y clybiau - gyda maint, cyfleusterau, lle i ddatblygu a chefnogaeth - cefnogaeth Cyngor Sir Gâr a chynghorau lleol a thref.

"Mae 'na gofnod gan y Scarlets o ddatblygu'r gêm o ran ieuenctid, menywod a chlybiau yn darparu llawer iawn o chwaraewyr enwog iawn.

"Mae'n bwysig iawn ein bod yn dangos yn ystod y broses yma beth 'da ni yn gallu cynnig a sicrhau ein bod ni'n rhan bwysig a dylanwadol ar benderfyniadau."

Dave ReddinFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dave Reddin ei benodi'n gyfarwyddwr rygbi a pherfformiad elît URC ym mis Ebrill

Yn ôl y sylwebydd Lauren Jenkins, roedd "naws Dave Reddin - ei gymeriad a'i wytnwch" wrth i'r undeb gyhoeddi eu cynllun ddydd Mercher yn rhywbeth y "byddai rhai yn dweud... sydd wedi bod ar goll dros y blynyddoedd".

"Mae'n dod o gefndir high performance, mae wedi dod i Gymru i asesu data a ffigurau," meddai.

"Dyw e ddim yn dweud bod e ddim yn poeni am gymunedau lleol, ond mae diffyg emosiwn yna, sydd falle yn galluogi newidiadau.

"Byddai eraill yn edrych ar y sefyllfa ac yn dweud bod hynny'n beth negatif - mae angen dealltwriaeth a chydnabyddiaeth o hanes a hunaniaeth y clybiau.

"Ond yn darllen y ddogfen tua 90 tudalen, mae Reddin a'r undeb yn eitha' penderfynol mai llwyddiant sy'n mynd i yrru torfeydd a diddordeb."

Ychwanegodd: "Dwi yn gallu rhagweld, ar bapur, y bydd e'n gweithio - yn gweithio i'r tîm cenedlaethol o safbwynt ennill gemau.

"Ond faint o effaith mae e'n mynd i gael ar y niferoedd sy'n chwarae, a'r diddordeb ar lefel iau?"

Gadael y Bencampwriaeth Rygbi Unedig?

Dywedodd y newyddiadurwr Steffan Thomas, ei fod ar ddeall mai'r awgrym ydy creu dau glwb cwbl newydd, a'i fod yn anghytuno gyda hynny.

Ychwanegodd fod angen i'r timau adael cynghrair y Bencampwriaeth Rygbi Unedig os am lwyddo.

"Gallen nhw fynd lawr i ddau, a gallen nhw fod yn llwyddiannus os ydyn nhw'n ddau dîm cryf, ond s'dim cefnogwyr yn mynd i gefnogi dau dîm newydd.

"Os ydyn nhw'n mynd lawr i ddau dîm, mae'n rhaid iddyn nhw gadw y brandiau presennol.

"'Sa i'n credu chwaith bod y United Rygbi Championship yn gweithio i Gymru.

"Os fydden i yn yr Undeb, targed fi fyddai cael dau dîm yn yr Anglo-Welsh i chwarae gyda timau Lloegr.

"Dwi'n credu y gallai e ddigwydd - maen nhw'n chwilio am ddau dîm newydd i ddod i'r gystadleuaeth achos maen nhw wedi colli timau fel Wasps a Gwyddelod Llundain."

Baner Undeb Rygbi Caerdydd ar gae rygbiFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Mae Undeb Rygbi Cymru'n dadlau bod model cyfredol y gamp yn anghynaliadwy

Ychwanegodd nad yw eisiau gweld Undeb Rygbi Cymru yn rheoli'r timau.

"'Sa i'n hoffi'r ddadl bod rhaid i'r Undeb gae rheolau dros y timau - so fe'n gweithio.

"'Sa i'n hoffi'r cynllun sydd 'da Dave Reddin am national campuses, ble byddai'r ddau dîm yn ymarfer yn yr un lle - dyw hynny ddim yn gystadleuol ac mae yn erbyn popeth mae rygbi amdano.

"Felly fi'n gallu gweld dau yn gweithio, ond 'sa i'n gweld e'n gweithio dan reolaeth yr Undeb, a 'sa i'n gweld e'n gweithio yn yr United Rygbi Championship."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.