Pwy yw rheolwyr newydd clybiau pêl-droed Cymru?

Rheolwyr clybiau CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn penodi rheolwr newydd yr wythnos yma, bydd gan dri thîm o Gymru sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr reolwyr newydd ar ddechrau'r tymor nesaf.

Mae Wrecsam a Merthyr yn parhau gyda'u rheolwyr o'r tymor diwethaf wrth gwrs, wedi i'r ddau dîm ennill dyrchafiad y llynedd.

Ond mae Casnewydd, Abertawe a'r Adar Gleision wedi penodi rheolwyr parhaol newydd.

Felly pwy yw Brian Barry-Murphy, David Hughes ac Alan Sheehan?

Brian Barry-Murphy

Brian Barry - MurphyFfynhonnell y llun, Getty Images

Wythnosau ers i Gaerdydd orffen ar waelod y Bencampwriaeth, daeth cadarnhad mai'r gŵr o Iwerddon fydd yn arwain y clwb yn yr Adran Un y tymor nesaf.

Er i Aaron Ramsey reoli'r Adar Gleision ar ddiwedd y tymor diwethaf ar ôl i Omer Riza gael ei ddiswyddo, daeth i'r amlwg fod Ramsey eisiau parhau i chwarae. Yn ôl y papurau, ym Mecsico bydd yn chwarae dymor nesaf mae'n debyg.

Pan benodwyd Murphy yn rheolwr newydd, roedd yn enw anghyfarwydd i nifer o gefnogwyr Caerdydd.

Fe chwaraeodd am gyfnod i Cork cyn symud i chwarae yn Lloegr.

Ymysg rhai o'i glybiau mae Sheffield Wednesday, Preston North End a Bury - gan chwarae dros 200 o gemau i'r clwb. Mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa fel hyfforddwr yn academi Manchester City.

Mae'n debyg mai dyma un o'r elfennau oedd yn apelio i Gaerdydd - mae gan Murphy brofiad o ddatblygu talent ifanc a'u trosglwyddo i chwarae i'r tîm cyntaf.

Fe adawodd Murphy academi City yn 2024, cyn ymuno â Chaerlŷr yn Uwch Gynghrair Lloegr fel is-reolwr, gan gynorthwyo Ruud van Nistelrooy.

Er i Gaerlŷr ddisgyn o'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor, roedd Murphy yn awyddus i brofi ei hun fel rheolwr ar dîm cyntaf, ac fe benderfynodd dderbyn cynnig Caerdydd.

Yn ei dymor cyntaf fe fydd pwysau arno i geisio cael Caerdydd yn ôl i'r Bencampwriaeth.

Dyw'r Adar Gleision heb chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed yn Lloegr ers 22 o flynyddoedd.

Alan Sheehan

Alan SheehanFfynhonnell y llun, Getty Images

Er bod Alan Sheehan wedi bod wrth y llyw yn Abertawe ers canol mis Chwefror, chafodd o ddim ei benodi'n barhaol nes ddiwedd Ebrill.

Fe adawodd Luke Williams ei swydd ac fe gamodd Sheehan i mewn wrth i'r clwb chwilio am reolwr newydd.

Ond fe lwyddodd i ennill 23 pwynt allan o 36 oedd ar gael, gan arwain yr Elyrch o ddyfroedd dyfnion y tabl.

Mae Sheehan wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Abertawe ers 2023, pan gafodd Michael Duff ei benodi'n rheolwr.

Cafodd Sheehan hefyd flas ar fod yn rheolwr Abertawe am gyfnod byr, ar ôl i Duff adael a chyn i Luke Williams gael ei benodi i'r brif swydd.

Cafodd Sheehan yrfa fel amddiffynnwr, a chwaraeodd dros sawl clwb gwahanol yn y Bencampwriaeth ac yn Adran Un.

Ar ôl gadael Iwerddon ble cafodd ei fagu, fe arwyddodd i Gaerlŷr yn 2003 ac fe gafodd gyfnod yn chwarae i Leeds United.

Ar ôl gadael Leeds fe chwaraeodd i sawl clwb gwahanol gan fynd ar fenthyg am gyfnodau byr i glybiau fel Peterborough United a Notts County. Setlodd yn Luton a chwarae bron i 100 o gemau cyn gadael yn 2016.

Fe wnaeth ymddeol o chwarae yn Oldham yn 2022 cyn troi at hyfforddi.

Mae Sheehan wedi arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r Elyrch ac mae wedi bwrw ati yn syth.

Mae Abertawe wedi arwyddo pedwar chwaraewr yn barod ar gyfer y tymor nesaf; Zeidane Inoussa, Bobby Wales, Ricardo Santos a Melker Widell, a wnaeth gytuno i symud i Abertawe ym mis Ionawr.

David Hughes

David HughesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Hughes wedi arwyddo cytundeb dwy flwynedd gyda Chasnewydd

Cymro o Wrecsam yw David Hughes, sydd â phrofiad helaeth o weithio mewn amryw o glybiau gwahanol.

Mae wedi'i benodi ar gytundeb dwy flynedd a dyma fydd ei swydd gyntaf yn arwain tîm cyntaf yn y Gynghrair Bêl-droed.

Fe dreuliodd Hughes y rhan helaeth o'i yrfa yn Amwythig cyn gorfod ymddeol yn 26 oed o ganlyniad i anaf drwg.

Cyn hynny fe chwaraeodd saith gêm i Aston Villa yn Uwch Gynghrair Lloegr.

O ran ei yrfa hyfforddi, mae'n uchel iawn ei barch. Cyn arwyddo i Gasnewydd roedd yn gweithio fel is-reolwr tîm dan 21 Manchester United.

Dywedodd Hughes nad yw "gadael clwb arbennig fel Manchester United fyth yn hawdd" ond ei fod yn "edrych ymlaen at y bennod nesaf".

Cyn ymuno â Manchester United ym mis Awst 2022, roedd Hughes wedi treulio cyfnodau yn hyfforddi timau ieuenctid Caerdydd a Southampton, yn ogystal â thimau ieuenctid Cymru.

Ffaith ddifyr arall am David Hughes yw ei fod yn briod â'r cyflwynydd, Eleri Siôn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.