Caerdydd yn penodi Brian Barry-Murphy yn rheolwr newydd

Chwaraeodd Brian Barry-Murphy dros Cork City, Preston North End, Southend United, Hartlepool United, Sheffield Wednesday, Bury a Rochdale
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi penodi Brian Barry-Murphy yn rheolwr newydd.
Mae cyn-chwaraewr canol cae dan-21 Gweriniaeth Iwerddon wedi arwyddo cytundeb tair blynedd hefo'r Adar Gleision.
Bydd Barry-Murphy, 46, yn olynu Omer Riza, a gafodd ei ddiswyddo ar 19 Ebrill.
Fe wnaeth Aaron Ramsey gymryd y llyw am dair gêm fel rheolwr dros dro, ond methodd a chadw Caerdydd yn y Bencampwriaeth wrth iddyn nhw ddisgyn i Adran Un.
Dywedodd perchennog Caerdydd, Vincent Tan, mai Barry-Murphy yw'r "dyn cywir" i symud y clwb ymlaen.
Cafodd Barry-Murphy gyfnod fel rheolwr Rochdale rhwng 2019 a 2021 cyn ymuno â Manchester City fel hyfforddwr yn yr academi.
Fe symudodd Barry-Murphy i Gaerlŷr fel hyfforddwr cynorthwyol i gyn-ymosodwr Manchester United, Ruud van Nistelrooy, yn ystod tymor 2024-25.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin
- Cyhoeddwyd18 Mai
- Cyhoeddwyd26 Ebrill