Bethesda: Cyhuddo dyn 19 oed yn dilyn digwyddiad ddydd Llun

Bethesda
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed wedi ei gyhuddo yn dilyn digwyddiad ym Methesda, Gwynedd ddydd Llun.

Mae'r dyn o ardal Bethesda wedi ei gyhuddo o anafu gyda bwriad, ymosod, gyrru'n beryglus, gyrru heb yswiriant a gyrru tra'i fod wedi ei wahardd.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn llys ynadon Llandudno yn ddiweddarach.

Cafodd dau berson arall eu harestio wedi'r digwyddiad, a dywedodd yr heddlu eu bod wedi eu rhyddhau dan ymchwiliad.