Cynnydd mewn da byw yn Sioe Môn yn 'galonogol iawn'

Mae disgwyl miloedd o ymwelwyr â Sioe Môn ar 12 ac 13 Awst
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl miloedd o ymwelwyr â Sioe Môn ar 12 ac 13 Awst

  • Cyhoeddwyd

Er gwaethaf y cyfyngiadau ar symud anifeiliaid yn sgil clwy'r tafod glas, mae nifer y da byw fydd yn Sioe Môn eleni yn uwch na'r llynedd.

Mae'n newyddion "calonogol iawn" yn ôl cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Môn, Gareth Pritchard Jones, ar drothwy'r sioe.

"'Da ni wedi bod yn ffodus iawn eleni bod niferoedd y gwartheg a defaid ar i fyny, serch helbulon y tafod glas ac arddangoswyr o dros y ffin o Loegr a'r Alban yn methu dod," meddai.

"'Da ni'n lwcus fod gynno ni gymuned frwd o arddangoswyr ar yr ynys, ac mae 'na gystadleuwyr ifanc yn dechrau. 'Da ni'n ffodus o'r ardal lle da ni'n byw."

Fis Gorffennaf, mi gollodd y Sioe Fawr yn Llanelwedd 40% o'u cystadleuwyr yn adran y gwartheg oherwydd y clwy.

Ond ym Môn, yn adran y moch hefyd mae 'na gynnydd yn nifer y cystadleuwyr - a 13 mewn un dosbarth sydd, mae'n debyg, yr uchaf erioed.

Elliw Haf Griffith
Disgrifiad o’r llun,

Gobaith Elliw Haf Griffith yw rhoi gwell syniad i bobl o ble mae eu bwyd yn dod yn y gorlan addysg

Elfen newydd eleni fydd y gorlan addysg - syniad llysgennad y sioe Elliw Haf Griffith.

"Mae sioeau amaethyddol yn ffenest siop i gefn gwlad ond hefyd yn chwarae rôl bwysig wrth addysgu'r cyhoedd o le mae eu bwyd yn dod," meddai.

"Mae 'na bethau fel amaethwyr 'da ni yn eu cymryd yn ganiataol - er enghraifft gweld buwch yn cael ei godro neu ddafad yn cael ei chneifio.

"Ond does gan lot o bobl dim llawer o syniad. Maen nhw'n mynd i'r archfarchnad ac yn gweld potel o lefrith a meddwl dim mwy am y peth.

"Mae'r gorlan addysg gobeithio yn gyfle i addysgu'r cyhoedd - plant a phobl ifanc - o le mae eu bwyd yn dod a'r gwaith a'r llafur a chariad sy'n mynd i gynhyrchu be' sydd ar eu plât bwyd bob dydd."

Bydd nifer o elfennau yn rhan o'r gorlan, gan gynnwys arddangosfa odro, twb o bridd i blant gael tyrchu am datws, a chyfle i weld hadau grawn fel ceirch a haidd.

Sied wartheg
Disgrifiad o’r llun,

Mae £20,000 wedi ei wario ar wella cyfleusterau ar faes y sioe, gan gynnwys yn y sied wartheg

Mae rhannau o'r maes wedi eu hail-wampio ar gyfer 2025, yn ôl y prif swyddog Cain Angharad Owen.

Dywedodd: "'Da ni wedi symud yr ardal adloniant, sef Y Cowt, fel mae'n cael ei adnabod, i leoliad arall.

"'Da ni wedi symud pabell y moch a'r sioe gŵn. Mae'n bwysig cadw safle a maes y sioe yn ffres.

"'Da chi isio ei 'neud o'n wahanol bob blwyddyn heb or-gymhlethu pethau."

Mae hi'n tanlinellu y bydd mynediad i'r Cowt am ddim, ac y bydd y pwyslais ar roi llwyfan i artistiaid lleol.

Tractors

Cadw cydbwysedd rhwng hyrwyddo'r sioe fel atyniad amaethyddol o safon a denu pobl o'r tu allan i'r diwydiant ydi'r her barhaus, meddai Gareth Pritchard Jones.

"Yn amlwg dydi pawb ddim hefo diddordeb yn y pethau amaethyddol ond dydan ni ddim isio troi yn ffair," meddai.

"'Da ni isio cadw'r elfen amaethyddol yn y blaen, ond mae'n rhaid cael elfennau fel stondinau hollol wahanol i ddenu pobl yma hefyd."

Yn ogystal â mwy o dda byw, mae nifer y stondinau wedi codi hefyd, ac am y tro cyntaf ers cyfyngiadau Covid bydd arddangosfa beiciau modur yn y prif gylch.

Edna Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sioe yn ffenest i mewn i'r diwydiant ac i fudiadau fel y Ffermwyr Ifanc, yn ôl Edna Jones

Ond un mudiad sydd ddim yn newydd i'r maes ydi'r ffermwyr ifanc.

"'Da ni' awyddus i hyrwyddo'r mudiad, be' 'da ni yn ei gynnal gyda'r nosau a chystadlaethau," meddai Edna Jones, swyddog datblygu'r mudiad ym Môn.

"A 'da ni'n awyddus iawn i gael aelodau newydd.

"Mae'r sir newydd ddathlu 80 o flynyddoedd ac mae'r mudiad yn genedlaethol yn cyrraedd y 90 y flwyddyn nesa'.

"Mae'n gyfle i bobl sydd ella heb gyswllt ffermio i weld be' sydd gynno ni yn mynd ymlaen."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig