Modd cafodd dyn ei dagu ym Mhorthmadog 'heb ei ddysgu i'r heddlu'

Richard Williams yn cyrraedd gwrandawiad blaenorol
  • Cyhoeddwyd

Doedd y modd y cafodd dyn ei dagu wrth gael ei arestio, ddim yn dechneg a oedd wedi cael ei dysgu i'r heddlu, mae llys wedi clywed.

Dywedodd hyfforddwr ar gyfer Heddlu'r Gogledd wrth reithgor yn Llys y Goron Caernarfon fod defnyddio dull o'r fath - sef gafael yn dynn o amgylch gwddf person nes ei fod methu anadlu'n iawn - yn gallu bod yn "beryglus".

Cafodd y Cwnstabl Richard Williams ei gyhuddo o ymosod ar Steven Clark ym mis Mai 2023, ar ôl cael ei alw i ddigwyddiad domestig ym Mhorthmadog.

Mae'n gwadu cyhuddiadau o dagu bwriadol ac ymosod a wnaeth achosi niwed corfforol.

Roedd y digwyddiad, a gafodd ei ffilmio ar gamera ffôn cymdogion, yn dangos Mr Clarke yn cael ei lorio gan PC Williams a chydweithiwr benywaidd mewn gardd o flaen tŷ.

Mae'r fideo, sydd wedi cael ei ddangos i'r rheithgor, yn dangos Mr Clark a'i ben wedi'i gloi, ac yn cael ei ddyrnu dro ar ôl tro yn ei ben.

Mae erlynwyr yn honni bod gweithred y diffynnydd wedi mynd y tu hwnt i rym rhesymol - honiad y mae'r swyddog yn ei gwestiynu.

'Dydyn ni ddim yn dysgu technegau tagu'

Cafodd uwch hyfforddwr heddlu ar gyfer Heddlu Gogledd Cymru ei holi ynghylch sut mae swyddogion heddlu yn cael eu dysgu i ddelio â rhai sy'n cael eu hamau o drosedd, a'u hatal.

"Dydyn ni ddim yn dysgu technegau tagu," meddai Valerie Williams-Gray. "Mae hynny'n beryglus."

Ond pan gafodd hi ei holi a allai swyddog ddefnyddio techneg o'r fath, dywedodd Mrs Williams-Gray y gallent "os oedden nhw'n wynebu bygythiad peryglus".

Gofynnwyd i'r hyfforddwr hefyd roi ei barn ar PC Williams yn dyrnu naw gwaith yn ystod yr arestio.

"Byddwn i wedi disgwyl gwirio rhwng pob ergyd, dim ond i weld beth oedd yn mynd ymlaen gyda'r unigolyn," meddai Mrs Williams-Gray.

Mae'r achos yn parhau.