Clod cenedlaethol i dafarndai Ceredigion sy'n 'teimlo fel cartref'

John Gale (chwith) yn rhoi gwobr CAMRA 2024 i Angharad Hywel a Paul Jacobs yn ol yn 2024.Ffynhonnell y llun, Angharad Hywel
Disgrifiad o’r llun,

Mae Angharad Hywel a Paul Jacobs wedi ennill gwobr ranbarthol CAMRA Bae Ceredigion bum gwaith o'r blaen

  • Cyhoeddwyd

Mae perchennog tafarn sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth genedlaethol yn dweud fod hynny'n "deyrnged" i'r holl gefnogaeth gan ei chymuned yng Ngheredigion.

Mae Rhos yr Hafod Inn yn Llan-non wedi cyrraedd rhestr fer Tafarn y Flwyddyn CAMRA (The Campaign for Real Ale) ynghyd ag 16 o dafarndai eraill ledled y Deyrnas Unedig.

Eleni maen nhw wedi ennill tafarn y flwyddyn Bae Ceredigion, gorllewin Cymru, a thrwy Gymru gyfan.

Dywedodd Angharad Hywel, sy'n rhedeg y dafarn gyda'i phartner Paul Jacobs, ei fod yn "sioc ein bod ni wedi ennill y wobr ar draws Gymru - ond hefyd yn anrhydedd".

Dyma'r eildro iddyn nhw ennill gwobr CAMRA gorllewin Cymru, a'r pumed tro yn eu rhanbarth yng Ngheredigion, ond y tro cyntaf iddyn nhw gael eu henwi'n dafarn y flwyddyn trwy Gymru.

Llun o du allan i'r dafarn yn Llanon. Mae'r dafarn wedi'i phaentio'n las ac mae rhes o flodau lliwgar y tu allan iddi.Ffynhonnell y llun, Angharad Hywel
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Rhos yr Hafod Inn ddod yn fuddugol yng Nghymru, a chyrraedd y rhestr fer derfynol trwy'r DU

Mae gwobr tafarn y flwyddyn CAMRA yn ceisio dod o hyd i'r dafarn orau er mwyn rhoi cydnabyddiaeth iddi, ac i arddangos gwaith caled y perchnogion.

"'Dyn ni'n rili lwcus yng Nghymru - mae safon ein bragdai'n dda iawn, ac mae ansawdd y cwrw'n uchel," meddai Angharad.

"Felly mae bron fel 'secret shoppers' - bydd aelodau CAMRA yn dod i mewn yn dawel, yn beirniadu'r cwrw, ac yn ein sgorio yn erbyn y tafarndai eraill."

Ynghyd â safon y cwrw ei hun, mae awyrgylch y dafarn, y croeso, yn ogystal â ffactorau fel hylendid a rôl y dafarn yn y gymdeithas yn cael eu hasesu.

Nid staff, ond 'ffrindiau'

Mae Angharad a Paul yn cyd-redeg y dafarn ers dros bedair blynedd, ac eisoes wedi magu eu plentyn bach yno.

"Mae'r dafarn yn gartref i ni - 'nes i syrthio'n feichiog yma," meddai Angharad.

"Mae'r fychan yn meddwl fod pawb yn fodryb neu'n ewythr iddi.

"Dwi'n gorfod dweud wrthi o hyd - 'naci, teulu tafarn yw nhw' - mae hi am ddrysu'n llwyr pan fydd hi'n hŷn!

"'Dyn ni mor lwcus o'r bobl sydd o'm cwmpas ni, 'dyn ni'm yn galw nhw'n staff, ond yn ffrindiau - cymdogion sy'n helpu o du ôl i'r bar."

Yn ogystal â gweini peintiau, mae'r dafarn yn llawn bwrlwm gyda nosweithiau cwis, gemau bwrdd a grwpiau o gerddorion yn llenwi amserlen y dafarn bob wythnos.

"Cymuned o bobl sy'n dod i yfed yma, ac ein ffrindiau ni sy'n rhedeg yr holl weithgareddau," dywedodd Angharad.

Hen lun iawn o rieni ac ewythr Angharad, gyda un o'r plant ieuengaf, yn eistedd ger mainc bicnic yng ngardd y dafarn yn ol yn y 70au cynnar. Mae ansawdd y llun yn hen.Ffynhonnell y llun, Angharad Hywel
Disgrifiad o’r llun,

John a Sheila Howells - rhieni Angharad - a'r teulu yng ngardd Rhos yr Hafod Inn nôl yn y 70au cynnar

Mae cysylltiad teuluol y dafarn yn deillio nôl i'r 70au, ac mae Angharad yn cofio ymweld â'r dafarn gyda'i thad pan yn ifanc.

"Dwi'n cofio ceisio dwgyd pacedi o greision o du ôl i'r bar... a dad yn dod â fi yma o hyd," meddai.

"Prynodd mam a dad y dafarn yn ôl yn 2014, a rhwng fi a'm chwaer, a bellach fi a'm partner, mae'n gartref i ni erbyn hyn.

"A dyna yw diben tafarn go iawn - cartref a rhywle i bobl ddod yma i gymdeithasu a lleddfu pwysau o wasgedd bywyd pob dydd.

"A 'dyn ni tu hwnt o ddiolchgar am hyn, achos nid yn unig mae ein ffrindiau ni'n ein galluogi ni gynnal busnes mewn cyfnod mor anodd, ond maen nhw'n ein galluogi i ni greu cartref i'n plentyn."

'Fwy fel hwb i'r ardal'

Tafarn arall yng Ngheredigion sydd wedi cael cydnabyddiaeth gan CAMRA yn ddiweddar, ond heb gyrraedd y brif restr fer eleni, yw tafarn y New Inn yn Llanddewi Brefi.

Dywedodd y perchennog Yvonne Edwards fod rhywun o CAMRA wedi dod i'w chyfweld, ac wedi dod i ddeall ei bod hi'n rhedeg y dafarn ers dros 35 o flynyddoedd.

Oherwydd hyn, mae Yvonne wedi derbyn gwobr arbennig gan gadeirydd CAMRA Bae Ceredigion, John Gale, i gydnabod ei holl waith caled.

"Mae hi'n braf teimlo fel fod fy ngwaith yn cael ei werthfawrogi - dwi'm yn un sy'n hoff o lawer o fuss," meddai Yvonne.

Llun o aelodau CAMRA gan gynnwys y Cadeirydd John Gale yn gwobrwyo tystysgrif i Yvonne. Mae'r chwech ohonynt yn sefyll ger y bar yn y New Inn, gyda golau cynnes a bwrdd darts yn y cefndir.Ffynhonnell y llun, Yvonne Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Yvonne (canol) ymysg aelodau CAMRA a'r cadeirydd John Gale yn derbyn ei gwobr arbennig

"Mae'r dafarn mewn lle gwledig - 'dyn ni fwy fel hwb i'r ardal erbyn hyn," ychwanegodd Yvonne.

Yn ogystal â gweini bwyd a diod, mae'r New Inn yn gartref i dîm pêl-droed a dartiau, ac yn cynnig gwasanaeth gwely a brecwast.

"O ddydd i ddydd, mae'n gallu bod yn manic yma," meddai.

"Dwi yma fy hun ers 35 o flynyddoedd, ac mae'n deimlad eithaf neis gweld fod pobl yn gwerthfawrogi'r gwaith sy'n cael ei wneud.

"Mae'r lle wedi newid gymaint ers imi ddechrau yma.

"Dwi'n 65 oed - dim ond blwyddyn sydd tan y byddaf yn ymddeol... ond dwi'n gallu gweld fy hun yn gwneud 40 o flynyddoedd yma rili."

Llun o dafarn y New Inn ger ochr lon yn y pentref. Mae gan y dafarn oleuadau bach yn hongian uwchben ei ffenestri, sydd a phaneli pren coch-frown iddyn nhw.Ffynhonnell y llun, Yvonne Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yvonne Edwards wedi bod yn rhedeg tafarn y New Inn ers dros 35 o flynyddoedd

Dywedodd Andrea Briers, cydlynydd cystadleuaeth Tafarn y Flwyddyn ar ran CAMRA: "Mae pob un o'r tafarndai hyn wedi dangos eu bod yn llawn ymrwymiad a chynhesrwydd at eu cymunedau.

"Mae cyflawni hyn wrth wynebu costau cynnal cynyddol ynghyd â phwysau eraill yn ganmoladwy."

Mae disgwyl i'r rhestr fer gael ei thorri i bedair tafarn ym mis Hydref, cyn i'r enillydd trwy'r DU gael ei gyhoeddi fis Ionawr 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig