Staff yn 'llawer hapusach' wedi gwelliannau mewn ysbyty

Llun o arwydd Ysbyty TreforysFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwelliannau wedi bod yn Ysbyty Treforys dros y misoedd diwethaf gan gynnwys i restrau aros ac ymateb ambiwlansys

  • Cyhoeddwyd

Fis Ionawr fe wnes i ymweld ag ysbyty Treforys - ail ysbyty mwyaf Cymru sy'n gartref i un o unedau brys prysuraf y wlad.

Bryd hynny fe glywais i bryderon mawr gan feddygon a nyrsys eu bod nhw'n methu â rhoi'r gofal yr oedd ei angen ar gleifion a hynny oherwydd straen aruthrol ar yr uned.

Fe rybuddion nhw hefyd fod cleifion yn cael niwed oherwydd bod cymaint yn gorfod aros ar droliau mewn mannau agored, a rhai am ddyddiau lawer.

Ond mae'r staff hynny bellach yn disgrifio tro ar fyd, gyda'r amgylchiadau yn yr uned yn dra gwahanol, ag amseroedd aros wedi gostwng yn sylweddol.

Dwi wedi bod yn ôl i Dreforys i holi beth yn union sydd wedi newid.

Ganol prynhawn, yn ystod fy ymweliad, fe welais i staff yn ymgynnull yn gyflym - yn paratoi i ymateb i dri galwad difrifol oedd newydd gyrraedd - yn cynnwys un claf â thrawma difrifol oedd wedi cael ei gludo yno mewn ambiwlans awyr.

Roedd tua 12 o unigolion yn cydweithio i'w sefydlogi.

Ond er eu bod nhw'n gweithio ar frys roedd yr awyrgylch yn dawel a phroffesiynol.

Gwrthgyferbyniad mawr i sut roedd pethau fis Ionawr yn ystod fy ymweliad diwethaf.

Cyrraedd cleifion 'fel obstacle course'

Bryd hynny fe welais i olygfeydd gofidus, gyda phob twll a chornel o'r uned frys yn llawn, a phobl yn cael eu trin ar droliau mewn mannau agored.

"Y broblem bryd hynny oedd ei bod hi'n anodd sylwi neu ymateb i'r cleifion os oedden nhw'n gwaethygu'n gyflym - roedd e fel obstacle course i'w cyrraedd nhw" medd uwch nyrs yr uned, Tristan Taylor.

"O'n i hefyd yn gorfod siarad â chleifion mewn mannau agored a chleifion eraill yn gallu gwrando ar y sgwrs."

Un pryder penodol bryd hynny oedd bod cymaint o bobl hŷn a bregus yn gorfod aros yn yr uned am gyfnod estynedig - a rhai wedi bod yn aros am dros wythnos i gael eu trosglwyddo i ward.

Yn ôl Jason Roome - un o reolwyr yr ysbyty - roedd yr amgylchiadau, o edrych yn ôl, yn gwbl annerbyniol.

"Do's dim dydd a nos yn yr adran frys, mae'r golau 'mlaen drwy'r amser," meddai.

"Felly os yw'r bobl hŷn yn dod mewn efallai sydd wedi cwympo - os ydyn nhw'n gorfod aros yn yr uned am ddyddiau bydden nhw'n gadael yn waeth na ddaethon nhw mewn."

"A doedden ni [fel bwrdd iechyd] ddim yn fodlon â hynny."

Beth sydd wedi newid?

Yn ystod fy ymweliad - roedd pethau'n amlwg yn dawelach.

Roedd ychydig dros 50 o gleifion yn yr uned o gymharu â dros 100 fis Ionawr.

Roed y mannau oedd gynt yn cynnwys rhesi o droliau, yn wag a phawb mewn ciwbicl neu mewn cadair benodedig.

Erbyn hyn:

  • Mae meddygon ymgynghorol profiadol ar ddyletswydd am gyfnodau hirach er mwyn gwneud penderfyniadau pendant yn gyflym;

  • Maen nhw hefyd yn cydweithio â thimoedd amlddisgyblaethol i sicrhau mai dim ond y rhai sy' wir angen triniaeth yn yr ysbyty sy'n aros yn yr uned;

  • Mae 28 gwely wedi cael eu clustnodi mewn rhan arall o'r ysbyty ar gyfer cleifion sy'n sâl iawn ond sydd angen asesiad pellach cyn penderfynu ar eu triniaeth (cyn nawr byddai'r cleifion hynny wedi gorfod aros yn yr uned frys).

Ond wrth ymuno ag un o gyfarfodydd staff yr ysbyty sylwais ar newid pwysig arall - yn y cyfarfod roedd cynrychiolwyr holl adrannau a wardiau'r ysbyty yn ymgynnull i drafod faint o wlâu oedd ar gael yn eu hadrannau.

Cyn y newidiadau byddai'r timoedd yma ond yn cymryd cyfrifoldeb am glaf pan oedden nhw'n cyrraedd eu ward benodol nhw.

Ond nawr, os yw rhywun, er enghraifft, yn cyrraedd â phroblem y galon neu'r stumog - yna mae'n rhaid i'r timoedd arbenigol perthnasol gymryd mwy o gyfrifoldeb amdanyn nhw o'r eiliad y mae claf yn cyrraedd yr uned frys.

Mae hynny'n gymhelliad iddyn nhw ryddhau gwlâu yn gynt ar eu cyfer.

Llun o Jason Roome
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwelliannau i ymateb ambiwlansys yn hollbwysig, meddai Jason Roome

Yn y tri mis ers eu cyflwyno mae'r newidiadau wedi arwain at welliannau sylweddol.

Yn ôl y bwrdd iechyd, mae nifer yr oriau y mae cleifion yn treulio'n ddyddiol yn yr uned wedi gostwng 20%.

Gan fod pobl yn cael eu trosglwyddo'n gynt i'r mannau mwyaf priodol yn yr ysbyty, gan gynnwys cleifion sydd ar ddiwedd eu hoes - mae nifer y marwolaethau sy'n digwydd yn yr uned wedi gostwng 63%.

Ond mae'r effaith hefyd yn cael ei deimlo y tu fas i ddrysau'r uned.

Yn ystod fy ymweliad fis Ionawr roedd dros 10 o ambiwlansys yn sownd y tu fas i'r uned ac un criw wedi treulio sifft 12 awr gyfan yn eistedd yng nghefn ambiwlans yn aros i drosglwyddo claf.

Oriau aros ambiwlansys wedi gostwng 72%

Erbyn hyn, mae cynnydd o 127% wedi bod yn nifer yr ambiwlansys sy'n llwyddo i drosglwyddo'u cleifion o fewn 45 munud a gostyngiad o 72% o ran yr oriau mae ambiwlansys yn aros y tu fas i'r uned frys.

Mae hyn yn golygu, ar unrhyw achlysur, fod llawer mwy o ambiwlansys yn yr ardal erbyn hyn yn rhydd i ymateb yn gynt i alwadau 999 newydd yn y gymuned.

Yn ôl un o reolwyr Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Jason Roome, mae'r gwelliannau i ymateb ambiwlansys yn "hollbwysig i ni".

"Cleifion Bae Abertawe yw'r cleifion yma - 'sdim ots a'i ni neu'r gwasanaeth ambiwlans sy'n edrych ar eu hôl nhw. Ein cleifion ni ydyn nhw," meddai.

Llun o Bethan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Jones yn falch iawn bod pethau wedi tawelu ac yn dweud bod "pethau'n lot saffach" nawr

Ond y tu fewn i'r uned frys, mae'r drefn newydd wedi cael effaith sylweddol hefyd ar iechyd a lles staff - fel yr esbonia Bethan Jones, nyrs sydd wedi gweithio yn yr uned am dair blynedd.

"Mae'n really neis a lovely i ddod i 'nabod y cleifion a siarad â nhw yn hytrach na rhedeg o un peth i'r llall," meddai.

"Yn ystod yr wythnosau diwethaf ma' pethe wedi bod lot gwell, mae mwy o staff, llai o gleifion, ma' pethau'n lot saffach - dwi ddim yn teimlo bo' fi'n trio gwneud miliwn o bethau ar yr un pryd."

Mae Jake Albrighton sydd hefyd yn nyrs yn ategu'r farn honno.

"Yn ôl yn Ionawr oeddwn i'n teimlo bach yn drist yn mynd adref... a roedd lot o'r cleifion oeddem ni'n gweld y noswaith gynt, o'ch chi'n dod yn ôl yn y bore a oedden nhw dal 'na' weithiau heb eu gweld, a dal yn yr un lle."

"Nawr mae staff lot yn hapusach... fi'n mynd adre' yn teimlo bo' fi wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil yn hytrach na brwydro [i ddiffodd] tannau," meddai.

Ai'r haf sy'n gyfrifol?

Gwadu mae'r bwrdd iechyd mai'r haf - pan mae 'na lai o afiechydon fel y ffliw yn ymledu - sy'n gyfrifol am y gwelliant.

Maen nhw'n nodi bod nifer y bobl sy'n mynychu'r uned neu'n cael eu cludo yno mewn ambiwlans yn uwch nawr na fis Ionawr.

Maen nhw hefyd yn dweud bod perfformiad yr uned yn llawer gwell nawr o gymharu â haf diwethaf.

Ond, yn sicr, fe fydd y prawf mawr o'r drefn newydd yn dod y gaeaf hwn.

Llun o Tristan Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan yr uwch nyrs, Tristan Taylor fwy o ffydd yng ngallu'r uned bellach

"Mi fydd y gaeaf yma yn naturiol yn heriol," meddai'r uwch nyrs Tristan Taylor.

"Ond mae gen i fwy o ffydd wrth i ni fynd mewn i'r gaeaf hwn o gymharu â'r gaeaf diwethaf."

Fel oedd yn amlwg yn ystod fy ymweliad – ma' gweithio mewn uned frys yn swydd heriol - ac mae uned frys Treforys yn parhau yn un o'r rhai prysuraf yng Nghymru.

Ond yn ôl staff, roedden nhw'n gweithio o ddydd i ddydd yn agos at y dibyn cyn y newidiadau, ac roedd cleifion yn dioddef o ganlyniad.

Ond nawr maen nhw'n dweud fod ganddyn nhw'r amser a'r gallu i gyflawni'r hyn y cafon nhw'u hyfforddi i wneud - sef trin y cleifion gwaelaf cyn gynted ag y gallan nhw, ac achub bywydau o ganlyniad.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.