Gweithio mewn ysbyty 'yn torri fy nghalon bob dydd'

Ambiwlansys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd wyth o ambiwlansys yn ciwio i drosglwyddo'u cleifion yn ystod fy ymweliad i

  • Cyhoeddwyd

Ysbyty Treforys ger Abertawe yw un o ysbytai mwyaf Cymru, ac mae'r uned frys yno'n adnabyddus am fod dan straen sylweddol yn aml.

Ond pam fod yr ysbyty dan gymaint o bwysau, a sut mae'r staff yn ymdopi ag amgylchiadau mor anodd?

Dyna'r cwestiynau roeddwn i am eu hateb pan ges i wahoddiad arbennig i ymweld â Threforys a chael cyfle i weld sut mae timoedd ar draws yr ysbyty yn ceisio, gymaint a bo modd, i ostwng y pwysau.

Mae'r ffigyrau diweddaraf a gafodd eu rhyddhau ddydd Iau yn dangos bod 802,268 o driniaethau eto i gael eu cwblhau yng Nghymru - record am 10fed mis yn olynol.

Yn y cyfamser, fe wnaeth y nifer fu'n aros mewn unedau brys am 12 awr neu fwy godi i dros 10,800 - yr ail uchaf ffigwr erioed.

Mae'n ganol y prynhawn, a minnau'n cerdded trwy ddrysau'r uned frys Ysbyty Treforys.

Yr hyn sy'n amlwg o'r eiliad gyntaf yw bod y lle dan ei sang, gyda chleifion ym mhob twll a chornel a staff yn rhuthro o un man i'r llall.

Mae un peth arall yn fy nharo'n syth - gyda phob ciwbicl yn llawn, mae rhai unigolion - yn cynnwys pobl hŷn a bregus - yn gorwedd ar drolïau yn y gwagleoedd rhwng y ciwbiclau hynny.

Er fy mod i wedi ymweld â sawl uned frys dros y blynyddoedd - mae'n olygfa sy'n fy ysgwyd.

'Fel sinc sy'n llanw â dŵr'

Rwy'n gofyn i Tristan Taylor, yr uwch nyrs sy'n fy nhywys, pa mor anarferol yw hyn?

"Dyma'r ffordd mae e wedi bod am beth amser," meddai.

Ond nid y diffyg parch ac urddas sy'n gysylltiedig â'r prysurdeb sy'n poeni Tristan fwyaf - mae'n becso hefyd am ddiogelwch y cleifion.

"Am bob person sydd eisiau dod mewn i'r ysbyty mae tri arall tu fas moyn yr un lle 'na.

"Mae trio cael y person iawn yn lle iawn yn gallu bod yn galed."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tristan Taylor fod y pwysau a weles i yn gyffredin iddyn nhw

Ychwanegodd: "Y shifft waethaf o'n i wedi cael o'dd pan gafon ni cardiac arrest yng nghanol blue major (yr ardal hon).

"Dy'n ni ddim yn ei alw fe'n goridor, ond 'na beth yw e, a mwy o bobl sydd 'da chi fewn fan hyn, yr anoddach ma' fe i gael at y cleifion sydd angen help.

"Y ffordd orau i esbonio yw fel sinc yn llanw lan 'da dŵr, a'r plwg mewn, ond chi ffaelu tynnu fe mas."

Claf yn aros am bum diwrnod

Dylai neb, yn ôl y targedau, aros mewn uned frys am dros 12 awr, ond mae'n amlwg bod nifer o'r cleifion yma wedi aros yn hirach na hynny, ac un claf, yn ôl y staff, wedi bod yn aros am dros bum diwrnod.

Yn ôl Dr Catrin Dyer, sy'n feddyg ymgynghorol yn yr uned, mae'r shifftiau arbennig o anodd hyn yn dod yn fwyfwy arferol.

"Yn anffodus, diwrnodau fel hyn... ni just yn gyfarwydd â nhw nawr.

"Fi'n gallu gweld bod lot o ambiwlansys tu fas a chleifion arnyn nhw. Mae lot o gleifion yn aros rhwng y trolley bays.

"Ma' popeth just ddim yn reit ar y funud. Mae'n teimlo fel bod ein walydd ni fel elastic bands - yn mynd yn fwy ac yn fwy."

Disgrifiad o’r llun,

Mae shifftiau arbennig o anodd yn dod yn fwyfwy arferol, yn ôl Dr Catrin Dyer

Y gwir yw, er mor sâl yw'r cleifion sydd yma eisoes, os oes rhywun yn cyrraedd a'i fywyd yn y fantol, fe gawn nhw flaenoriaeth.

Gyda gweddill yr ysbyty yn llawn dop hefyd, prin yw'r cyfleoedd i symud cleifion ymlaen.

'Fel jig-so bob dydd'

Fe ges i brofiad o hynny wyth awr ynghynt wrth ymuno â chyfarfod bore yr ysbyty cyfan.

Yn yr ystafell reoli am 09:00, mae cynrychiolydd o bob adran a ward yn cwrdd.

Fe glywon ni fod y sefyllfa dros nos yn peri pryder.

Tra bod un claf wedi aros 139 awr ar droli yn yr uned frys ac un arall wedi aros 44 awr ar gadair, dros yr ysbyty cyfan mae 85 o bobl yn aros am wlâu yn y wardiau a dim ond wyth yn siŵr o adael.

Felly mae 'na apêl ar bawb i chwilio am ragor o gleifion sy'n addas i'w rhyddhau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen Edwards fod "lot o barriers" o ran ceisio cael cleifion adref

"Ma' fe fel jig-so bob dydd," medd Helen Edwards - uwch nyrs sydd â throsolwg o'r ysbyty cyfan.

"Mae'n newid pob awr i ddweud y gwir. Ni'n siarad lot gyda'r matrons ar draws yr ysbyty i weld ble gallen ni symud pobl mas.

"Y straen heddi yw'r cleifion tu fas. Maen nhw mas am oriau mawr ar yr ambiwlansys ac mae'n anodd ceisio dod â nhw i fewn, a mae hwnna'n straen i ni.

"Nagyn ni moyn pobl tu fas, nagyn ni moyn cleifion ar drolïau am oriau, ond yn anffodus ma' pwysau ar yr ysbyty a ma' fe'n anodd iawn."

'Cleifion yn ofni gadael weithiau'

Ond mae'n ymddangos o drafodaethau yn y cyfarfod fod rhyddhau gwlâu yn fwy o her na'r arfer heddiw.

Mae achosion o'r ffliw mewn ysbyty gofal yr henoed gerllaw wedi cyfyngu ar nifer y cleifion all gael eu hanfon yno.

Ac er mwyn i un claf penodol allu mynd adre, rhaid i staff drefnu i gwmni cloeon ddod i ddatgloi ei dŷ.

"Mae lot o barriers - fel clywon ni bore 'ma," medd Helen Edwards.

"Efallai yr allwedd yn y tŷ neu falle mae'r toiled ddim yn gweithio, falle s'dim cymuned i nhw fynd nôl ato neu dyw nhw ddim moyn gadael.

"Ma' cleifion yn ofni gadael weithiau, a wedyn dau neu dri diwrnod yn ddiweddarach ma' nhw'n dod nôl mewn achos ma'r hyder 'di mynd.

"Ni'n gwthio'r barriers bob dydd. Hyd yn oed os ydyn ni 'mond yn cael un neu ddau mas bob dydd, o leiaf ni'n gweithio 'da rhywbeth."

'Pobl yn gwella'n gynt adref'

Ond mae timoedd ar draws yr ysbyty yn ceisio gwella pethau.

Mewn un adran mae staff, drwy gydweithio â chynghorau ac elusennau, wedi llwyddo i leihau'r cyfnod mae rhai cleifion yn aros yn yr ysbyty o fwy nag wythnos.

Mae hynny'n hollbwysig yn ôl Ceiron Browning, sy'n rhan o'r tîm sy'n paratoi cleifion i adael.

"Mae pobl yn gwella'n gynt adref a mae'r ymchwil yn dangos bod pobl yn gwella'n well yn y gymuned trwy fod rhywle cyfarwydd a lle mae gyda nhw mwy o annibyniaeth.

"Yr hiraf ma' nhw yn yr ysbyty mewn gwely, mae'r cyhyrau yn mynd yn llai a dydyn nhw ddim mor gryf.

"Hefyd mae'n gallu effeithio ar eu moods, ac yn yr ysbyty mae'r golau yn artiffisial a'r holl sŵn, mae'n achosi mwy o stress."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ceiron Browning fod cael cleifion adref i'w cartrefi o fudd iddyn nhw a'r ysbyty

Ychwanegodd ei fod yn credu bod "teuluoedd rhai yn becso bod pobl yn dod gartre' a gallen nhw falle cwympo gartre', felly mae'r teulu yn gallu bod yn ofnus".

"Mae timau ffisiotherapi ac occupational therapy yn gweithio gyda'n gilydd i gael popeth yn barod i'r claf cyn bod nhw'n gadael yr ysbyty i fynd gartre'."

Mewn adran arall, mae meddygon teulu yn cydweithio â staff i adnabod y galwadau hynny ble y gallan nhw gyfeirio cleifion oddi wrth yr uned frys a'u trin nhw ar yr un diwrnod.

"Mae 68% o'r bobl ni'n gweld [fel tîm] ddim yn mynd mewn i'r ysbyty. Mae'r nifer yn fawr," medd Nia Daniel - uwch ymarferydd clinigol ar gyfer cleifion hŷn.

"Wythnos ddiwethaf fe welon ni tua 100 o bobl rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

"100 o bobl sydd ddim yn mynd trwy ddrysau'r A&E a wedyn 68% o'r bobl 'na sydd ddim yn gorfod mynd i fewn i'r ysbyty."

'12 awr mewn ambiwlans'

Ond, er gwaetha'r holl ymdrechion, does dim gorffwys yn yr uned frys a hithau bellach yn 17:30.

Tu fas i'r fynedfa rwy'n cyfri' wyth o ambiwlansys yn ciwio i drosglwyddo'u cleifion, ac yn cael gwybod fod un wedi bod yma ers 08:45 y bore.

Rwy'n cwrdd â'r parafeddyg John Morgan, sydd wedi bod yma drwy gydol ei shifft.

"Bore 'ma, nes i ddod syth fan hyn i gymryd cleifion o'r criw arall a ni 'di bod 'ma nawr bron trwy'r dydd, a ni bron â gorffen.

"12 awr tu fas yr ysbyty a 'na gyd fi 'di 'neud heddi, a mae fel 'na bron pob dydd.

"Allen ni ddod mewn yn y bore a chymryd yr un cleifion o'dd 'da ni y noson gynt."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd John Morgan wedi treulio ei shifft gyfan yn disgwyl y tu fas i'r uned frys

Cymaint yw'r oedi, mae 'na fan aros penodol - sy'n cael ei adnabod fel y pod - wedi cael ei adeiladu ger mynedfa'r uned frys lle gall cleifion gael eu monitro er mwyn i'r criwiau ambiwlans gael seibiant.

Nid dyma'r tro cyntaf i ŵr Anne Donnavan o Gwmtawe, Clive, orfod aros yma.

"Y tro diwethaf arhoson ni bwyti pedair awr. O'n i nôl a 'mlaen o'r pod a'r ambiwlans ond aethon ni mewn i'r ysbyty yn y pendraw, a gafodd ei gadw mewn.

"Dwi ddim yn gwbod be' sy'n bod ond mae pawb yn trio'u gorau glas.

"Dwi ddim yn deall beth yw'r problemau ond nid y staff yw e - maen nhw'n trio."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Clive ac Anne Donnavan yn gyfarwydd â'r pwysau sy'n wynebu Ysbyty Treforys

Y gwirionedd yw, mae mwyafrif helaeth y cleifion nes i gwrdd â nhw tu fewn a thu fas i'r uned frys yn canmol y staff i'r cymylau.

Ond mae 'na ddealltwriaeth hefyd fod y system yn gwegian yn wyneb galw di-ben-draw.

Mae uwch nyrs yr uned frys, Tristan Taylor, a'i gydweithwyr yn ymwybodol o hynny'n well na neb.

"Ma' fe'n torri fy nghalon i, bob dydd," meddai wrtha i cyn ffarwelio.

"Ma' fe fel y ffilm Groundhog Day - mae just yn dal i ddod a dod."

Pynciau cysylltiedig