Llwyddiant a sgandal: Cymry Who Wants to Be a Millionaire?

Davyth FearFfynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Davyth Fear o Lanrug yn ennill £500,000 yn 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae Gary Slaymaker yn ffan o raglenni cwis, ac mae wedi mynd ati i edrych nôl ar gysylltiadau Cymreig un o'r rhai mwyaf poblogaidd, Who Wants to Be a Millionaire? Y cysylltiadau da a drwg...

Chwarter canrif yn ôl, fe wnaeth Martin Skillings o Norfolk, ennill £125,000 ar y sioe gwis Who Wants to be a Millionaire; y person cynta i ennill swm mor sylweddol ar y rhaglen, a’r cynta erioed i ennill gwobr ariannol chwe ffigwr yn hanes teledu Prydeinig.

Yn Nhachwedd yr un flwyddyn, fe wnaeth John Carpenter ennill y miliwn cynta' ar fersiwn Americanaidd y sioe, heb ddefnyddio r’un o’i lifelines cyn cyrraedd y cwestiwn ola.

Pwyllodd Carpenter cyn ateb y cwestiwn am y miliwn, a phenderfynu defnyddio'i Phone a Friend i alw ei dad, a dweud y geiriau arwrol, “Hi Dad. I don’t really need your help, I’m going to win the million dollars”.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

John Carpenter oedd enillydd cyntaf jacpot fersiwn Americanaidd y sioe - yma gyda'r cyflwynydd Regis Philbin

D’odd 1999 ddim cystal blwyddyn i John Davidson o Northumberland, pan lwyddodd e gael yr anrhydedd anffodus o fod y cystadleuydd cynta yn hanes y sioe i fynd adre heb yr un geiniog, ar ôl 'neud llanast o’r cwestiwn £1,000 – Enw pa ferch oedd yn deitl i un o nofelau Jane Austen?

Medde John, yn llawn hyder, 'Jane'…ac adre ag e â'i gynffon rhwng ei goesau – (eironi hyfryd, gan mai dog handler o'dd e yn ei waith dyddiol).

Llwyddiant y Cymry

Mae Millionaire yn un o’r sioeau 'na sy’n cynnig y gorau a’r gwaetha o ran profiadau i’r cystadleuwyr, ond mae e’n deledu 'rhaid gweld' i’r sawl ohonon ni sydd yn rhy swil - neu twp yn fy achos i - i roi cynnig ar wobr mor sylweddol.

Ry' ni Gymry wedi gadael ein marc ar y rhaglen dros y blynyddoedd.

Yn Ebrill 2001, athro ffiseg o’r Barri, David Edwards, odd y dyn cynta i ennill y miliwn ar y fersiwn Brydeinig.

Ro'dd Edwards hefyd yn bencampwr Mastermind ym 1990, felly mae’n saff dweud bod 'na ddigon rhwng clustiau’r dyn.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

David Edwards yn ennill miliwn o bunnoedd yn 2001

Yn 2019 fe wnaeth yr athro Davyth Fear o Lanrug ennill £500,000, a blwyddyn yn ddiweddarach, 'nath ei frawd bach, Donald, fynd gam ymhellach ac ennill y miliwn.

Bellach, ma Davyth yn aelod o Orsedd Cernyw, a’i enw barddol yw Karer Kedhlow – carwr gwybodaeth. Addas.

O ran enwogion Cymreig ar Millionaire, fe fuodd Ruth Jones (Nessa ar Gavin a Stacey) ar y sioe i geisio ennill arian ar gyfer elusen Tŷ Hafan. Er ei bod hi wedi cyfadde nad o'dd llawer o siâp arni mewn sioeau cwis - a straffaglu ar adegau i ddod o hyd i’r ateb – fe lwyddodd hi i godi £16,000 tuag at yr elusen, whare teg.

Sgandal!

Ond y stori gyda’r cysylltiad Cymreig sy’n aros yn y cof yn bennaf, yw un o sgandal, yn hytrach na llwyddiant; hanes y 'coughing major' a’r darlithydd coleg o Gaerdydd, Tecwen Whittock.

Charles Ingram oedd wrth wraidd y stori yma. Yn ôl ei dudalen Wikipedia: 'Ingram is an English fraudster, novelist, and former British Army major'… os gweud hi, gweud hi.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tecwen Whittock, a Diana a Charles Ingram yn cyrraedd yr achosion llys yn eu herbyn yn 2003

Ro'dd gan Charlie syniad ynglŷn â thwyllo’i ffordd i jacpot y rhaglen gydag ychydig gymorth gan ei wraig, Diana, a’r cyfaill Tecwen. Fel rhyw fath o gôd cyfrinachol, bydde pesychiadau Diana a Tecwen o ganol y gynulleidfa yn arwain Ingram tuag at yr ateb cywir ar y sgrîn o’i flaen.

Yn anffodus i’r tri twyllwr, ro'dd tîm cefn llwyfan Millionaire yn barod yn amheus o ymddygiad Ingram, a’r ffordd ffwrdd-â-hi ro'dd e’n mynd ati i ateb cwestiynau.

Er bod y Major wedi ennill y miliwn ar y sioe, ni welodd e, Diana na Tecwen geinog o’r wobr, wrth i gwmni cynhyrchu Celador archwilio ymhellach i’r achos. Yn go gloi wedi ‘ny, 'nath yr heddlu gymryd y mater ymhellach gan gyhuddo’r tri o 'procuring the execution of a valuable security by deception'…neu ‘tseto’ fel wy’n galw fe.

Straen a thensiwn

Ma' 'na Gymry wedi ffindo’u hunain tu ôl i lenni Millionaire hefyd. Fuodd Dai Lloyd o Aberystwyth yn dechnegydd ar y rhaglen - ro'dd e ar raglen ola' Chris Tarrant, fel mae’n digwydd - yn gweithio ar raglenni a recordiwyd yn Llundain ac ym Mharis.

“Ro'n i’n paratoi keypads y gynulleidfa, a bod ar gael i fynd ar set os oedd 'na broblem gyda’r dechnoleg”.

Ro'dd y cynyrchiadau’n sylweddol eu maint, gyda nifer o staff yn cyd-dynnu i gael y sioe ar yr awyr. Fel wedodd Dai, “Ro'dd y setio fyny yn eitha hamddenol, dros bedwar diwrnod, a wedyn un diwrnod o stress llwyr wedi hynny”.

Gyda phedair rhaglen i'w ffilmio mewn diwrnod, do'dd dim syndod bod 'na stress yn perthyn i’r holl beth.

Ac oherwydd y swm anferthol o'dd ar gael, ro'dd 'na hefyd densiwn amlwg ymysg y cystadleuwyr a’r gynulleidfa. Ac ers achos y ‘pesychwyr’, ro'dd 'na lefel ryfeddol o baranoia ynglŷn â chadw’r cwestiynau’n ddirgel, a monitro pawb a phopeth yn y stiwdio.

Ffynhonnell y llun, ITV
Disgrifiad o’r llun,

Chris Tarrant oedd cyflwynydd y gyfres gwis boblogaidd o 1998 tan 2015. Jeremy Clarkson sydd wrth y llyw ers 2018

Felly, dyna rai o gysylltiadau Cymreig Who Wants to be a Millionaire. Wrth roi'r erthygl yma at ei gilydd, fe ddes o hyd i sawl tip defnyddiol:

Gwnewch yn siŵr bod gyda chi ystod eang o wybodaeth cyffredinol, mae’n werth ymarfer y 'fastest finger' droeon o flaen llaw, a pheidiwch byth â gofyn i’r gynulleidfa am help… wel, chi’n gwbod shwt ma' rhai pobl.

Pynciau cysylltiedig