Protest yn erbyn cynllun i gau canolfan ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian

Bwlch Nant yr ArianFfynhonnell y llun, Suki Morys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd protest i wrthwynebu cynlluniau i gau canolfan ymwelwyr ar safle Bwlch Nant yr Arian nos Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae protest wedi ei chynnal i wrthwynebu cynlluniau Cyfoeth Naturiol Cymru i gau canolfan ymwelwyr ar safle Bwlch Nant yr Arian.

Mae Bwlch Nant yr Arian ger Aberystwyth yn denu miloedd o feicwyr, cerddwyr a gwylwyr adar yn flynyddol.

Mae'r ardal hefyd yn boblogaiddd ymysg trigolion lleol, ac mae nifer yn siomedig gyda CNC am beidio â chynnal cyfarfod cyhoeddus i esbonio’r cynlluniau i gau’r ganolfan.

Hyd yn hyn, mae deiseb sy’n gwrthwynebu’r penderfyniad wedi’i lofnodi gan bron i 8,000 o enwau.

Ond, yn ôl llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru, bydd gwasanaethau fel mannau chwarae, parcio ceir a darpariaeth toiledau yn parhau i fod yn agored ac maen nhw'n awyddus i chwilio am "ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol".

Yn ôl Elen Howells, sy’n rhan o’r ymgyrch i achub Canolfan Bwlch Nant yr Arian, byddai cau’r ganolfan yn “ergyd fawr” i'r economi leol sy'n “ddibynnol iawn” ar dwristiaeth.

“Mae gan CNC ddyletswydd statudol i ddarparu ac ehangu mynediad i’r math yma o lefydd,” esboniodd.

Mae hi'n poeni bydd cau’r ganolfan yn arwain at “gyfyngu cyfleoedd”, yn enwedig i’r henoed, i blant ac i bobl anabl.

Ffynhonnell y llun, Suki Morys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd llawer o feicwyr yn y brotest nos Iau

Mae Suki Morys hefyd yn rhan o’r ymgyrch i achub y ganolfan. Mae'n teimlo bod gan y ganolfan “gymaint o botensial i ddenu ymwelwyr o bell ac agos” a bod y caffi a’r siop yn ffurfio “rhan hanfodol o’r profiad”.

“Yn y ganolfan hon hefyd mae’r unig le yn yr ardal sydd â chyfleusterau i’r anabl sy’n cyfuno tŷ bach â lle pwrpasol i ddiwallu anghenion personol hefyd”, meddai.

'Hollbwysig' i ddenu ymwelwyr

Yn y brotest nos Iau, roedd aelodau o glwb beicio mynydd Ystwyth CC a llefarwyr ar ran y byd beicio sy'n defnyddio'r ganolfan.

Yn eu plith oedd Andrew Reg Rendell, sy’n byw’n lleol ac wedi bod yn rhan o’r byd beicio a beicio mynydd ers cyn bodolaeth llwybrau beicio Bwlch Nant yr Arian a Choed Y Brenin.

Mae e’n teimlo bod y ganolfan yn rhan fawr o ddenu’r “miloedd o feicwyr mynydd ac e-feicwyr sy'n defnyddio’r cyfleusterau bob blwyddyn ac yn dod o bob rhan o Brydain i wneud hynny”.

Bu Pricilla Mason Jones hefyd yn y brotest. Mae hi'n rhedeg maes carafanau yn yr ardal, ac yn teimlo bod y ganolfan yn “hollbwysig” i ddenu ymwelwyr sy’n dod ar wyliau.

'Dim cynlluniau ar gyfer newidiadau eraill'

Byddai cynnig Cyfoeth Naturiol Cymru yn golygu cau tri chanolfan ymwelwyr ddiwedd mis Mawrth 2025 - Coed y Brenin, Bwlch Nant yr Arian, ac Ynyslas.

Dywedodd Elsie Grace, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru: "Ar hyn o bryd mae CNC yn ymgynghori â staff ac Undebau Llafur ar gynigion ar gyfer newidiadau i'w strwythur staffio, er mwyn cyrraedd y targed arbedion o £13m."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cyfarfod ei gynnal ddechrau mis Awst i drafod dyfodol canolfan ymwelwyr Coed y Brenin

"Rydyn ni'n edrych ar draws ein holl gylch gwaith ac yn adolygu'n feirniadol yr hyn y gallwn ac y mae'n rhaid i ni barhau i'w wneud, yr hyn rydyn ni'n ei stopio, a'r hyn rydyn ni'n ei arafu neu'n ei wneud yn wahanol i gyflawni ein huchelgeisiau Cynllun Corfforaethol.

"Un elfen sydd yn ein cynnig presennol i staff yw nad ydym bellach yn gweithredu darpariaeth arlwyo a manwerthu mewn canolfannau ymwelwyr. Os cytunir ar y cynigion hyn, byddwn yn gallu gweithio gyda phartneriaid i chwilio am ffyrdd newydd o weithio yn y dyfodol a chwilio am bartneriaid i redeg y gwasanaethau hyn.

"Does dim cynlluniau ar gyfer newidiadau eraill. Bydd y safleoedd eu hunain yn parhau i fod ar agor ar gyfer cerdded a beicio fel y maent ar hyn o bryd, a bydd gwasanaethau fel mannau chwarae, parcio ceir a darpariaeth toiledau hefyd yn parhau i fod ar gael."

Pynciau cysylltiedig