'Dwi'n falch iawn o roi llwyfan i'r Gymraeg ar The Traitors'
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod cynnwys dwy bennod gyntaf The Traitors, Cyfres 3
Mae un o gystadleuwyr The Traitors wedi dweud ei bod yn falch iawn o roi llwyfan i'r Gymraeg ar y gyfres deledu boblogaidd.
Cafodd pennod agoriadol y gyfres ei gwylio gan dros bum miliwn o bobl ar ddydd Calan - gyda'r geiriau "dwi'n ffyddlon" yn cael eu hadrodd yn Gymraeg yn yr ail bennod.
Mae'r gyfres yn herio cystadleuwyr, sy'n cael eu galw'n "ffyddloniaid" - neu "faithfuls" - i ddod o hyd i "fradwyr" yn eu plith.
Er iddi adael y gystadleuaeth yn gynnar, mae Elen Wyn yn dweud ei bod wastad wedi bod eisiau defnyddio'r cyfle i hyrwyddo ei mamiaith.
"Roedd yn brofiad emosiynol iawn," meddai'r cyfieithydd 24 oed.
"Roedd dweud fy mod i'n ffyddlon yn Gymraeg ar ddiwedd fy nhaith yn rhywbeth o'n i'n awyddus i'w wneud.
"Ro'n i eisiau hyrwyddo'r iaith a dangos fy mod i'n falch o fod yn Gymraes."
'Saesneg yn heriol'
Cafodd Elen ei magu mewn ardal wledig yng ngogledd Cymru, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.
Mae hi'n credu bod amheuon wedi codi amdani ymhlith cyd-gystadleuwyr oherwydd ei bod, meddai, yn ei chael yn anoddach i gyfathrebu yn Saesneg.
"Mae siarad Saesneg yn rhywbeth sy'n gallu bod yn heriol i mi, ac roedd hynny'n gwneud y gystadleuaeth yn fwy anodd," meddai wrth BBC Newsbeat.
"Dwi'n meddwl yn Gymraeg, ac weithiau mae hynny'n gwneud i bobl sy'n siarad Saesneg fy israddio neu hyd yn oed meddwl fy mod i'n 'dwp'."
Mae Elen yn hefyd yn credu bod mwy o bobl yn dechrau gwerthfawrogi'r iaith diolch i siaradwyr Cymraeg mewn rhaglenni mawr eraill, fel Actavia ar RuPaul's Drag Race UK.
"Dwi'n falch iawn," meddai Elen. "Dwi'n meddwl bod mwy o bobl yn croesawu'r iaith rŵan."
Er gwaethaf ei hymadawiad cynnar o'r gystadleuaeth, mae Elen yn falch o'i chyfraniad.
"Roedd rhan ohonai'n meddwl ella 'mod i wedi siomi Cymru drwy gael fy alltudio mor fuan ond y gwir ydy 'mod i wedi gallu hybu'r iaith hyd eithaf fy ngallu ac mae'r gefnogaeth a'r cariad dwi wedi'i gael wedi bod yn rhyfeddol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd26 Medi 2024