Rali Ceredigion: 'Un o rasys fwyaf cynaliadwy'r byd'
- Cyhoeddwyd
Mae rali sy'n cael ei chynnal yn y canolbarth y penwythnos hwn wedi'i chydnabod gan gorff llywodraethu campau modur y byd am ei gwaith i wneud y digwyddiad yn fwy cynaliadwy, a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol.
Dywedodd trefnwyr Rali Ceredigion fod cynaliadwyedd yn flaenoriaeth, a bod yr holl allyriadau carbon sy'n gysylltiedig â'r cerbydau sy'n cystadlu yn y rali yn cael eu "gwrthbwyso'n gyfrifol".
Mae hi wedi ennill achrediad amgylcheddol yr FIA (Fédération Internationale de l'Automobile) - yr unig ddigwyddiad o'i fath yn y DU i gyflawni hyn.
Bydd y rali eleni yn gosod record newydd yn y DU, trwy dalu am "wrthbwyso [allyriadau carbon] yn y dyfodol am leiafswm o 100,000kg CO2e o'r digwyddiad".
'Ceisio bod yn gyfrifol'
Dywedodd Phil Pugh, cadeirydd y pwyllgor trefnu: "Dydych chi ddim yn cael achrediad dwy seren yr FIA trwy wneud dim byd.
"Mae'n rhaid i chi gyrraedd y targedau a osodwyd gan yr FIA, ac maen nhw'n llym iawn.
"Ni oedd y digwyddiad cyntaf yn y DU i wneud hyn llynedd, a nawr y digwyddiad cyntaf i gael achrediad dwy seren.
"Felly gobeithio awn ni am y tair seren y flwyddyn nesaf, a pharhau i wella.
"Ry'n ni i gyd yn ceisio ein gorau i fod yn gyfrifol gyda'r ffordd ry'n ni'n gwneud pethau – er enghraifft ailgylchu.
"Hefyd mae llawer o bobl yn troi at ynni gwyrdd ar gyfer y rali ei hun. Mae ein holl gerbydau'n rhedeg ar danwydd allyriadau isel."
Rali Ceredigion oedd y rali cymalau arbennig gyntaf i gael ei chynnal yn gyfan gwbl ar ffyrdd cyhoeddus caeedig yng Nghymru.
Cafodd ei threfnu am y tro cyntaf yn dilyn newid i Ddeddf Traffig Ffyrdd yn 2017, oedd yn golygu y gallai digwyddiadau cystadleuol gael eu cynnal ar briffyrdd cyhoeddus ar dir mawr Prydain, yn hytrach nac ar ffyrdd a thraciau ar dir preifat.
Cynllun plannu coed
Bydd yr holl allyriadau sy'n gysylltiedig â cheir sy'n cystadlu, a cherbydau'r trefnwyr, yn cael eu gwrthbwyso trwy gynlluniau ardystiedig.
Yn ôl y trefnwyr, bydd digwyddiad eleni yn gwrthbwyso dros 100 tunnell o allyriadau carbon - un o'r prosiectau gwrthbwyso carbon mwyaf y byd ar gyfer rali, a'r mwyaf o bell ffordd yn y DU.
Ychwanegodd Phil Pugh: "Ry'n ni'n gweithio law yn llaw â Carbon Positive Motorsport, sydd â chynlluniau [gwrthbwyso carbon] sy'n ein helpu ni yn y maes hwn.
"Ym mhob un o'n parthau cefnogwyr ry'n ni'n cynnig cynllun rhannu ceir, ac mae gennym ni system parcio a theithio."
Dywedodd llefarydd ar ran Carbon Positive Motorsport: "Y lefel hon o wrthbwyso carbon fydd yr uchaf o unrhyw rali yn y DU hyd yn hyn, ac un o'r lefelau iawndal carbon uchaf o unrhyw ddigwyddiad rali yn y byd hyd yma."
Mae cyfanswm y carbon deuocsid yn cael ei gyfrifo ar sail nifer y cystadleuwyr, cerbydau'r trefnwyr ac amcangyfrifon o logisteg y digwyddiad a nifer y gwylwyr.
Dywedodd Carbon Positive Motorsport fod disgwyl i'r ffigwr terfynol gynrychioli 25% yn fwy o wrthbwyso na'r ôl troed carbon a grëwyd gan y digwyddiad.
Bydd y prosiect yn gwrthbwyso'r allyriadau carbon drwy blannu coed – rhywogaethau brodorol yn bennaf – yn ucheldir Yr Alban yn Loch Ness.
Car hybrid newydd
Mae'r trefnwyr yn rhagweld y bydd miloedd o gefnogwyr yn ymweld â chanolbarth Cymru i ddilyn y digwyddiad dros y penwythnos – gan amcangyfrif bod effaith economaidd rali'r llynedd tua £2m.
Ar ôl digwyddiad seremonïol yn Aberystwyth nos Wener, bydd y rasio'n digwydd dros y ddau ddiwrnod canlynol.
Mae'n cynnwys 14 cymal drwy rai o rannau harddaf Ceredigion gan gynnwys Y Borth, Cwmerfyn a Chwm Ystwyth, Llanafan a Nant y Moch.
Hefyd, mae cymal y tu allan i Geredigion ger cronfa ddŵr Clywedog ym Mhowys.
Ers y llynedd mae'r ceir sy'n rasio ym mhrif ddigwyddiad y gamp, Pencampwriaeth Rali'r Byd, wedi bod yn gerbydau hybrid sy'n cael eu pweru gan injan hylosgi mewnol a batri trydan.
Bydd car rali hybrid yn cael ei arddangos yn Aberystwyth cyn yn y digwyddiad seremonïol nos Wener.
Bydd yr M-Sport Ford Puma hefyd yn cael ei yrru ar daith arddangos trwy Aberystwyth cyn cymalau stryd y rali yn y dref nos Sadwrn.
Dyma fydd y tro cyntaf i gar rali hybrid – sy'n cael ei bweru gan danwydd 100% di-ffosil – gael ei yrru ar gymal rali asffalt yn y DU.
'Golygfa drawiadol'
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr M-Sport, Malcolm Wilson, a fydd yn y digwyddiad: "Mae'r adborth am Rali Ceredigion wedi bod yn gadarnhaol ar y cyfan, ac mae'n wych gweld digwyddiad sy'n dal yn ei ddyddiau cynnar yn denu diddordeb mawr gan gefnogwyr, gyrwyr a phartneriaid.
"Dw i'n gyffrous iawn i fod yn ymweld â Rali Ceredigion ac i weld ein car ar strydoedd Aberystwyth. Dylai fod yn olygfa drawiadol.
"Dw i ddim wedi cuddio'r ffaith fy mod yn rhwystredig nad oes gennym ni rali sy'n rhan o bencampwriaeth y byd yn y DU, ac nid yw ein cefnogwyr wedi cael llawer o gyfle i weld ceir anhygoel hybrid.
"Dim ond trwy eu gweld yn rhedeg go iawn, wyneb yn wyneb y gellir gwerthfawrogi'r dechnoleg sydd gan y ceir hyn a'r pethau y gallan nhw eu gwneud."
'Cefnogaeth leol yn wych'
Enillwyd y rali gyntaf yng Ngheredigion gan Osian Pryce o Fachynlleth, a enillodd Bencampwriaeth Rali Prydain yn 2022.
Daeth yn ail yn Rali Ceredigion y llynedd a dywedodd ei fod yn edrych ymlaen at gystadlu eto yng Nghymru.
"Gobeithio y gallwn ni symud ymlaen o le gyrhaeddon ni y llynedd," meddai.
"Fe wnes i fwynhau'r cymalau ac ry'n ni'n gobeithio y bydd popeth yn clicio i'w le gan ei fod wedi bod yn dymor anodd hyd yn hyn.
"Mae'n argoeli i fod yn rali heriol, a dau ddiwrnod dwys o rasio ar y ffyrdd tarmac gorau y gallech chi gael.
"Mae'n wych bod y digwyddiad yn cael cefnogaeth y gymuned leol eto, ac yn arddangos yr hyn sydd gan Geredigion i'w gynnig."
Mae 112 o gystadleuwyr yn y rali eleni, a waeth pwy sydd ar y podiwm ddydd Sul bydd y trefnwyr yn parhau â'u gwaith i wneud y rali'n gynaliadwy.
Maen nhw'n dweud y bydd y digwyddiad yn arddangos ffyrdd o ddatgarboneiddio ralïo gan gynnwys trwy ddefnyddio tanwyddau amgen, a'u bod yn gweithio i fod yn ddigwyddiad carbon niwtral erbyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd Phil Pugh: "Y llynedd daeth cynaliadwyedd a bod yn fwy cyfeillgar i'r amgylchedd yn ganolog, a dyna lle ry'n ni wedi gwthio'r rali yn ei blaen, sef yr un gyntaf gydag achrediad yr FIA ar gyfer cynaliadwyedd.
"Byddwn yn parhau i wthio'n galed i'r cyfeiriad yna."
Bydd rhai o fusnesau Aberystwyth hefyd yn gobeithio elwa o gynnal y digwyddiad ar eu stepen ddrws - a hynny fwy neu lai'n llythrennol i ambell un.
"Bob tro mae 'na ddigwyddiad, mae 'na bobl yn dychwelyd tu allan i'r achlysur i weld beth mae'r dref fel, i weld a ydyn nhw'n mwynhau, a chael lot o hwyl yn dychwelyd trwy gydol y flwyddyn," meddai Richard Griffiths, sy'n rhedeg Gwesty Richmond.
"Hefyd, mae pobl yn dod am y penwythnos jyst i eistedd yn ffenestri'r gwesty i weld yr hyn sy'n digwydd ar y prom."
Ychwanegodd Lily Lewis, sy'n gweithio ym mwyty Baravin ar y prom, eu bod nhw'n "eitha' lwcus gyda'r lleoliad".
"Fydd e'n denu fwy o bobl mewn aton ni, a ni’n edrych yn eitha' prysur dros y penwythnos yn barod," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Medi 2022
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2023