Llwyddiant i Elfyn Evans yn Rali'r Ffindir

  • Cyhoeddwyd
elfynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Elfyn yn y canol, gyda Kalle Rovanpera ar y chwith a Sébastien Ogier ar y dde

Mae Elfyn Evans wedi lleihau'r bwlch ar frig Pencampwriaeth Rali'r Byd i 25 pwynt wedi iddo ennill Rali'r Ffindir.

Llwyddodd Evans i gymryd yr awenau ddydd Gwener wedi i'w gyd-yrrwr yn nhîm Toyota, Kalle Rovanpera, rolio'i gar drosodd a gorfod tynnu allan o'r ras.

Fe orffennodd y Cymro 39 eiliad yn gynt na Thierry Neuville yn yr ail safle.

"Mae wedi bod yn benwythnos eitha da," meddai Evans, sy'n 34 oed ac yn dod o Ddinas Mawddwy.

Ffynhonnell y llun, Massimo Bettiol
Disgrifiad o’r llun,

Cerbyd Toyota Elfyn Evans a Scott Martin

"Wrth gwrs mae'n ddrwg ganddon ni golli Kalle ar ddechrau'r rali ond ar ôl hynny mae hi wedi bod yn wych gyrru'r car yma," ychwanegodd.

"Mae'n gymaint o bleser bod tu ôl i'r llyw ar y ffyrdd yma ac rydan ni'n hapus iawn.

"Mae wedi bod yn awyrgylch gwych ac mae'n wych cael y gefnogaeth y tu ôl i ni.

"Wrth gwrs, o ran y bencampwriaeth dydy hi ddim yn ddrwg chwaith ac rydan ni'n cau'r bwlch."

Pynciau cysylltiedig