Dedfryd o garchar am ladd pencampwraig treiathlon

Rebecca CominsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rebecca Comins wedi i fan daro cefn ei beic ar yr A40 yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae gyrrwr fan a laddodd pencampwraig treiathlon wrth iddi gymryd rhan mewn ras feicio wedi cael dedfryd o bedair mlynedd o garchar.

Cafodd Rebecca Comins, 52, o Gil-y-coed, ei tharo gan fan Vasile Barbu tra'n seiclo ar ffordd ddeuol yr A40 ger pentref Rhaglan ym Mehefin 2022.

Roedd Barbu, 49, o'r Fenni, wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.

Fe ddyfarnodd rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd fis diwethaf ei fod yn euog.

Roedd Barbu wedi dweud wrth yr heddlu na wyddai ei fod wedi taro'r fam i ddau o blant, gan feddwl mai sŵn parsel yn syrthio o'i fan roedd o wedi ei glywed.

Dywedodd y barnwr Shoman Khan wrtho y gallai fod "yn hawdd wedi symud i'r lôn allanol [oedd yn wag ar y pryd] er mwyn ei phasio, fel y gwnaeth gyrwyr eraill".

Fe ddylai'r diffynnydd, meddai, fod wedi "rhoi mwy o le o lawer iddi" a "mwy o amser o lawer i chi eich hun", gan fod modd iddo weld Ms Comins ar ei beic, ar ddiwrnod clir a braf, yn glir o'i flaen "am sawl eiliad".

Disgrifiad o’r llun,

Pan gafodd ei holi gan yr heddlu, dywedodd Vasile Barbu na allai egluro sut y tarodd Rebecca Comins

Ychwanegodd y barnwr mai'r unig "gasgliad synhwyrol" oedd ei fod wedi gwneud "penderfyniad catastroffig i'w phasio ar y funud olaf" a tharo cefn beic Ms Comins.

"Rwy'n sicr nad oedd yn sefyllfa o argyfwng," ychwanegodd.

"Fe ddylid wedi bod yn symudiad goddiweddyd arferol."

'Ysbrydoliaeth i lawer'

Clywodd yr achos bod mab Ms Comins, George, yn cystadlu yn yr un digwyddiad pan gafodd wybod am y gwrthdrawiad, a bod y ddau wedi cynrychioli Cymru a thîm Prydain Fawr gyda'i gilydd.

Roedd ar ei ffordd i'r ysbyty pan gafodd wybod bod ei fam wedi marw.

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd nad yw wedi gallu cymryd rhan mewn rasus yn erbyn y cloc ers y farwolaeth.

Cafodd Ms Comins ei disgrifio gan ei theulu fel person "eithriadol o hael" oedd "yn ysbrydoliaeth i lawer".

Gan ddweud bod "dim geiriau i ddisgrifio'r boen o wybod na wnawn ni ei gweld yn chwerthin ac yn gwenu eto", ychwanegodd y teulu bod y ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn rhai "anodd".

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, fe gafodd Barbu ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

Pynciau cysylltiedig