Rhyddhau £13.5m o gronfa i helpu gweithwyr Tata

Ffwrnais chwythFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd yr ail ffwrnais chwyth ym Mhort Talbot yn cau ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyfran gyntaf o gronfa gwerth £100m i helpu gweithwyr a busnesau fydd yn cael eu heffeithio gan cynlluniau ad-drefnu gwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cael ei ryddhau ddydd Iau.

Fe gaeodd y cwmni un o'r ddwy ffwrnais chwyth ar y safle ym mis Gorffennaf ac mae'n fwriad i gau'r llall ym mis Medi wrth symud i ddulliau cynhyrchu gwyrddach gan dorri miloedd o swyddi.

Bydd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens yn cadarnhau bod £13.5m o'r gronfa ar gael.

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau ar wahân yn y gobaith o achub 2,800 o swyddi.

Mae'r arian ar gyfer cefnogi busnesau lleol y mae Tata yn brif gwsmer iddyn nhw, anelu at farchnadoedd newydd.

Mae hefyd ar gael i helpu gweithwyr sicrhau swyddi newydd neu hyfforddiant, sgiliau a chymwysterau mewn meysydd â swyddi gwag.

Mae proses diswyddo gwirfoddol ar agor ers Gorffennaf ac roedd angen i weithwyr nodi diddordeb erbyn 7 Awst.

Bydd Ms Stevens yn cadeirio cyfarfod bwrdd trawsnewid Tata Steel am yr eildro ddydd Iau - corff a gafodd ei sefydlu gan lywodraeth Geidwadol flaenorol y DU.

Dywedodd cyn y cyfarfod bod rhyddhau'r £13.5m cychwynnol yn arwydd o "weithredu'n bendant i gefnogi gweithwyr a busnesau ym Mhort Talbot, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, undebau a'r gymuned ehangach".

Ffynhonnell y llun, Ben Birchall

Roedd llywodraeth Rishi Sunak wedi ymrwymo i roi £500m i Tata at gost ffwrnais arc drydan newydd yn lle'r ffwrneisi chwyth traddodiadol - cam a fyddai'n golygu bod angen nifer sylweddol yn llai o weithwyr.

Mae disgwyl i waith codi'r ffwrnais newydd ddechrau ym mis Awst 2025.

Gan groesawu'r gyfran gyntaf o arian o'r gronfa, dywed yr undeb Community eu bod yn falch bod y cyhoeddiad yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer contractwyr hefyd.

Ond mae'r undeb yn "parhau i wrthwynebu cynigion dinistriol y cwmni, a byddwn yn brwydro i achub swyddi", gan ddadlau bod modd o hyd i osgoi diswyddiadau gorfodol.

'Dal ati i siarad â Tata'

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Nia Griffith AS: "Beth sydd yn bwysig iawn – mae o yn gyfrinachol – ond fi yn gallu dweud wrthych chi, wrth gwrs, bod ni fel llywodraeth yn dal ati i siarad â Tata ac i weld a oedd unrhyw ffordd i wella'r sefyllfa sydd 'da ni nawr.

"Wrth gwrs beth sy'n bwysig iawn ydi sicrhau bod ni yn barod i helpu pobl yn y cyfnod rhwng nawr pan maen nhw yn rhedeg lawr y ffwrneisiau sydd ganddyn nhw nawr ac yn agor y ffwrnais newydd.

"Ac mae'n bwysig iawn fod yn barod, i fod yn ystwyth, fel bwrdd trawsnewid, i sicrhau bod ni'n gallu helpu pwy bynnag sydd ishe help ac y bobl gyntaf, fel fi'n dweud, ydi pobl yn y busnesau sy'n darparu i Tata nawr."