'Ry'n ni eisiau teulu – mae popeth yn y fantol'

Owen a CoriFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen a Cori yn poeni am y dyfodol os yw Owen yn colli ei swydd

  • Cyhoeddwyd

"Aeth pawb yn y 'stafell yn ddistaw… gwragedd a chariadon yn ffonio – oedd rhaid i un o’r bois fynd am wâc er mwyn clirio’i ben."

Mae Owen Midwinter, 23, yn cofio’r foment roedd yn wynebu colli ei waith.

Mae gwaith ymchwil newydd ar gyfer y BBC yn awgrymu y gallai Port Talbot golli dros £200m mewn cyflogau oherwydd toriadau i swyddi yng ngwaith dur Tata.

Yn ôl yr Athro Calvin Jones, awdur y gwaith ymchwil, mae’n "ddiwedd cyfnod" i waith dur ym Mhrydain - tebyg i pan gaewyd y pyllau glo yn y 1980au.

Mae cwmni Tata Steel yn deud ei fod wedi "gweithredu nawr" er mwyn amddiffyn dyfodol y busnes.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith dur Tata i'w weld yn amlwg yn nhirlun Port Talbot

Mae Owen Midwinter 18 mis mewn i brentisiaeth pum mlynedd yng ngweithfeydd dur Port Talbot.

Mae’n dweud ei fod yn credu y byddai ganddo "swydd am byth" pan ddechreuodd yn y gweithfeydd dur, sydd i’w weld yn glir ar dirlun y rhan yma o dde Cymru.

"Mae fy nhad wedi bod yma am flynedde a blynydde. O'dd fy nhad-cu yma ac roedd e'n foment o falchder i mi… ond mae’n ddigalon iawn nawr, llawer o wynebau trist, llawer o iselder.”

Mae ei gariad, Cori, yn poeni am yr effeithiau tebygol.

"Os yw Owen yn colli ei swydd, mae risg i’r tŷ. Ry'n ni eisiau dechrau teulu cyn bo hir ond mae’n rhoi popeth yn y fantol tan ni'n gwybod."

Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yr ardal yn teimlo'n ddigalon iawn ar hyn o bryd yn ôl Owen Midwinter

Mae cwmni Tata Steel yn deud ei fod wedi "gweithredu nawr" er mwyn amddiffyn dyfodol y busnes drwy gau’r ffwrneisi chwyth a symud at ffyrdd mwy gwyrdd o gynhyrchu dur, sy’n golygu llai o weithwyr.

Mae rhai arbenigwyr yn honni mai diffyg "strategaeth glir" gan sawl Llywodraeth Prydain ar ôl ei gilydd sydd wedi arwain at golli swyddi mewn diwydiant sy’n talu’n dda, ac efallai na fydd yn cael ei ailosod.

'Colli swyddi a dim lle i fynd'

Mae tad Mia Phillips, 18, yn gweithio yn Tata, a’i theulu o ardal Port Talbot.

"Mae llwyth o bobl yn colli swyddi a s'dim lle i nhw fynd," meddai.

"Mae dad gyda llwyth o qualifications a phopeth ond so fe’n gwybod lle bydd yn penderfynu mynd yn y dyfodol.

"Bydd rhaid mynd i lefydd fel Newport neu Caerdydd ac mae hwnna’n bell o ardal ni. Mae’n anodd achos does dim lot o swyddi i bobl.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mia Phillips yn poeni y bydd rhaid i'w thad deithio ymhell i gael swydd arall

Ychwanegodd fod effaith colli’r swyddi i’w gweld yn y gymuned eisoes.

"Mae fy modryb yn gweithio mewn caffi yn Port Talbot a pryd rwy’n siarad â nhw maen nhw’n dweud ei fod yn araf achos dyw pobl ddim mo'yn gwastraffu arian rhagor," meddai Mia.

"Dwi’n 'nabod llwyth o bobl o'dd yn mynd i fynd i Tata yn syth ar ôl ysgol.

"Dyna beth oedd yr opportunity gorau iddyn nhw i wneud, ond nawr mae'n rhaid i nhw ailystyried be' maen nhw am wneud am y dyfodol."

'Dwi'n rhy ifanc i ymddeol!'

Dafliad carreg o’r gweithfeydd mae Mandie Pugh yn rhedeg busnes arlwyo sydd wedi’i seilio ar fasnach y gweithwyr dur.

“Dwi wedi bod yma 35 mlynedd - amser hir - a dwi'n rhy ifanc i ymddeol!

"Pan maen nhw’n deud 3,000 o swyddi [yn cael eu colli ar draws Prydain], fe fydd yn fwy na hynny.

“Contractwyr, busnesau bach, o’r dyn llysiau i’r glanhawr ffenestri, fydd pobl ddim yn gallu fforddio gymaint dim mwy.

“Mae fy ngŵr i’n gweithio yn y gweithfeydd, mae fy mab yn ystafell reoli y ffwrnes felly mae o mas o waith.

"Gath e fabi 'chydig nôl. Mae e a’i bartner yn chwilio am dŷ felly mae hwn wedi rhoi y kibosh ar hynny.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai teuluoedd cyfan yn cael eu heffeithio gan y penderfyniad yn ôl Mandie Pugh

Gwnaeth Calvin Jones, Athro Economeg ym Mhrifysgol Caerdydd, waith ymchwil ar gyfer rhaglen BBC Wales Investigates.

Yn ogystal â’r tua 2,000 o swyddi sy’n cael eu colli’n uniongyrchol o safleoedd Tata yng Nghymru, mae’n awgrymu y gallai 3,000 yn rhagor o rolau sy’n ddibynnol ar y safleoedd am fasnach ddiflannu.

Ond roedd y ffigyrau mwyaf brawychus yn dod i’r amlwg, meddai, pan edrychodd ar yr effaith ar gyflogau yn ardal Port Talbot, ble mae’r gweithfeydd.

Mae’n darogan y byddai colli swyddi cwmni dur Tata yn arwain at ostyngiad o 10% yn enillion y dref.

Mae hynny’n £133m y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yr Athro Calvin Jones mae’n "ddiwedd cyfnod" i waith dur ym Mhrydain, tebyg i pan gaewyd y pyllau glo yn y 1980au

Os yw hanner y cwmnïau cyflenwi wedi’u lleoli’n lleol mae’n amcangyfrif y byddai’r gostyngiad yn enillion y dref yn 15% - dros £200m.

"Mae hynny’n £200m y flwyddyn wedi diflannu o’r economi leol, tan mae’r bobl yna’n dod o hyd i swyddi newydd neu fod swyddi newydd yn dod fewn," meddai'r Athro Jones.

"Felly, mae’n debyg taw’r cwestiwn fydd beth sy’n digwydd yn lle hyn?

"Dy'n ni ddim wedi cael strategaeth ddiwydiannol, o bwys, am 40 mlynedd… dy'n ni ddim fel petaen ni'n gwybod ble ni eisiau mynd yn ddiwydiannol, felly dydi hi ddim yn syndod nad ydyn ni’n cyrraedd 'na.

"Dwi’n credu’n fwy cyffredinol, yn yr un modd â streic y glowyr ac ar ôl hynny, roedd hi’n ddiwedd cyfnod ar gyfer y cymoedd.

"Dyma ddiwedd cyfnod ar gyfer diwydiannau yn ne Cymru."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae Jess Ralston wedi ymchwilio i’r diwydiant dur ar gyfer melin drafod yr Uned Ynni a Gwybodaeth Hinsawdd.

“Mae’n dorcalonnus i weld unrhyw dorri swyddi, ond ar y lefel yma mae’n syfrdanol… mae’r diwydiant yn galw am gynllun clir,” meddai.

Drwy ymchwilio i sut all gwledydd ar draws Ewrop gefnogi’r diwydiant dur i foderneiddio a lleihau allyriadau carbon, esboniodd mai ”realiti’r sefyllfa yw fod gweddill y byd yn symud tuag at ddewisiadau mwy gwyrdd - dur gwyrddach".

“Ar hyn o bryd mae gennych chi’r Almaen, Sweden a’r Iseldiroedd yn codi llaw a d'eud eu bod nhw eisiau’r buddsoddiad yma… mae Prydain yn sefyll ar y cyrion yn disgwyl i’r buddsoddiad ddod atyn nhw.”

Ychwanegodd fod “un neu ddau brosiect gwyrdd ar yr arfaeth yma [ym Mhrydain]".

"Mae gan Ewrop tua 40, ac mae China, America a gweddill y byd hefyd yn edrych ar ddyfodol dur. Gall Prydain ddim sefyll yn llonydd.”

Ffynhonnell y llun, Reuters

Mae disgwyl y gwelwn ni'r rhan fwya' o'r 3,000 o swyddi sy'n cael eu colli ar draws Prydain yn diflannu o safle Tata Steel ym Mhort Talbot.

Dywedodd Rajesh Nair, prif weithredwr Tata Steel UK ei fod yn gwybod pa mor "boenus" fydd unrhyw newid ar ôl 35 mlynedd yn y diwydiant.

Bwriad y cwmni yw adeiladu ffwrnais drydan ar y safle, sy’n creu dur o haearn sgrap ac yn cynhyrchu llai o allyriadau carbon, ond bydd hefyd angen llai o staff na'r hyn sydd angen ar gyfer y ffwrneisi presennol.

"Ry'n ni wedi bod yn colli arian ac mae’n anodd stopio hyn - nid oherwydd diffyg ymdrech gan y bobl na faint o arian ry'n ni’n ei wario, ond yn syml oherwydd mae gennych ni gynnyrch sydd ar ddiwedd ei fywyd," meddai Rajesh Nair.

“Ry'n ni heddiw, fel busnes, ar gylchfan… nawr neu byth.”

'Dwi wedi cael gyrfa wych yn Tata'

Roedd Stuart Phillips, 43, hefyd yn teimlo fod gweithi yng ngweithfeydd dur Port Talbot yn "swydd am byth".

Mae'n dad i ddwy ferch sy’n dair a 18 oed, gyda morgais i’w dalu.

“Dwi siŵr o fod yn chwilio am waith am 15 mlynedd arall, a’r hyn sy’n anodd ydy mai Tata ydy’r unig beth dwi'n ei 'nabod.

“Mae'n eitha' dinistriol.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Stuart Phillips yn teimlo fod y sefyllfa yn "eitha' dinistriol"

Dyw popeth ddim yn dod i ben ym Mhort Talbot.

Fe fydd dur sydd wedi’i fewnforio yn parhau i gael ei rolio ar y safle, ac os yw’r cytundeb £500m gyda’r llywodraeth Geidwadol bresennol yn cael y golau gwyrdd fe fydd ffwrnais drydan newydd yn cael ei hadeiladu ar y safle gan warchod rhai swyddi.

Mae Llafur yn dweud y bydden nhw’n cynnig gwell cytundeb, heb roi manylion, tra bo’r Democratiaid Rhyddfrydol yn awyddus i gael gweledigaeth tymor hir ar gyfer y diwydiant dur.

Dywedodd Reform fod risg y byddai gweithfeydd dur yn cael ei daro o ganlyniad i "brosiectau sero net gwag", ond mae Plaid Cymru yn dadlau y dylai safle Tata ym Mhort Talbot gael ei wladoli er mwyn sicrhau "newid teg" i "ddur gwyrdd".

Mae'r Blaid Werdd wedi galw am "strategaeth ddiwydiannol werdd" er mwyn creu swyddi cynaliadwy.

Yn ôl Jess Ralston, dadansoddwr yn y maes, penderfyniadau gwleidyddion – yn y gorffennol, y presennol a’r dyfodol – fydd yn dylanwadu ar ddyfodol y diwydiant.

“Ar ddiwedd y dydd, mae Tata yn gwmni rhyngwladol… os nad oes gan Brydain gynllun buddsoddi da, does dim rhaid iddyn nhw roi o yma.”

Gallwch wylio rhaglen Town of Steel - BBC Wales Investigates ar BBC iPlayer.

Pynciau cysylltiedig