'Cael canser yn ifanc yn anodd ac mae angen pob cefnogaeth'

Cafodd Lowri Wyn Powell ddiagnosis o ganser yn 18 oed ac fe gafodd wybod ym mis Rhagfyr y llynedd ei fod wedi dychwelyd
- Cyhoeddwyd
Mae elusen sy'n cefnogi pobl ifanc sydd â chanser yn dweud eu bod yn poeni "bod plant a phobl ifanc yn cael eu hanwybyddu" ac yn galw ar Lywodraeth Cymru "i weithredu'n gyflym".
Yn ôl elusen Young Lives vs Cancer, mae angen rhoi mwy o sylw i anghenion plant a phobl ifanc sydd â chanser.
Dywedodd menyw ifanc gafodd ddiagnosis o ganser pan yn 18 oed fod gan bobl ifanc fel hi anghenion gwahanol i oedolion a bod cefnogaeth elusennau wedi bod "yn help mawr" iddi hi.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 90 o blant a phobl ifanc dan 19 yn cael diagnosis o ganser.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod yn croesawu casgliadau adroddiad diweddar Archwiliad Cymru a'u bod wedi ymrwymo i wella gwasanaethau canser.

Dywed Lowri ei bod hi'n "lwcus iawn" o'r gefnogaeth gan elusennau
Cafodd Lowri Wyn Powell wybod bod ganddi ganser ychydig ddyddiau wedi ei phen-blwydd yn 18.
Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd yr athrawes 21 oed o Gaerfyrddin: "Teimlo lwmp 'nes i yn fy ngwddwg i a wedyn mynd i'r feddygfa.
"Ges i sawl apwyntiad, yna ges i biopsy a da'th hwnna nôl yn glir, felly oedden nhw yn meddwl bod popeth yn iawn.
"Ges i lawdriniaeth i dynnu fy adenoids ac wrth archwilio'r lwmpyn yn fanylach, nathon nhw ffindo bod gen i Hodgkin's lymphoma ac yna ges i driniaeth yng Nghaerdydd."
Ar ôl i Lowri dderbyn triniaethau cemotherapi ac imiwnotherapi, cafodd wybod ei bod yn glir o ganser.
Yna yn Rhagfyr 2024 - ar ôl cyfres o brofion - daeth i'r amlwg fod y canser wedi dychwelyd.

Dywed Lowri bod pobl ifanc angen gofal arbenigol gan fod "yr heriau ni'n profi yn wahanol iawn i'r rhai mae oedolion yn profi"
Mae Lowri bellach yn derbyn triniaeth yn uned Teenage Cancer Trust yng Nghaerdydd ac yn ddiolchgar iawn i'r elusennau sy'n rhoi cymorth iddi gan "bod cael canser yn ifanc yn anodd ac mae angen pob cefnogaeth".
"Ma' elusen Young Lives vs Cancer yn cysylltu gyda fi yn rheolaidd er mwyn gweld sut mae'r driniaeth yn mynd a dwi'n codi unrhyw bryderon gyda nhw wedyn – maen nhw yn help mawr i fi.
"Hefyd ma' elusennau fel Princess Trust – ma' nhw wedi darparu wig i fi ac yn y blaen, felly ma 'na lwyth o elusennau allan yna sy'n cefnogi mewn gwahanol ffyrdd.
"Dwi'n lwcus iawn o'r gefnogaeth dwi wedi cael wrthyn nhw," meddai.
"Mae'n bwysig bod 'na elusennau ac unedau i bobl ifanc achos mae'r heriau ni'n profi yn wahanol iawn i'r rhai mae oedolion yn profi. Ni angen gofal arbenigol."
Ar ôl i'r driniaeth ddod i ben, mae Lowri yn gobeithio mynd yn ôl i ddysgu.
'Dim cynllun penodol i blant â chanser'
Mae angen i Lywodraeth Cymru roi mwy o sylw i ganser plant a phobl ifanc, medd Helen Gravestock, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu elusen Young Lives vs Cancer.
"Mae adroddiad Archwilio Cymru yn cadarnhau ein pryderon bod plant a phobl ifanc yn cael eu hanwybyddu.
"Does yna ddim camau gweithredu na chynllun penodol ar gyfer plant a phobl ifanc ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i weithredu'n gyflym ar argymhellion yr adroddiad."

Iestyn Phillips pan oedd yn iau yn cyflwyno arian gafodd ei gasglu er cof am ei fam-gu i elusen Latch
Fe gafodd Iestyn Phillips o Aberystwyth ddiagnosis o ganser pan yn blentyn ac mae bellach yn 18.
Mae e hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth elusen.
"Ges i ddiagnosis o sarcoma pan o'n i yn 13 ac ro'dd yr elusen Latch yn gymaint o help," meddai.
"O'n ni'n teithio o Aberystwyth i Gaerdydd ac ymhellach i gael fy nhriniaeth ac r'odd Latch yn cynnig costau teithio ac yn cynnig llety i Mam a Dad yn yr ysbyty.
"Odd cael Latch yna i ni yn gymaint o help ac mae mor bwysig bod yr elusennau yma yn cael eu cefnogi."
"Fi nawr yn fy mlwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio hanes. Ges i lawdriniaeth arall haf diwetha' ac ma'n braf gweud bod y canser i gyd wedi clirio erbyn hyn.
"Fe adawodd Mam-gu arian i'r elusen yn ei hewyllys - mae'n diolch ni fel teulu yn fawr i Latch."

Dywedodd Caris (canol) bod canser yn "cymryd ffwrdd pwy y'ch chi"
Yn ddiweddar, fe siaradodd Caris Bowen, un o fentoriaid ar y gyfres Ffit Cymru, yn gyhoeddus ar y rhaglen am ei phrofiad o gael canser pan yn 21.
"Fi'n cofio fel ddoe cael y diagnosis a do'n i ddim yn gwybod lle i droi. Ro'n i'n fam ifanc ar y pryd. O'n i ffili gweud bod 'da fi canser," meddai.
"Ges i wybod y bydden i'n wynebu blwyddyn o driniaeth. Mae canser yn cymryd ffwrdd pwy y'ch chi.
"Nai fyth anghofio y cymorth ges i gan yr elusen Tenovus," medd Caris sydd yn 33 oed.
"Odd 'da nhw rwbeth o'r enw call back service. Pan oedden nhw yn derbyn gwybodaeth amdana ti, r'on nhw jyst yn ffonio ti randomly.
"O'n nhw yn ffonio fi yn y bore ac odd e'n siawns i fi ga'l siarad 'da rhywun o'dd yn deall – rhywun ar wahân i teulu a ffrindiau."

Mae Caris Bowen (chwith) bellach yn llysgennad i Gronfa Ganser De Orllewin Cymru ac wrthi'n hyfforddi ar gyfer digwyddiad bocsio er mwyn codi arian
Yn ei chyllideb ddiwedd Hydref fe gyhoeddodd Canghellor y DU, Rachel Reeves, y bydd y gyfradd yswiriant gwladol mae cyflogwyr yn talu ar enillion gweithwyr yn codi o 13.8% i 15%, a bod y trothwy yn gostwng o £9,100 i £5,000 – hynny er mwyn dod â £25bn yn ychwanegol i'r coffrau.
Yn sgil y newid dywed rhai elusennau na fyddan nhw'n gallu rhoi cymaint o gefnogaeth.
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Medi 2024
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2024
Dywed Menai Owen-Jones, Prif weithredwr elusen Latch - elusen ganser i blant - fod pob cefnogaeth yn bwysicach nag erioed.
"Yn ein profiad ni yn Latch, mae'n gyfnod anodd. Mae'n costio dros £900,000 i ariannu'r elusen yn flynyddol ac mae'r cynnydd yn yr yswiriant gwladol yn gost arall.
"Fel elusen rydym yn dibynnu ar roddion pobl yn ein cymunedau. 'Da ni ddim yn derbyn unrhyw arian statudol.
"Mae Latch yn cefnogi teuluoedd a phlant sydd yn mynd trwy triniaeth canser – mae'n gymorth hanfodol. Ni'n rhoi cymorth i bedwar neu bum teulu newydd bob mis," meddai.
'Darparu cyfeiriad cliriach a chryfach'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu canfyddiadau adroddiad Archwilio Cymru ac rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau canser yng Nghymru.
"Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar weithio gyda'r GIG i wella mynediad at ddiagnosis a thriniaeth fel rhan o'n targed o sicrhau fod 75% o'r rhai a gafodd ddiagnosis yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod o'r adeg mae canser yn cael ei amau yn y lle cyntaf.
"Rydym hefyd yn adolygu ein trefniadau arweinyddiaeth canser cenedlaethol i ddarparu cyfeiriad cliriach a chryfach ar gyfer gwella canlyniadau canser."