Henebion Cymru'n cael eu 'difetha'n llwyr' gan feiciau modur
- Cyhoeddwyd
Mae henebion hynafol ar draws Cymru yn "cael eu difetha'n llwyr" gan bobl yn gyrru beiciau modur drostyn nhw yn anghyfreithlon, rhybuddia archaeolegwyr.
Yn eu plith mae carnedd gylchog o'r Oes Efydd ger Abertawe sydd wedi bod yn cael ei defnyddio fel trac gan feicwyr.
Dywedodd Heneb, sy'n cynrychioli ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru, bod yr hyn sy'n ymddangos weithiau fel "lympiau" yn y tirlun yn gallu bod yn hynod arwyddocaol a bod angen codi ymwybyddiaeth o'r amgylchedd hanesyddol.
Yn ôl Cadw, gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gweithio gyda chymunedau lleol a'r heddlu i daclo'r hyn y maen nhw'n ei ddisgrifio fel problem "gyffredin iawn" all fod yn "ddinistriol".
"Mae'n biti mawr bod e wedi digwydd," meddai'r cynghorydd cymuned Gareth Richards.
Cyfeirio mae at y difrod i garnedd Tor Clawdd, sydd i'w ganfod ar ran anghysbell a gwyntog o dir comin ar Fynydd y Gwair, ger pentre Cefn Craig-Parc, i'r gogledd o Abertawe.
"Ma' beicwyr yn dod lan yma o'r trefi - mae'n siŵr eu bod nhw'n cael gwefr o reidio yma heb unrhyw rwystr.
"Ond maen nhw wedi bod yn defnyddio fe fel lle i droi, achos ei fod e'n siap cylch ac yn anffodus mae wedi cael ei niweidio."
Dangosodd Mr Richards sut oedd y bancyn sy'n llunio strwythr yr heneb wedi'i erydu gan y beiciau, gan ddadorchuddio pridd oedd yn cael ei olchi ymaith gan law.
Mae'r garnedd yn sefyll yn ymyl sarn neu heol hynafol, a'r gred ydy iddo fod yn safle ar gyfer cynnal defodau, neu hyd yn oed losgi neu gladdu cyrff.
"Mae'n 3,000 neu 4,000 o flynyddoedd oed - yn un o'n hen gofebau ni a mae'n rhaid i ni ofalu amdano fe," meddai Mr Richards.
"Mae'r heddlu, a Cadw yn gwbod am y sefyllfa ond wrth gwrs ma'u hadnoddau nhw yn brin.
"Dwi'm yn gwbod beth yw'r ateb - falle bydde fe'n syniad bod arwydd yn cael ei godi yma, a bod ffens yn cael ei godi o'i chwmpas hi."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2024
Cytuno bod angen cynyddu ymwybyddiaeth am y lle mae Jonah Eccott, myfyriwr 19 oed o Graig Cefn-Parc sy'n ymddiddori mewn hanes lleol.
Byddai gosod arwyddion, er enghraifft, yn golygu efaillai "bod pobl yn osgoi'r lle pan yn dod lan ar eu beics".
"Mae'r heneb yma yn un o ddegau yn yr ardal a s'im braidd neb yn gwybod amdanyn nhw," esboniodd.
"Drwy gynyddu ein dealldwriaeth ac addysgu'r bobl leol falle bydd modd cael rhyw fath o ymgais i warchod y llefydd yma."
Mae Tor Clawdd yn un o 30,000 o henebion cofrestredig drwy'r DU, gyda 4,200 o'r rheiny yng Nghymru.
Mae'n golygu eu bod wedi'u gwarchod yn gyfreithiol oherwydd eu harwyddocâd archeolegol a hanesyddol, gyda'r garnedd ar yr un rhestr a safleoedd enwog fel Côr y Cewri a Chastell Caernarfon.
Dywedodd Dr Alex Langlands o Brifysgol Abertawe bod "tystiolaeth fforensig o bwys ynglŷn â chymdeithasau'r gorffennol" yn cael ei ddinistrio ar Dor Clawdd, sy'n safle sydd heb ei gloddio eto gan archaeolegwyr.
Ychwanegodd yr hanesydd, sy'n adnabyddus am gyflwyno rhaglenni teledu fel Digging Up Britain's Past, bod henebion yn wynebu "nifer o risgiau amrywiol", gan gynnwys effeithiau twristiaeth a newid hinsawdd.
Ond mae difrod gan gerbydau'n cael eu gyrru oddi ar y ffordd yn "broblem sydd ar gynnydd" i'r sector, rhybuddiodd.
Ar safle heneb cofrestredig arall ar Fynydd Cilfai, Abertawe - lle cafodd crochenwaith o oes y Rhufeiniaid ei ddadorchuddio yn y 1970au - daeth o hyd i fwy o olion teiars beiciau.
Dywedodd: "Mae 'na lot o feicio off-road yn digwydd yma a mae'n dechrau amharu ar yr heneb - mae mewn sefyllfa fregus."
Mae'r gallu i blismona safloedd yn broblem, meddai, tra bod toriadau ariannol wedi'u gwneud hi'n anos codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd henebion ymysg y cyhoedd.
Mae ymddiriedolaethau archeolegol, yn ogystal â Cadw, mewn "sefyllfa heriol" wrth geisio "cynnal a chadw henebion heb o reidrwydd yr adnoddau i wneud hynny".
"Mae gan Gymru hanes a threftadaeth ffantastig a lot o hynny wedi'i naddu i'r tirlun - felly mae'n rhaid i ni edrych ar ôl y safloedd yma."
Cytunodd Claudine Gerrard o Heneb fod "toriadau digynsail" yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi golygu bod yn rhaid i'r sector "wneud llai a llai".
Roedd gyrru beiciau a cherbydau eraill oddi ar y ffordd mewn modd anghyfreithlon yn "broblem sylweddol sy'n cymryd lot o adnoddau i'w daclo," meddai.
Dywedodd bod ymddiriedolaethau archaeolegol yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cadw, awdurdodau lleol a'r heddlu - gan gynnwys mewn ardaloedd fel tirwedd diwydiannol Blaenafon yn Nhorfaen, sydd wedi'i ddynodi yn safle treftadaeth y byd.
"Mae 'na nifer fawr iawn o lympiau a thwmpau yno sy'n llawn tystiolaeth o ddefnydd y tirlun hwnnw ar gyfer diwydiannau'r gorffennol ond mae hefyd yn rywle sy'n boblogaidd iawn gyda beicwyr," eglurodd.
"Mae'r golygu bod rhai henebion yn cael eu dinistrio'n llwyr i bob pwrpas."
Mae hi'n annog pobl i ddefnyddio Archwilio - databas arlein o henebion, dolen allanol cyn bwrw ati ag unrhyw fath o yrru oddi ar y ffordd er mwyn cynllunio taith ddiogel a chyfreithlon fydd ddim yn difrodi'r amgylchedd hanesyddol.
Cymunedau lleol 'yn allweddol'
Un o fwriadau'r Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, dolen allanol oedd gwneud hi'n haws i erlyn pobl am ddifrodi henebion cofrestredig.
Dywedodd Dr Jonathan Berry, uwch arolygydd gyda Cadw, fod disgwyl i bobl nawr "wneud pob ymdrech posib a rhesymol i wybod a ydy darn o dir sy'n cael ei ddefnyddio wedi'i gofrestru ai peidio".
"Gall feiciau oddi ar y ffordd a cherbydau tebyg fod yn hynod o niweidiol a ry'n ni'n gwybod bod yna rannau o Gymru lle mae'r difrod yma yn gyffredin iawn," meddai.
Roedd Cadw wedi'i hysbysu ynghylch y sefyllfa gyda heneb Tor Clawdd, gan arwain at ymchwiliad ac adroddiad oedd wedi'i rannu gyda'r heddlu yn lleol.
Cafodd cynllun i annog cymunedau i gadw golwg ar eu henebion lleol ei lansio yn 2022 hefyd, dan yr enw Ymgyrch Treftadaeth Cymru, dolen allanol, mewn partneriaeth â heddluoedd.
"Mae'n cymunedau ni ar draws Cymru yn allweddol wrth alluogi Cadw i ddiogelu'n amgylchedd hanesyddol - maen nhw'n gweithredu fel ein llygaid a'n clustiau," meddai.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod "sawl ymgyrch" i geisio taclo defnydd anghyfreithlon beiciau modur.
Ychwanegodd y Sarjant Louise Tew: "Mae hefyd arbenigwyr troseddau bywyd gwyllt a threftadaeth ym mhob ardal y llu, sy'n gweithio i sicrhau bod ein treftadaeth hanesyddol a naturiol yn ddiogel at y dyfodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn "parhau i flaenoriaethu ein dyletswyddau statudol er gwaetha'r pwysau ar gyfrifon y sector cyhoeddus".
"Roedd cyllideb ddrafft mis Rhagfyr yn cynnwys cynnydd ariannol i Cadw o ran refeniw (i £9.4m) a chyfalaf (i £16.3m)," meddai.
Byddai'r cyllid hwn yn "cefnogi gwaith cadwraeth statudol ar gyfer eiddo hanesyddol Cadw a grantiau pellach ar gyfer treftadaeth sydd mewn perygl drwy Gymru."