Faint wyddoch chi am ffynhonnau arbennig Cymru?
- Cyhoeddwyd
Yn hanesyddol, mae ffynhonnau wedi bod yn rhan bwysig o ddiwylliant Cymru. Ers canrifoedd, mae pobl wedi heidio atynt gan gredu yn eu gallu i wella anhwylderau corfforol ac ysbrydol. Ond faint wyddoch chi am rai o ffynhonnau arbennig Cymru?
Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar hanes a thraddodiad ffynhonnau duraidd yng Nghymru:
Gwreiddiau
Nid yw'n syndod bod gan y rhan fwyaf o ffynhonnau llesol wreiddiau crefyddol. Mae Ffynnon Santes Gwenffrewi yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, wedi denu pererinion ers dros 1,000 o flynyddoedd.
Ers y ddeuddegfed ganrif, bu ymdrochwyr yn honni iddynt gael eu hiacháu – cred sy'n parhau hyd heddiw.
Ond pwy oedd Santes Gwenffrewi? Yn ôl un dehongliad o'r chwedl, lladdwyd Gwenffrewi tua chanol y seithfed ganrif gan Caradog, bachgen lleol a oedd mewn cariad â hi. Trwy weddïo ar Dduw, llwyddodd Beuno Sant – ewythr Gwenffrewi – ei chodi o farw i fyw. Yn dilyn y wyrth, cododd ffynnon o'r union fan lle lladdwyd Gwenffrewi.
Saith Rhyfeddod Cymru
Yn ogystal â chael ei chydnabod fel un o Saith Rhyfeddod Cymru, mae'n debyg mai ffynnon sanctaidd Gwenffrewi ydy'r safle pererindod hynaf yr ymwelwyd yn barhaus ag ef yng ngwledydd Prydain hefyd.
Ffynnon iachusol arall sy'n gysylltiedig â sant Cristnogol cynnar yw Ffynnon Gybi yn Llangybi, Eifionydd. Ers canrifoedd mae teithwyr wedi credu fod gan y ffynnon y gallu i wella cloffni, dallineb, defaid (warts) a chrydcymalau.
Yn ysgrifennu ym 1866, datgelodd William Jones, Glasfryn Fawr, Llangybi, ei fod yn ymwybodol o ddegau o bobol a oedd wedi cael eu hiacháu yn nyfroedd y ffynnon. Yn eu plith oedd gŵr dall o'r enw 'John Jones, Ty'ngarn', ar ôl iddo 'fyned i ymolchi yn Ffynnon Gybi' daeth ei 'olwg yn [ôl yn] berffaith.'
Mwynau
Yn ystod y ddeunawfed ganrif, dechreuodd ymchwilwyr gwyddonol archwilio pa fwynau oedd i'w canfod yn nŵr ffynhonnau hynafol. Daethant i'r casgliad bod dyfroedd sawl ffynnon yn cynnwys mwynau defnyddiol fel sylffwr, haearn a magnesiwm – mwynau all fod o fudd wrth drin nifer o faterion iechyd amrywiol gan gynnwys problemau gyda'r croen a phoenau yn y cymalau. Rhoddodd y pwyslais lled-newydd ar fwynau beth hygrededd i rai o hen ffynhonnau Cymru.
O Landrindod i Lanwrtyd, Llanfair-ym-muallt a Llangamarch mae nifer o ffynhonnau mwynol ym Mhowys, ac yn sgil y ffynhonnau arbennig daeth y trefi a'r pentrefi yma'n ganolfannau o bwys i ymwelwyr.
Ym 1760, treuliodd yr hynafiaethydd, Lewis Morris, chwe diwrnod yn Llandrindod yn ceisio gwella. Bu'n yfed y dŵr gyda phob pryd o fwyd ac fe ddaeth yn argyhoeddedig yn ei allu llesol. Yn dilyn ei ymweliad â Llandrindod roedd Morris yn falch o gyhoeddi ei fod bellach yn gallu mynd ar gefn ei geffyl heb gymorth a hynny am y tro cyntaf ers dwy flynedd.
Er bod dŵr Ffynnon Cegin Arthur ym mhlwyf Llanddeiniolen, Gwynedd yn adnabyddus am ei phwerau iachusol ers o leiaf yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y ffynnon i amlygrwydd ym 1858 pan gyhoeddodd Dr Arthur Wynn Williams lyfryn yn dadansoddi cynnwys mwynol cyfoethog y dŵr.
Roedd yfed dŵr y ffynnon yr un mor llesol ag ymdrochi yn ôl bob sôn. Mae Dr Williams yn cyfeirio at fochyn a gafodd ei iacháu ar ôl i'w berchennog rhoi diod o ddŵr y ffynnon iddo i'w yfed!
Roedd modd prynu dŵr Ffynnon Cegin Arthur yn lleol hefyd; sefydlwyd cwmni KANSCO (King Arthur's Natural Springs Company) yng Nghaernarfon i botelu a dosbarthu'r dŵr.
Ffynnon boeth
Un o'r ffynhonnau mwyaf unigryw yng Nghymru ydy Ffynnon Taf ar gyrion Caerdydd – dyma'r unig ffynnon boeth (thermal) yng Nghymru. Ychydig a wyddom am hanes cynnar Ffynnon Taf ond erbyn y cyfnod Fictoraidd roedd gallu llesol ei dyfroedd yn hysbys gyda phobol yn tyrru o bell ac agos i ymdrochi yn y dŵr claear.
Wrth ysgrifennu ym 1875 roedd gohebydd Y Faner yn honni bod 'ugeiniau, os nad cannoedd, yn dyfod [gyda] ffyn a baglau, ond yn myned oddi yma heb eisieu cymhorth o gwbl' diolch i ddŵr y ffynnon.
Beth am ddechrau'r flwyddyn newydd ar nodyn llesol trwy ymweld â rhai o ffynhonnau iachusol Cymru?
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022