'Teimlo fel fy mod i'n marw' gyda salwch beichiogrwydd difrifol

Tra'n feichiog teimlodd Sarah Spooner ei bod i'n mynd i farw oherwydd y salwch difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae menyw a ddaeth â'i beichiogrwydd i ben oherwydd bod ganddi gyflwr cyfogi difrifol yn galw am well gofal yn y maes yng Nghymru.
Dywedodd Sarah Spooner ei bod wedi "ymbil" am gyffur Xonvea, fyddai'n ei hatal rhag cyfogi, tra'r oedd yn dioddef o hyperemesis gravidarum (HG).
Er bod Xonvea ar gael yn Lloegr, nid yw'n cael ei ddefnyddio'n rheolaidd yng Nghymru.
Mae modd cynnig y cyffur mewn achosion eithriadol lle mae triniaethau eraill wedi methu, meddai Llywodraeth Cymru.
Methu symud oherwydd y boen
Yn ôl y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, mae hyd at dair o bob 100 o fenywod beichiog yn cael HG, er nad yw rhai achosion yn cael eu nodi.
Mae'r cyflwr yn achosi chwydu difrifol sy'n arwain at golli pwysau, ac yn aml mae angen triniaeth ysbyty.
Dywedodd Sarah Spooner, 32, o Sir Fynwy bod gweithwyr iechyd wedi gwrthod ei phryderon am chwydu'n ormodol yn ei beichiogrwydd cyntaf.
Dim ond ar ôl geni ei phlentyn a gweld ei bod wedi colli pwysau y sylweddolodd ei bod hi'n debygol o fod wedi dioddef o HG.
Mynnodd Sarah byddai cael diagnosis o'r cyflwr wedi bod o gymorth yn ystod ei hail feichiogrwydd yn gynharach eleni.
Roedd hi'n deffro'n rheolaidd yn oriau mân y bore i fod yn sâl, nid oedd yn gallu bwyta, yfed na chwaith gweithio.
- Cyhoeddwyd10 Ionawr
- Cyhoeddwyd15 Mai 2019
Yn optometrydd ac yn ffotograffydd rhan-amser, penderfynodd Sarah ofyn am Xonvea.
Cafodd bresgripsiwn am y cyffur am bythefnos ar y tro, ac roedd yn fwy effeithiol na meddyginiaethau eraill.
Ond roedd hi'n anodd cael gafael arno meddai, a'i gŵr wedi gorfod gyrru hyd at 100 milltir i'w nôl.
"Byddwn i'n chwydu, felly byddai'n gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i'm cludo i'w nôl," ychwanegodd.
Dywedodd Sarah hefyd y bu'n rhaid i'w gŵr ffonio ambiwlans ar ôl dod adref a'i gweld hi ar y llawr yn chwydu, yn methu symud oherwydd y boen.
Ar ôl bod yn feichiog am naw wythnos, dywedodd meddyg wrthi nad oedd ei chorff yn ymdopi.
"Dywedodd, ar ei waetha', dim ond saith mis o hyn rydych chi'n ei wynebu.
"Meddyliais fy mod i'n mynd i farw, alla i ddim parhau fel hyn am saith mis arall," meddai Sarah.
Penderfynodd hi a'i gŵr i derfynu'r beichiogrwydd, er gwaetha'r ffaith bod y ddau wedi dymuno cael plentyn arall.
Ar gael 'hanner milltir lawr y ffordd'
Bellach mae Sarah wedi cyflwyno deiseb i'r Senedd i geisio sicrhau bod Xonvea ar gael yn ehangach yma yng Nghymru.
Dywedodd bod ei phrofiad wedi bod yn "anhygoel o rwystredig" gan ei bod hi'n byw ar y ffin.
"I feddwl, pe bawn i'n byw hanner milltir i lawr y ffordd, y gallai canlyniad y beichiogrwydd fod wedi bod yn wahanol, mae'n annerbyniol," ychwanegodd.
Mae Xonvea yn cael ei argymell fel y driniaeth fwyaf effeithiol ar gyfer HG gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr.
Yn ogystal â chyffuriau eraill fel cyclizine, prochlorperazine ac ondansetron sy'n cael eu hargymell yn rheolaidd gan feddygon.
Mae un blwch 20 tabled o Xonvea yn costio £28.50, sy'n sylweddol uwch na dewisiadau eraill.
Mae Xonvea ar gael yn rhannau o Loegr, ond nid yw'r cyffur yn cael ei ddefnyddio mor rheolaidd yng Nghymru a'r Alban.
Ers Ionawr mae dros 750 o bresgripsiynau wedi'u rhoi yng Nghymru.

Mae Caryl yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr
Un arall a brofodd y salwch tra yr oedd yn feichiog gyda'i hefeilliaid oedd Caryl Gruffydd Roberts sy'n byw yng Ngheredigion.
Wrth geisio disgrifio'r cyflwr, dywedodd ei fod yn rhywbeth "dra gwahanol i morning sickness".
"Mi wnaeth o'n sicr fy llethu i pan o'n i'n feichiog efo'r efeilliaid achos oedd cario dau fabi yn golygu dwywaith yr hormonau yn mynd drwy'r corff ac yn fy ngwneud yn sâl.
"Ro'n i'n styc yn gwely yn methu gwneud dim," ychwanegodd.
Ag hithau'n teimlo fel cyfogi drwy'r dydd, dywedodd fod y broses o daflu fyny "yn reit neis i fi achos unwaith i chi daflu fyny ro' chi'n cael rhyw 30 eiliad o ryddhad".
"Mae 'na ystod o gyffuriau allan 'na sy'n gallu sortio fo.
"Os 'di rywun yn teimlo dwi methu gwneud hyn... yn methu gwneud tasgau syml yna mae angen mynd i weld y meddyg."
Roedd yn cydnabod bod y broses yn "rili anodd i egluro fo i bobl" ond ei bod yn awyddus i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr.

Yn ôl Charlotte Howden o Gymorth Salwch Beichiogrwydd, mae'r sefyllfa yng Nghymru'n annheg
Mae Cymorth Salwch Beichiogrwydd sy'n darparu cwnsela ac hyfforddiant yn dweud bod y sefyllfa yng Nghymru'n annheg.
Yn ôl Charlotte Howden o'r elusen, dylai menywod gael dewis y cyffur mwyaf addas iddyn nhw, beth bynnag yw'r gost.
"Beth fyddai cost ambiwlans i fynd â rhywun i'r ysbyty gan nad ydych wedi cael mynediad i'r holl driniaethau sydd ar gael? Unwaith y byddwch chi'n gwneud hynny, mae'n hawdd gweld bod hynny'n economi ffug," meddai.
Gweithio gyda byrddau iechyd
Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru yn cynghori Llywodraeth Cymru am y defnydd o feddyginiaethau yng Nghymru.
Mae'r pwyllgor yn cynnwys ymgynghorwyr, meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, economegwyr iechyd a chynrychiolwyr y diwydiant fferyllol.
Mae'n ystyried tystiolaeth o effeithiolrwydd clinigol a chost-effeithiolrwydd cyffuriau.
Dywedodd llefarydd ar ran y pwyllgor bod y data cost-effeithiolrwydd gan wneuthurwyr Xonvea pan werthusodd y cyffur yn 2019 yn "annigonol".
Yn ôl y gwneuthurwr, Exeltis UK, mae wedi bod mewn cysylltiad â'r grŵp ac yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru "i gefnogi mynediad at driniaeth".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod meddygon teulu ym mhob bwrdd iechyd yn rhoi presgripsiwn Xonvea yn rheolaidd, lle mae triniaethau eraill wedi methu.
Ychwanegodd mai gwerthusiad y grŵp yn 2019 yw'r un mwyaf cyfredol o'r cyffur yng Nghymru.