Athro'n cael 'nosweithiau di-gwsg' ers trywanu Ysgol Dyffryn Aman

Darrel Campbell
Disgrifiad o’r llun,

"O'n i just yn ffocysu ar y ferch. O'dd popeth arall yn blurred," meddai Darrel Campbell

  • Cyhoeddwyd

Mae athro wnaeth rwystro merch ar ôl iddi drywanu dau o'i gydweithwyr a disgybl, wedi dweud ei fod yn colli cwsg ar ôl y digwyddiad.

Fe gafodd Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl eu trywanu gan ferch yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gâr flwyddyn yn ôl.

Fe wnaeth rheithgor yn Llys y Goron Abertawe gael y ferch, na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol, yn euog o geisio llofruddio.

Bydd hi'n cael ei dedfrydu yn ddiweddarach.

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod eu datganiad presennol ar hyn "yn dal i sefyll, gan ein bod yn dal mewn adolygiad", a'i fod "mor anodd i ni wneud unrhyw sylw penodol tan ar ôl i ni dderbyn canlyniadau'r adolygiad".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod yr effaith y mae wedi'i chael ar gymuned yr ysgol gyfan ac wedi darparu cyllid ychwanegol i'r awdurdod lleol i ddarparu cymorth i staff a dysgwyr".

Ysgol Dyffryn AmanFfynhonnell y llun, PA Media

Mae'r cyn-bennaeth cynorthwyol yn yr ysgol, Darrel Campbell, wedi disgrifio'r munudau trawmatig o ddal y ferch ar ôl yr ymosodiad, tra bod y gyllell yn dal yn ei llaw.

"O'dd e'n sioc enfawr, rwy' wedi cael nosweithiau di-gwsg," dywedodd.

"O'n i just yn ffocysu ar y ferch. O'dd popeth arall yn blurred.

"Doedd hi ddim yn siarad, just yn syllu. Wedyn sgrechodd hi, bod hi'n mynd i ladd y ferch o'dd hi'n anelu amdani.

"Nes i redeg ar ei hôl hi, ac wrth bod hi'n trywanu'r ferch, fe ddales i'r llaw gyda'r gyllell ynddi a'i thynnu hi 'nôl.

"Mae'n galed i gredu, fi just yn falch o'n i 'na ar y pryd, a gallu helpu yn y sefyllfa."

Liz Hopkins a Fiona EliasFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Liz Hopkins [chwith] a Fiona Elias [dde] eu trywanu sawl gwaith

Dywedodd Fiona Elias a Liz Hopkin eu bod yn credu y bydden nhw'n marw ar 24 Ebrill 2024. Fe gafon nhw eu trywanu sawl gwaith.

Fe gafodd y disgyblion eu cloi mewn dosbarthiadau wrth i'r gwasanaethau brys ymchwilio ac ymateb, ac fe gafodd y gymuned ei hysgwyd.

"O'dd hwn ar lefel arall," dywedodd Darrel Campbell, sydd wedi gweithio yn yr ysgol ers 42 o flynyddoedd.

"'Dwi byth wedi gweld unrhyw beth fel hyn o'r blaen.

"Ma' mwyafrif y plant yn Ysgol Dyffryn Aman, fel bob ysgol, yn ffantastig. Ond mae ymddygiad canran bach wedi gwaethygu, a ma' hynny'n adlewyrchiad o gymdeithas.

"Dwi'n credu bod eisiau i adrannau addysg yn y siroedd, hefyd y Senedd, i dynnu pobl at ei gilydd i allu siarad pethe trwyddo."

Mae brawd Darrel Campbell, yr Aelod Plaid Cymru o'r Senedd, Cefin Campbell, sy'n llefarydd addysg y blaid, wedi bod yn galw am weithredu ar ôl y digwyddiad.

"Yr unig berson dwi wedi siarad gyda yw Cefin. S'dim un o'r sir nag [aelod] arall o'r Senedd wedi cysylltu â fi," meddai Darrel Campbell.

"Ma' eisiau i rywbeth gael ei wneud, yn bendant, a ma' eisiau i bobl ddod i siarad gyda'i gilydd cyn bod rhywbeth arall yn digwydd.

"Ma' ishe bod ni'n sicrhau bod diogelwch ac athrawon yn fwy pwysig nag unrhyw beth arall."

'Mor anodd gwneud unrhyw sylw penodol'

Dywedodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod eu datganiad presennol ar hyn "yn dal i sefyll, gan ein bod yn dal mewn adolygiad", a'i fod "mor anodd i ni wneud unrhyw sylw penodol tan ar ôl i ni dderbyn canlyniadau'r adolygiad".

Mewn datganiad ar y cyd rhwng Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price a Phennaeth Ysgol Dyffryn Aman, Mr James Durbridge, dywedon nhw eu bod yn "falch iawn o'r berthynas wych sy'n bodoli rhwng yr awdurdod lleol a'r Ysgol".

"Yn dilyn diwedd y treial diweddar, mae'r cyngor sir wedi cyfeirio'r achos, mewn perthynas ag amgylchiadau'r digwyddiad ar 24 Ebrill 2024, i'r Bwrdd Diogelu Rhanbarthol ac rydym yn aros am eu penderfyniad ynghylch fformat ac amserlen yr adolygiad aml-asiantaeth.

"Nid ydym yn ymwybodol o ddigwyddiadau lle mae'r ysgol a'r awdurdod lleol wedi bod yn gweithio yn erbyn ei gilydd neu'n anghytuno â'i gilydd.

"Byddwn yn ymateb i unrhyw un o'r canfyddiadau y gallai'r adolygiad amlasiantaethol annibynnol eu canfod."

'Wedi darparu cyllid ychwanegol'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod yr effaith y mae wedi'i chael ar gymuned yr ysgol gyfan ac wedi darparu cyllid ychwanegol i'r awdurdod lleol i ddarparu cymorth i staff a dysgwyr".

"Mae ysgrifennydd y cabinet dros addysg wedi ymweld â'r ysgol yn dilyn yr ymosodiad ac yn parhau i gynnig ei chefnogaeth.

"Mae sicrhau bod dysgwyr a staff yn teimlo'n ddiogel yn amgylchedd yr ysgol yn bwysig iawn.

"Fel rhan o raglen ehangach o waith ar ymddygiad mewn ysgolion bydd ysgrifennydd y cabinet dros addysg yn cynnal cyfarfod fis nesaf ar fater ehangach diogelwch mewn ysgolion ac Uwchgynhadledd Ymddygiad Genedlaethol."

Pynciau cysylltiedig