Cymraes 19 oed yn ennill ei ras gyntaf yn Academi Fformiwla 1

Ella LloydFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ella Lloyd yn rhan o academi gyrwyr McLaren

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Gymraes Ella Lloyd wedi ennill ei ras gyntaf yng nghyfres Academi Fformiwla 1.

Fe ddaeth y fenyw ifanc 19 oed o Bontypridd i'r brig yn y ras gyntaf o ddwy sydd gan yr academi yn Jeddah, Sawdi Arabia, y penwythnos hwn.

Hon oedd trydedd ras y tymor i'r bencampwriaeth - sydd i fenywod yn unig - wedi dwy ras yn Shanghai fis Mawrth.

Nod y gyfres ydy meithrin talent ar gyfer y dyfodol, ac mae pob tîm yn defnyddio'r un cerbyd a theiars, gan olygu mai talent y gyrwyr ddylai fod yr unig ffactor.

Mae Ella Lloyd yn rhan o academi gyrwyr McLaren, ac mae'n rasio i dîm Rodin Motorsport yn Academi Fformiwla 1.

Fe ddechreuodd y ras ddydd Sadwrn yn yr ail safle, ond fe lwyddodd i basio Emma Felbermayr ar y gornel gyntaf, cyn cadw'r safle hwnnw tan ddiwedd y ras.

Pynciau cysylltiedig