Seren Rings of Power wedi defnyddio'r Gymraeg yn y gyfres
- Cyhoeddwyd
Fe lwyddodd yr actores o Gymru, Morfydd Clark i gynnwys gair Cymraeg mewn golygfa wrth ffilmio The Rings of Power - cyfres sy'n seiliedig ar The Lord of the Rings.
Morfydd Clark, gafodd ei magu ym Mhenarth ger Caerdydd, sy'n chwarae'r brif rôl yn y gyfres, sef yr ellyll (elf) Galadriel.
Mewn golygfa benodol yn y gyfres gyntaf, gwelwyd cymeriad Clark yn gweiddi’r gorchymyn "cer" at ei cheffyl.
"Dwi'n meddwl bod Morfydd wedi llithro hwnnw i mewn," meddai’r cyd-gyfarwyddwr Patrick McKay.
Mae Clark yn siarad Cymraeg, yn ogystal â dau o sêr eraill y gyfres - Owain Arthur a Trystan Gravelle.
"Os ydych chi’n siarad Cymraeg, mae’n anodd peidio â siarad Cymraeg gyda siaradwr Cymraeg arall," medd Owain Arthur, sy’n chwarae rhan y corrach (dwarf) Durin IV.
"Mae’n hyfryd – 'da ni'n gallu siarad am bobl heb iddyn nhw wybod... Na, dw i’n tynnu coes. Does dim o hynny’n digwydd.
"Roedd yn braf iawn, yn enwedig yn y gyfres gyntaf pan oedden ni'n ffilmio yn Seland Newydd, gan ein bod ar ochr arall y byd, roedd cael y math yna o gartref oddi cartref yn helpu gyda’r hiraeth."
Fodd bynnag, doedd Owain Arthur ddim yn ymwybodol bod gair Cymraeg wedi ei gynnwys yn y gyfres gyntaf.
"Ti’n gwybod be – nes i ddim sylwi ar hynny," meddai.
"Nes i ddim sylwi ar hynny o gwbl. Mi na'i wylio eto a gofyn i Morfydd."
Mae Owain Arthur wedi serennu yn Rownd a Rownd ar S4C o’r blaen, ac mae wedi cyfaddef ei fod yn chwilio am esgus i gynnwys rhywfaint o Gymraeg yn y sioe ei hun.
"Dwi'n ceisio gwneud hynny o hyd. Dwi'n ei wneud bob tro. Dwi'n aml yn meddwl yn Gymraeg," meddai.
Dywedodd y cyd-gyfarwyddwyr Patrick McKay a JD Payne fod ail gyfres The Rings of Power, a ffilmiwyd o gwmpas y DU, yn "Gymreig iawn ei naws".
"Es i Gymru ychydig fisoedd yn ôl, a phan groesais y bont, roedd fel petawn i’n gyrru i ganol Middle Earth," meddai Payne.
"Yn y gogledd, yn enwedig yn ardal Eryri, mae'n teimlo fel eich bod yn crwydro drwy fynyddoedd Middle-earth yn y goedwig – roedd yn hyfryd."
Mae ail gyfres The Lord of the Rings: The Rings of Power ar gael i'w ffrydio ar Prime Video o 29 Awst.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Awst 2024
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2021