Ail berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

A4138Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4138 ger Llangennech nos Fercher

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu wedi cadarnhau fod ail berson wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Sir Gâr yr wythnos diwethaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4138 rhwng cylchfan Llangennech a chylchfan ger yr amlosgfa am oddeutu 22:50 ar nos Fercher 2 Ebrill.

Roedd dau gar yn rhan o'r gwrthdrawiad sef BMW arian a Peugeot 208 du.

Bu farw gyrrwr y BMW o'i anafiadau yn fuan wedi'r digwyddiad, ac mae swyddogion bellach wedi cadarnhau fod gyrrwr y Peugeot wedi marw yn yr ysbyty ddydd Sadwrn, 5 Ebrill.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn galw ar unrhyw un a oedd yn teithio ar ffordd yr A4138 ar y pryd neu sydd ag unrhyw luniau dashcam all fod o gymorth i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig