Galw am symbol pwrpasol i bobl sydd ag atal dweud

Mae Lloyd Cottrell - sy'n chwarae sacsoffon, ffliwt a'r clarinet - yn teimlo bod cerddoriaeth wedi'i helpu i fynegi ei hun
- Cyhoeddwyd
"Mae atal dweud yn waeth pan dyw'r person dwi'n siarad gyda ddim yn gwybod bod atal dweud gyda fi."
Mae Lloyd Cottrell yn un o tua 450,000 o bobl yn y DU sydd â nam lleferydd.
Mae'r cerddor o Gasnewydd wedi rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch sy'n galw ar Lywodraeth y DU i greu symbol pwrpasol ar gyfer pobl ag atal dweud.
Mae'r dylanwadwr, Jessie Yendle - sydd ag atal dweud ei hun a 3.5m o ddilynwyr ar TikTok - yn galw am gyflwyno symbol a fyddai'n helpu pobl eraill â nam lleferydd.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn canolbwyntio ar hyrwyddo hawliau pob person anabl.

Mae Lloyd Cottrell yn un o tua 450,000 o bobl yn y DU sydd â nam lleferydd
Mae ymgyrch Jessie wedi'i groesawu gan Lloyd Cottrell, sy'n dweud bod "pobl yn gallu bod yn ddiamynedd os nad ydyn nhw'n ymwybodol bod gen i atal dweud".
"Mae'r syniad yma'n un gwych oherwydd i fi yn bersonol mae atal dweud yn waeth pan dyw'r person dwi'n siarad gyda ddim yn gwybod bod atal dweud gyda fi," meddai.
"Unwaith dwi'n dweud wrthyn nhw, mae'n gwneud bywyd llawer haws."
'Dwi jyst angen munud!'
Mae Jessie Yendle, 32, yn dweud nad yw cael rhywun yn chwerthin am eich pen neu gael pobl i orffen ei brawddegau yn anghyffredin.
"Dwi 'di cael pobl yn gofyn fy enw ac oherwydd ei fod yn cymryd amser i mi ateb, maen nhw'n chwerthin oherwydd maen nhw'n meddwl fy mod i wedi anghofio fy enw," meddai'r dylanwadwr.
"Ond dwi heb, dwi jyst angen munud."

Mae Jessie Yendle wedi dechrau ymgyrch i gael symbol cyffredinol i ddangos bod angen mwy o amser neu amynedd ar berson i ddweud eu geiriau
Esboniodd Jessie sut na allai gwblhau cyfweliad ar gyfer ei "swydd berffaith" yn Llundain - 150 milltir o'i thref enedigol ym Mhontypridd - oherwydd ei hatal dweud.
"Nes i eistedd yn yr ystafell honno am ugain munud yn ceisio dweud fy enw," cofiodd.
Mae Jessie Yendle wedi dechrau ymgyrch i gael symbol cyffredinol fydd yn tynnu sylw pobl at y ffaith y gallai pobl sydd ag atal dweud fod angen ychydig mwy o amser i fynegi eu hunain.

Dechreuodd Jessie Yendle wneud fideos ar-lein yn 2021 fel her i'w helpu i fagu hyder wrth siarad yn gyhoeddus
Mae symbol Blodyn Haul Anableddau Cudd yn cael ei gydnabod yn fyd-eang fel un y gall pobl ag anableddau anweladwy ei ddefnyddio i ddangos bod angen cymorth arnyn nhw o bosib.
Ond mae Jessie wedi creu symbol – un pwrpasol sy'n dangos person yn siarad a chloc - i ddangos i bobl bod angen mwy o amser neu amynedd ar berson i ddweud eu geiriau.
"Rwy'n meddwl y byddai hyn yn anhygoel i gymaint o bobl," meddai.
"Does dim byd allan yna i ni ac roeddwn i'n meddwl 'mae angen i mi wneud newid'."

Mae gan 80 miliwn o bobl ledled y byd ac o leiaf 1% o oedolion y DU - tua 450,000 o bobl - atal dweud naturiol.
Mae elusen flaenllaw wedi dweud bod anwybodaeth am atal dweud yn gallu arwain at "ystod o ymatebion - o amau bod rhywun yn dweud celwydd i chwerthin a gwawd".
"Er nad yw ymatebion o'r fath i fod i achosi niwed, gall yr effaith fod yn ddifrifol," meddai Kirsten Howells o elusen Stamma.

Nod elusen Stamma yw herio stigma a stereoteipiau trwy ymgyrchu
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud eu bod yn "canolbwyntio ar hyrwyddo hawliau pob person anabl".
Yn ôl llefarydd, "dyna pam rydyn ni'n cynyddu cyllid i alluogi pobl anabl i aros yn eu cartrefi, yn rhoi hwb i'r lwfans gofalwyr, ac yn gweithio gyda phobl anabl a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli i chwalu rhwystrau sy'n atal unigolion rhag cael eu parchu a'u cynnwys yn llawn mewn cymdeithas".
Os ydych wedi cael eich effeithio gan unrhyw un o'r materion a godwyd yn y stori hon gallwch ymweld â BBC Action Line.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2021