'Dim cytundeb' rhwng dyn a'i ffrind i drefnu i ladd ei wraig

Paul Lewis (ar y dde, mewn siaced lliw golau a sbectol) yn cael ei dywys ar gyfer gwrandawiad llys gan swyddog carchar
Disgrifiad o’r llun,

Mae Paul Lewis yn gwadu ei fod wedi cynllwynio i lofruddio'i wraig, ddwy flynedd wedi iddyn nhw wahanu

  • Cyhoeddwyd

Nid oedd cytundeb rhwng dau ddyn sydd wedi'u cyhuddo o gynllwynio i drefnu i rywun ladd gwraig un ohonyn nhw, yn ôl cyfreithwyr y ddau.

Mae Paul Lewis, 54, a Dominique Saunders, 35, y ddau o Abertawe, yn gwadu cynllwynio i lofruddio Joanne Atkinson-Lewis rhwng 28 Chwefror 2023 a 30 Ebrill 2023.

Mae'r ddau ddyn wedi dewis peidio â rhoi tystiolaeth yn eu hachos yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Mae'r erlyniad yn dadlau bod Mr Lewis wedi talu £1,500 i Mr Saunders i drefnu llofruddiaeth Joanne Atkinson-Lewis er na chafodd hi erioed ei niweidio.

Dywedwyd wrth y rheithgor, os ydyn nhw'n credu bod y naill ddyn neu'r llall yn ddieuog o gynllwynio, rhaid cael y ddau yn ddieuog.

Dominique Saunders (ar y dde mewn top glas tywyll) yn cael ei dywys i'r llys gan swyddog carchar benywaidd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dominique Saunders (ar y dde) yn gwadu cytuno i helpu Paul Lewis i drefnu marwolaeth ei wraig

Dywedodd y Barnwr Ustus Nicklin fod yn rhaid i'r rheithgor fod yn siŵr bod y ddau ddyn wedi dod i gytundeb i ladd Joanne Atkinson-Lewis a bod bwriad gan y ddau ddyn i'r cynllun hwnnw "gael ei gyflawni".

Wrth amddiffyn Mr Lewis, dywedodd John Hipkin KC wrth y rheithgor fod yr erlyniad wedi anwybyddu bod Mr Lewis yn sâl yn feddyliol ac wedi treulio peth o'r amser dan sylw ar ward seiciatrig.

Dywedodd Mr Hipkin fod Mr Lewis wedi talu £1,500 i Mr Saunders ond ei fod wedi cael ei "sgamio" a bod Mr Saunders wedi gwario'r arian ar wyliau i Benidorm.

Dywedodd, pe bai'r arian wedi'i dalu i gyflogi llofrudd, y byddai'n "hollol chwerthinllyd" bod Mr Lewis wedi cysylltu â'r heddlu i gwyno ei fod wedi cael ei sgamio.

Atgoffodd Mr Hipkin y rheithgor eu bod wedi clywed tystiolaeth gan un tyst fod Mr Saunders wedi twyllo Mr Lewis yn y gorffennol.

Dywedodd fod y dystiolaeth yn yr achos yn ymwneud â "dyn sydd yn sâl yn feddyliol a dyn sydd yn sgamiwr, yn dwyllwr".

'Sgam erioed'

Ar ran Mr Saunders, dywedodd John Harrison KC fod ei gleient yn cael ei adnabod fel "Dippy Dominique" ac nad oedd yn gallu trefnu rhywun i ladd rhywun.

Dywedodd: "Pe na bai mor ddifrifol i'r diffynyddion byddai'n ddoniol.

"Nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn llofrudd yn llawn amser, rhan amser nac unrhyw amser," ychwanegodd.

Dywedodd Mr Harrison wrth y rheithgor fod ei gleient wedi manteisio ar Mr Lewis pan oedd yn fregus drwy ei sgamio a chymryd yr arian.

Roedd modd condemnio gweithredoedd Mr Saunders, meddai Mr Harrison KC, ond nid oedd hynny'n profi bod cytundeb i ladd Joanne Atkinson-Lewis.

Dywedodd Mr Harrison nad oedd Mr Saunders wedi gwneud dim byd "oherwydd nad oedd cytundeb rhyngddynt ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud dim ynglŷn â lladd Joanne Atkinson-Lewis".

"Sgam oedd e erioed, doedd e byth yn gytundeb ac mae'n ceisio dianc gyda £1,500."

'Cytundeb troseddol'

Cyfeiriodd yr erlynydd William Hughes KC y rheithgor at negeseuon rhwng y ddau ddyn, gan ddweud eu bod yn "datgan yn glir bod y diffynyddion wedi gwneud cytundeb troseddol i ladd Joanne Atkinson-Lewis".

Gofynnodd Mr Lewis sawl tro a oedd unrhyw "newyddion" ac am weld lluniau teclyn GoPro - camau, yn ôl yr erlyniad sy'n amlygu "cytundeb troseddol".

Anfonodd neges hefyd yn awgrymu y byddai "marwolaeth yn siwtio" ei wraig, a sawl neges yn datgan: "Wnes i dalu gyda phob ewyllys da."

Dywedodd mewn negeseuon eraill ei fod "wedi gweld Joanne ar draeth Aberafan ac roedd hi'n edrych yn iawn".

Erbyn diwedd Ebrill 2023, fe ysgrifennodd sawl neges yn amlygu teimlad ei fod wedi cael ei dwyllo oherwydd roedd ei wraig "yn dal yn anadlu".

Dywedodd y barnwr wrth y rheithgor fod angen iddyn nhw ystyried a oedd y cytundeb yn un "yr oedd y ddau yn bwriadu ei anrhydeddu"

Gofynnodd "a oedd bwriad gan y ddau ddiffynnydd i Joanne Atkinson-Lewis gael ei lladd? Ydych chi'n siŵr bod Saunders erioed wedi bwriadu cyflawni ei ochr ef o unrhyw fargen?"

Mae'r rheithgor bellach yn ystyried eu dyfarniad.

Pynciau cysylltiedig