Y dyfarnwr a chyn-ymosodwr Cymru, Cheryl Foster yn ymddeol

Bydd Foster yn ymgymryd â rôl newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr ar ôl ymddeol fel dyfarnwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddynes gyntaf i ddyfarnu gêm yn y Cymru Premier - lefel uchaf gêm y dynion yng Nghymru - wedi ymddeol o'r gamp.
Mae Cheryl Foster o Landudno - a enillodd 63 o gapiau dros Gymru rhwng 1997 a 2011 - wedi bod yn dyfarnu ers 2013.
Foster oedd y dyfarnwr cyntaf o Gymru ers 1978 i gymryd yr awenau yn un o'r prif bencampwriaethau rhyngwladol, a hynny yn ystod Euro 2022.
Aeth yn ei blaen i gael ei dewis i ddyfarnu yng Nghwpan y Byd y merched yn 2023 ac yn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr y merched yn yr un flwyddyn.

Fe chwaraeodd Foster i Lerpwl am bron i ddegawd
Yn ystod gyrfa lwyddiannus fel chwaraewr, fe dreuliodd Foster bron i ddegawd gyda Chlwb Pêl-droed Lerpwl, cyn ymuno â Doncaster Rovers.
Fe dderbyniodd MBE yn 2023 fel cydnabyddiaeth o'i gwasanaeth i bêl-droed.
Y gêm olaf i Foster ei dyfarnu oedd yr ornest rhwng Ffrainc a Norwy yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Wener.
Yn ogystal â chynnal gyrfa fel dyfarnwr ar y lefel uchaf, mae Foster wedi bod yn gweithio fel athrawes ysgol uwchradd.
Fe fydd hi hefyd yn dod â'i gyrfa addysgu i ben er mwyn ymgymryd â rôl newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr.
Mae Foster wedi cael ei phenodi'n uwch reolwr sy'n gyfrifol am ddatblygiad dyfarnwyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mai 2023