Ffrae 20mya: Ceryddu AS am dorri cod ymddygiad

Natasha AshgharFfynhonnell y llun, Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Natasha Asghar wedi bod yn Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru ers 2021

  • Cyhoeddwyd

Mae'r AS Ceidwadol Natasha Asghar wedi cael ei cheryddu yn ffurfiol am dorri cod ymddygiad Aelodau o'r Senedd.

Cafodd yr argymhelliad o gerydd yn adroddiad y pwyllgor safonau ymddygiad ei gymeradwyo brynhawn Mercher yn ddiwrthwynebiad, ac felly heb bleidlais.

Dywedodd Natasha Asghar ei fod yn "hurt" i "ddweud fy mod wedi dwyn anfri ar y Senedd".

Dywedodd Llywydd y Senedd Elin Jones nad yw'n dderbyniol i ddefnyddio'r gair "blanced", hynny yw, cyffredinol, i ddisgrifio'r polisi 20mya yn Siambr y Senedd.

'Anghywir'

Roedd y gwleidydd Torïaidd Cymreig wedi cytuno ar adroddiad am ymddygiad ei harweinydd er gwaetha'r ffaith iddi fod yn destun dau gŵyn am yr un mater.

Methodd Natasha Asghar â chamu o’r neilltu oherwydd gwrthdaro buddiannau o bwyllgor safonau’r Senedd ym mis Ionawr pan benderfynodd y pwyllgor glirio Andrew RT Davies am ddweud bod y polisi 20mya yn gyfyngiad cyflymder "blanced", hynny yw, cyffredinol.

Parhaodd i ddefnyddio’r term ei hun, er gwaethaf cytuno ar adroddiad y pwyllgor a oedd yn gofyn i aelodau o’r Senedd beidio â gwneud sylwadau “anghywir” o’r fath.

Dywedodd y Comisiynydd Safonau, Douglas Bain, fod Asghar wedi dwyn anfri ar y Senedd, ond dywedodd Asghar ei bod yn destun "helfa wrachod" a mynnodd ei fod yn derfyn "blanced".

Cafwyd yr ymchwiliad ar ôl cwyn gan yr AS Llafur a’r cyn-Weinidog Trafnidiaeth Lee Waters.

Ym mis Hydref 2023 roedd Mr Bain yn archwilio cwyn am Asghar ynghylch ei disgrifiad o'r terfyn fel un "blanced".

Dywedwyd wrthi bryd hynny fod ystyriaeth Mr Bain o’r gŵyn wedi’i gohirio tra’i fod yn ystyried “cwyn debyg iawn” am gyfres o negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar X, a wnaed gan aelod o’r Senedd, sydd heb ei enwi ond deellir mai arweinydd y Torïaid yn y Senedd, Andrew RT Davies, ydyw.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthwynebu’r disgrifiad ers tro, gan ei alw’n ffug oherwydd bod cynghorau’n gallu gosod gwaharddiadau ar rai ffyrdd.

Yn yr adroddiad gafodd ei gyhoeddi ym mis Ionawr canfu Mr Bain nad oedd y term "blanced", er yn anghywir, yn gelwyddog a bod gan Mr Davies amddiffyniad o dan gyfraith hawliau dynol.

Cytunodd adroddiad y pwyllgor ar y mater i beidio â gosod sancsiwn, ond dywedodd y dylai gwleidyddion “ofalu i beidio â gwneud datganiadau anfanwl ac anghywir yn fwriadol”.

Roedd Asghar yn aelod o’r pwyllgor ar y pryd ac roedd yn bresennol ar gyfer ei holl drafodaethau ar y pwnc.

Ond ar ôl i adroddiad mis Ionawr gael ei gyhoeddi, cyfeiriodd Asghar at 20mya fel terfyn cyflymder “blanced” ar gyfryngau cymdeithasol. Gwnaeth hynny eto mewn fideo.

Cwynodd Waters ar 18 Ebrill fod Asghar wedi defnyddio'r term mewn trafodaeth yn y Senedd - lle dywedodd y dylai'r gweinidog "oddef" ei disgrifiad oherwydd canfyddiadau'r pwyllgor safonau.

Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd yr ymchwiliad ar ôl i Lee Waters gwyno

Yn ei gasgliadau, dywedodd Mr Bain ei fod wedi cael ei dderbyn gan Asghar ei bod yn ymwybodol bod y pwyllgor safonau wedi gofyn i aelodau’r Senedd “fod yn ofalus i beidio â gwneud datganiadau sy’n anfanwl ac yn anghywir yn fwriadol”.

Yn ei adroddiad, ychwanegodd y comisiynydd fod "yr aelod i bob pwrpas yn dweud un peth ac yn gwneud y gwrthwyneb".