Pryderon dros ddyfodol rygbi llawr gwlad wedi toriadau URC

Dywedodd swyddog hwb, Joshua Phillips, sy'n chwarae rygbi lled-broffesiynol i Abertawe, ei fod yn ceisio ymddwyn fel esiampl dda i'r plant y mae'n hyfforddi
- Cyhoeddwyd
Mae nifer yn poeni am ddyfodol rygbi i blant yn dilyn penderfyniad gan Undeb Rygbi Cymru (URC) i dorri'r cyllid ar gyfer ei raglen swyddogion hwb.
Fis diwethaf, fe gyhoeddodd URC gynllun ailstrwythuro er mwyn arbed £5m.
Mae 30,000 o blant wedi elwa o'r cynllun Hwb, sydd wedi'i ariannu ar y cyd rhwng ysgolion a'r undeb ers 2014.
Mae URC wedi addo gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y gêm ar lawr gwlad, gan ddweud y bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi maes o law.
20 o swyddi yn y fantol
Ers cyhoeddi'r bwriad i ailstrwythuro ym mis Ebrill, mae dros 4,500 o bobl wedi arwyddo deiseb ar-lein yn galw ar URC i ail-feddwl.
Mae hyd at 20 o swyddi yn y fantol o fewn yr undeb o ganlyniad i'r newidiadau.
Dywedodd Joshua Phillips, 23, sy'n swyddog hwb yn Rhondda Cynon Taf, ei fod wedi ei chael hi'n anodd derbyn y penderfyniad ar y cychwyn.
"Roeddwn i mor siomedig pan glywais i beth oedd yn digwydd trwy ddarllen amdano yn y cyfryngau," meddai.
"Nes i grio ychydig achos dwi'n caru fy swydd ac mae'n bleser i weithio gyda'r bechgyn a merched.
"Rwy'n deall bod angen i bethau newid ond mae'n drist i'r plant, a meddwl y byddan nhw'n colli mas ar gyfleoedd o bosib."
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
Roedd mwy na 3,000 o chwaraewyr newydd wedi cofrestru o fewn clybiau rygbi lleol o ganlyniad i'r cynllun Hwb yn ystod y tymor 2022/23.
Fe wnaeth y nifer sy'n cymryd rhan barhau i gynyddu y flwyddyn ganlynol hefyd yn ôl adroddiad URC sy'n asesu effaith y cynllun ar lawr gwlad.
Daeth astudiaeth ddiweddar gan y Brifysgol Agored i'r casgliad bod pobl ifanc wedi "elwa yn glir" o ganlyniad i'r cynllun Hwb o ran eu hiechyd corfforol a lles emosiynol a chymdeithasol.

Pryder Amber yw na fydd cymaint o gyfleoedd i chwarae rygbi yn yr ysgol os yw rôl y swyddog hwb yn cael ei cholli
Tra'n gweithio yn Ysgol Garth Olwg, fe ddywedodd Mr Phillips bod timau'r bechgyn wedi mwynhau'r llwyddiant ar y cae eleni a'i fod wedi helpu i gynyddu nifer y merched sy'n chwarae rygbi.
Dywedodd Amber, 13, sy'n chwarae i'r ysgol a Rhinos Llanilltud Faerdref ei bod hi'n "drist" i wybod y bydd swydd Mr Phillips fel swyddog hwb yn dod i ben dros yr haf.
"Mae Mr Phillips wedi gwneud fi'n berson mwy hyderus ac mae wedi helpu ni i wella fel tîm," meddai.
"Mae'n dod i wylio ni'n chwarae i'r Rhinos hefyd felly mae e wedi helpu llawer."
Dywedodd Darcy, 13, sydd hefyd yn ddisgybl yng Ngarth Olwg, ei bod wedi'i siomi am fod Mr Phillips "bendant wedi helpu ni i wella ac mae e wedi sicrhau mwy o gemau i ni".

Pryder Ceri Parri - un o gyfarwyddwr clwb rygbi Caernarfon - yw na fydd cynllun newydd yr undeb yn gweithredu cyn cychwyn y tymor newydd
Yn ystod cyfweliad â phodlediad Scrum V y BBC ym mis Ebrill, fe ddywedodd prif weithredwr URC, Abi Tierney, y bydden nhw'n ailstrwythuro'r gefnogaeth sydd ar gael i'r gêm ar lawr gwlad er mwyn sicrhau bod pob ysgol a chlwb â chysylltiad â swyddog o'r undeb.
Ers cyhoeddiad URC i ddod â'r cynllun Hwb i ben, mae nifer o glybiau lleol wedi mynegi eu pryderon ar wefannau cymdeithasol.
Dywedodd Ceri Parri, cyfarwyddwr Clwb Rygbi Caernarfon, fod cyhoeddiad yr undeb i ddod â'r cynllun i ben yn "syndod llwyr".
"Roedd yn teimlo braidd fod yr undeb yn gwneud y penderfyniad heb unrhyw ymgynghoriad gyda chlybiau," meddai.
"Mae rhai plant yn byw mewn ardaloedd gwledig ac yn bell o unrhyw glybiau rygbi, felly mae'r swyddogion hwb wedi bod yn hanfodol wrth annog plant i chwarae ac ennyn eu diddordeb."
'Pennod nesaf'
Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr cymuned URC, Geraint John: "Oherwydd proses ymgynghori fewnol ar hyn o bryd, nid ydym mewn sefyllfa i ymhelaethu ar ein cynlluniau at y dyfodol ar gyfer y gêm ar lawr gwlad.
"Unwaith mae'r broses yma ar ben, byddaf yn edrych ymlaen at allu rhannu gwybodaeth ynglŷn â'r bennod nesaf yn ein cynllun addysg."