Dirwy o £800,000 i gwmni amddiffyn ar ôl i weithiwr gael ei saethu

Rôl y dyn oedd gwirio effaith bwledi ar darged metal - roedd yn sefyll o flaen y targed pan gafodd ei saethu
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni technoleg amddiffyn wedi cael dirwy o £800,000 ar ôl i weithiwr gael ei saethu yn ystod prawf mewn safle tanio byw yn Sir Gaerfyrddin.
Fe gafodd y dyn, sydd â dau o blant, ei barlysu o'i ysgwyddau i lawr ar ôl cael ei saethu gan wn oedd 570 metr i ffwrdd.
Cafodd ei anafu ar 25 Mawrth 2021 yn ystod prawf sicrhau ansawdd bwledi NATO yn safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) ym Mhentywyn.
Yn ôl ymchwiliad gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) doedd cwmni QinetiQ Limited ddim wedi cynnal asesiad risg digonol ar weithgaredd y prawf.
- Cyhoeddwyd27 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Fe blediodd QinetiQ Limited yn euog i gyhuddiad o dorri Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ac ati 1974.
Mae'r cwmni wedi cael dirwy o £800,000 a'u gorchymyn i dalu £8,365 o gostau i Lys Ynadon Llanelli.
Mae'r ymchwiliad yn dweud nad oedd digon o gamau ar waith i sicrhau nad oedd unrhyw un yn agos at y targed pan gafodd y rowndiau eu tanio.
Rôl y dyn 42 oed ar y pryd oedd gwirio effaith bwledi ar darged metal ond roedd yn sefyll o flaen y targed pan gafodd fwled ei saethu.
Dywedodd Prif Arolygydd Arbenigol HSE, Stuart Charles bod bywyd y gweithiwr, ei wraig a'i blant wedi cal eu chwalu gan ei anafiadau ac y gallai "camau syml a rhad fod wedi eu cymryd a fyddai wedi atal y digwyddiad."