900 yn llai o bobl wedi'u hanafu ar y ffyrdd ers newid i 20mya

Cafodd terfyn cyflymder 20mya ei gyflwyno ar gyfer 8,000 o filltiroedd o ffyrdd Cymru yn Medi 2023
- Cyhoeddwyd
Mae bron i 900 yn llai o bobl wedi cael eu hanafu ar ffyrdd yng Nghymru ers i'r terfyn cyflymder gael ei newid o 30 i 20mya ddwy flynedd yn ôl.
Newidiodd y ddeddf ym mis Medi 2023 ac fe gostiodd £34m i'w roi ar waith.
Roedd yn un o'r newidiadau mwyaf dadleuol yn hanes Llywodraeth Cymru, ac fe arweiniodd at y ddeiseb fwyaf erioed i'r Senedd.
Yn ôl ymgyrchwyr 20's Plenty, mae 882 yn llai o bobl wedi cael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau, ac mae'r newid wedi atal 14 o farwolaethau.
Ond, dyw pawb ddim yn hoff o'r newid, gydag un hyfforddwr gyrru yn ei ddisgrifio fel "trychineb".
'Gwneud cymunedau'n fwy diogel'
Dywedodd cyfarwyddwr ymgyrch 20's Plenty, Adrian Berendt: "Yn ogystal â gwneud cymunedau Cymru'n fwy diogel, mae costau yswiriant gyrwyr yn is gyda'r terfyn cyflymder 20mya.
"Rydym yn llongyfarch gwleidyddion, cynrychiolwyr awdurdodau lleol ac arweinwyr cymunedol a alwodd am y newid a'i weithredu."
Maen nhw'n diolch hefyd i yrwyr "sydd wedi newid eu hymddygiad i wneud eu cymunedau'n llefydd gwell i fyw".
Ychwanegodd y grŵp fod y pedwar llu heddlu yng Nghymru wedi gweld gostyngiadau yn nifer y bobl a gafodd eu hanafau.
Yn y gogledd - ble newidiodd 94% o ffyrdd 30mya i 20mya - bu 46% o ostyngiad yn nifer yr anafiadau.
Dywedodd y grŵp hefyd mai "ychydig iawn o gynghorau" sydd wedi penderfynu newid eu ffyrdd yn ôl i 30mya, a bod pobl yn "bwrw ymlaen ag ef".
- Cyhoeddwyd1 Awst 2024
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd7 Medi 2023
Yn ôl ffigyrau gan Lywodraeth Cymru fe gafodd 2,638 o bobl eu hanafu mewn damweiniau cyflymder isel yn y 18 mis diwethaf, o'i gymharu â 3,520 o fewn y 18 mis blaenorol - gostyngiad o 25%.
Fe ddatgelon nhw hefyd ym mis Ebrill bod mwy na 112,000 o droseddau cyflymder wedi'u nodi hyd at fis Mawrth 2025, ers cyflwyno'r terfyn cyflymder newydd ym mis Medi 2023.
Y cyflymder uchaf a gafodd ei gofnodi oedd 89mya ym mis Ionawr 2025, ond roedd y cyflymder cyfartalog gan amlaf tua 28mya, yn ôl y bartneriaeth diogelwch ffyrdd GoSafe.
Roedd nifer y bobl a gafodd eu hanafu ar ffyrdd 20 a 30mya rhwng Gorffennaf a Medi 2024 y lefel isaf am gyfnod o dri mis ers i gofnodion ddechrau ym 1979.

Mae'r hyfforddwr gyrru Stuart Walker yn dweud bod y ffyrdd yn fwy peryglus ers i'r terfyn cyflymder gael ei ostwng
Dywedodd Stuart Walker, sy'n hyfforddwr gyrru yn Wrecsam ei fod yn teimlo bod y newid wedi arwain at fwy o yrru peryglus.
"Yn amlwg mae angen i rai ffyrdd fod yn 20mya am resymau diogelwch, ond mae terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya wedi bod yn drychineb llwyr," meddai.
"Dydw i erioed wedi gweld y ffyrdd mor beryglus yn fy ngyrfa 39 mlynedd."
Ychwanegodd: "Does neb yn gwneud o dan 30mya yn yr ardaloedd 20mya - sy'n golygu bod hyfforddi pobl i yrru yn wirioneddol beryglus.
"Mae'n cael effaith wael hefyd ar ddatblygiad gyrwyr ifanc. Yn yr ardaloedd 20mya yn Wrecsam, mae pobl wedi gyrru heibio ni dros 1,200 o weithiau."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Ken Skates y byddai'n cymryd nifer o flynyddoedd i weld effaith lawn y polisi, ond "mae'r darlun yn parhau i fod yn galonogol".
Ychwanegodd fod canllawiau wedi'u diweddaru hefyd er mwyn caniatáu i awdurdodau lleol adolygu ffyrdd er mwyn eu newid yn ôl i 30mya mewn ffordd ddiogel a "sicrhau'r cyflymderau cywir ar y ffyrdd cywir".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.