Gwobr newydd gwerth £15,000 i gantorion ifanc yn enw Syr Bryn Terfel
- Cyhoeddwyd
Mae gwobr newydd gwerth £15,000 wedi ei chyhoeddi ar gyfer cantorion ifanc yn enw un o berfformwyr amlycaf Cymru.
Fe fydd Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yn cael ei chynnig bob dwy flynedd o fis Tachwedd 2025 ymlaen, fel rhan o bartneriaeth rhwng y canwr byd-enwog a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC).
Dywed y trefnwyr fod y wobr newydd "yn un o’r rhai mwyaf gwerthfawr yn unrhyw le yn y byd", gan "anrhydeddu treftadaeth Cymru [a] hyrwyddo lleisiau ifanc amrywiol mewn canu byd-eang".
Bydd yn rhaid i'r cystadleuwyr "ganu o leiaf un gân yn Gymraeg ac un yn eu hiaith eu hunain gan ddathlu pwysigrwydd canu wrth gynrychioli’r amrywiaeth gyfoethog o ddiwylliannau ar draws y byd, yn enwedig y Gymraeg, mamiaith Bryn".
Daw'r cyhoeddid ar ôl i Ysgoloriaeth Bryn Terfel ddod i ben yn yr haf wedi 20 mlynedd.
Cyffro o gael 'rhannu perlau gwych' caneuon Cymraeg
Dywedodd Syr Bryn, sy'n Is-lywydd CBCDC, ei fod "wedi hyrwyddo caneuon gwerin a chaneuon celf y genedl gerddorol hon" gydol ei yrfa, "yn ogystal â bod yn ddehonglwr balch o Lieder mawr yr Almaen, Chansons Ffrainc a’r Gân Saesneg".
Ond mae canu Cymraeg, meddai, "yn dal i fod yn rhywbeth sy’n weddol anhysbys tu allan i Gymru" gan ychwanegu ei fod yn "llawn cyffro i gael rhannu’r perlau gwych hyn gyda chantorion newydd ac i ddefnyddio Cronfa Syr Bryn Terfel, fy Sefydliad newydd a phartneriaeth gyda Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, i’w cefnogi yn eu datblygiad fel artistiaid".
"Rwy'n gobeithio y bydd myfyrwyr yn dod i garu’r caneuon hyn, a hefyd canu yn Gymraeg, a byddant yn mynd a hyn gyda hwy yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol."
Bydd y gystadleuaeth "yn agored i ddechrau i gantorion a enwebir gan gonservatoires y DU, gyda chynlluniau i ehangu hyn i gonservatoires rhyngwladol yn y dyfodol".
Mae'n cael ei gynnig, medd y coleg, "ar adeg drawsnewidiol pan fydd cantorion yn symud o astudiaethau gradd i gyrsiau ôl-radd a phan fydd ffynonellau cyllid yn fwy prin i barhau i hyfforddi" er mwyn sicrhau gyrfaoedd proffesiynol.
Bydd y cystadleuwyr sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael cyfnod preswyl, wedi’i ariannu’n llawn, o dri diwrnod yn y coleg.
Fe fydd rhaglen o ddosbarthiadau grŵp a dosbarthiadau meistr "yn canolbwyntio ar y gân, testun a pherfformio" ac yn cynnwys cyfnod gyda Syr Bryn Terfel ei hun.
Fe fydd rownd derfynol gyntaf Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 8 Tachwedd 2025.
"Fel conservatoire cenedlaethol Cymru rydym yn benderfynol o wneud yn siŵr bod pobl ifanc – o Gymru, y DU a hefyd yn rhyngwladol – yn deall popeth sydd gan y wlad hon a’r Coleg i'w gynnig iddynt os ydynt yn dewis astudio yma," meddai pennaeth y coleg, Helena Gaunt.
"Mae ehangu, hyrwyddo a rhannu’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn rhan bwysig o hyn a dyma'r man lle mae angerdd Bryn a ninnau'n dod ynghyd."
Dywedodd Cyfarwyddwr Cerddoriaeth CBCDC, Tim Rhys-Evans, fod cantorion "o wledydd mor bell ag Awstralia, Hong Kong a’r Unol Daleithiau yn perfformio caneuon yn y Gymraeg" fel rhan o ddathliadau pen-blwydd y coleg yn 75 oed.
Ychwanegodd: "Mae'n bleser eu gweld yn syrthio mewn cariad â'r repertoire hwn, ac edrychaf ymlaen at weld dylanwad hyn yn lledaenu wrth i Wobr y Gân ddatblygu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd13 Mai 2024