'Helpu eraill â dibyniaeth ydy'r peth gorau am adferiad'

Disgrifiad,

Ar ôl "bod drwyddi" gyda dibyniaeth, mae Rob bellach "yma i helpu'r person nesa'"

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys trafodaeth am alcohol a chyffuriau

Mae dyn sy'n dweud ei bod yn bosib na fyddai'n fyw oni bai am help elusen, bellach yn helpu eraill â'u problemau.

Dair blynedd yn ôl, roedd Rob Haverlock o Borthmadog yn gaeth i alcohol a chocên. Roedd y ddibyniaeth wedi effeithio ar bob elfen o'i fywyd.

Dyweoddd: "Aeth y briodas lawr draen, nes i golli tŷ, colli teulu ac o'n i ar ben fy hun.

"Ac yn diwedd o'n i'n byw yn y car. Gyda dim dyfodol. Just yn yfed fy hun i farwolaeth o ddiwrnod i ddiwrnod."

Trodd at ganolfan Tŷ Penrhyn ym Mangor – sefydliad sy'n cynnig cefnogaeth i bobl sy'n ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.

'Mae'r drws ar agor'

Erbyn hyn mae Rob yn gweithio yn y ganolfan, ac mae'n benderfynol o helpu eraill i oresgyn eu problemau.

"Da ni'n cynnig grwpiau, cyfarfodydd - ma'r drws ar agor i ddod mewn am chat gyda phobl sy'n cwffio'r un ffeit.

"Dyna'r peth gorau am adferiad fi rŵan – dwi wedi bod drwyddi ac yma i helpu'r person nesa'."

Cheryl Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Cheryl Williams fod y "cysylltiad yna gyda rhywun sydd wedi mynd drwy'r un peth yn annatod i'r broses o wella"

Mae Cheryl Williams yn gweithio i elusen Adferiad, fel arweinydd strategol ar niwed sy'n gysylltiedig â gamblo a niweidiau eraill.

Mae hi'n grediniol fod y gefnogaeth yma gan bobl sydd wedi cael profiad personol o'r heriau yn hollol hanfodol i'r broses o wella.

"Ma'r cysylltiad yna gyda rhywun sydd wedi mynd drwy'r un peth yn annatod i'r broses o wella.

"Ma' nhw'n gallu dweud o'r galon eu bod nhw'n cydymdeimlo'n llwyr gan eu bod nhw wedi bod drwy'r un peth."

Aeth yn ei blaen i ddweud: "Does neb gwell i wrando ar eich stori chi na rhywun sydd wedi bod drwyddo eu hunain.

"Mae'n rhoi goleuni i rai sy'n mynd drwy driniaeth a gobaith y gallan nhw hefyd ddod drwyddo ar yr ochr arall."

Yn ôl Cheryl, nid dim ond y bobl sy'n derbyn triniaeth sy'n elwa o'r berthynas yma.

"Mae gallu cynnig cefnogaeth i rywun sy'n wynebu heriau yn helpu'r person sydd wedi bod trwy adferiad hefyd.

"Mae'r cysylltiad yna yn hollol hanfodol - i'r ddwy ochr."

'Ella byswn i ddim yma heddiw'

Mae Cheryl yn annog unrhyw un sy'n dioddef i ofyn am gymorth.

"Cysylltwch â'ch meddyg teulu neu ewch i ganolfan fel Penrhyn House lle allwch chi alw mewn i siarad â rhywun.

"Ar ôl i chi siarad â rhywun a chymryd y cam cychwynnol hwnnw, yna gellir rhoi system a phrosesau ar waith."

I Rob, fe wnaeth Tŷ Penrhyn achub ei fywyd, a rhoi bywyd iddo sy'n werth ei fyw.

"Diolch i Dduw am fan'ma – ella byswn i ddim yma heddiw heb y lle yma."

Rob Haverlock

Wrth sôn am y cyfnod tywyll, dywedodd Rob: "Mae'n chwalu ti o'r tu fewn allan ac mae'n cael ti lle mae o isio ti.

"Mewn stafell dywyll ar ben dy hun efo dy deimladau.

"Nes i ddeffro un bore a 'naeth rhywbeth ddod drosta i yn dweud; 'Rob ma' rhaid ti neud rhywbeth am hyn. Ma' gen ti gymaint i fyw am.'

"Ac ma' hynna'n rhyfedd achos o'dd gynna i ddim mewn ffordd ond 'naeth rhywbeth ddeud wrtha i – 'ma' na bwrpas i ti. Ma' na rywbeth i ti yn y byd ma' ond mae fyny i ti gwffio amdano fo'.

"Nes i ddeud "dwi'n done, I surrender, I've had enough, fedra i ddim neud hyn dim mwy."

"Y diwrnod yna nes i godi a gofyn i rywun am help am y tro cynta'."

Os ydy cynnwys yr erthygl wedi effeithio arnoch chi mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig