Cwm Tawe heb yr un banc ar ôl i gangen Lloyds gau

Y bwriad yw cau banc Pontardawe fis Tachwedd gan olygu na fydd gan Gwm Tawe'r un banc ar ôl hynny
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad banc Lloyds i gau un o'u canghennau yng Nghwm Tawe yn "hynod siomedig" ac am fod yn "ergyd" i'r gymuned, meddai gwleidyddion lleol.
Cyhoeddodd grŵp y banc bod cangen Pontardawe yn un o wyth fydd yn cau ar draws Cymru erbyn mis Mawrth 2026.
Y bwriad ydy cau banc Pontardawe ar 19 Tachwedd. Bydd hynny'n golygu na fydd gan Gwm Tawe'r un banc ar ôl hynny.
Bydd y banc agosa i bobl Pontardawe yng Nghastell-nedd neu Abertawe - taith o tua 30 munud mewn car.
Y rheswm am gau'r canghennau, meddai Lloyds, ydy oherwydd bod cwsmeriaid yn symud o fancio wyneb yn wyneb i fancio yn ddigidol.
'Dod â'r galon mas o'r stryd fawr'
Ar draws y Deyrnas Unedig fe fydd Grŵp Bancio Lloyds yn cau 136 o ganghennau.
Yn ôl y banc, mae'r nifer sy'n eu defnyddio yn y canghennau wedi gostwng 48% yn y pum mlynedd ddiwethaf.
"Mae'r cyhoeddiad [am Bontardawe yn] hynod o siomedig," meddai Jeremy Miles, Aelod Llafur o'r Senedd dros Gastell-nedd.
"Mae'n rhan o batrwm pryderus o golli gwasanaethau wyneb yn wyneb yn ein cymunedau.
"Fe fyddaf yn cyfarfod gyda chynrychiolwyr Lloyds i fynegi fy mhryderon am effaith hyn, yn enwedig ar bobl hŷn, sydd efallai ddim yn rhy hoff o fancio ar-lein, a busnesau bach."

"Pan nad yw'r banc ar agor mae'r dref yn dawelach," meddai Sioned Williams AS
Dywedodd Sioned Williams, aelod plaid Cymru o'r Senedd sy'n cynrychioli gorllewin de Cymru, bod y gymuned wedi ei "syfrdanu" gan y newyddion.
Fe fydd hi'n cynnal cyfarfod cyhoeddus ar 6 Chwefror i drafod y mater.
"Pan nad yw'r banc ar agor mae'r dref yn dawelach, mae'r busnesau i gyd wedi dweud hynny," meddai.
"Mae hyn yn ergyd i'w masnach nhw… ac am ddod â'r galon mas o'r stryd fawr sydd wedi bod yn ymladd mor hir i adfywio ac mae e mewn cyflwr arbennig o dda nawr. Felly, mae e'n tanseilio hynny i gyd."

Mae'r penderfyniad am "effeithio ar gymaint o bobl", meddai Betsan Gower Gallagher
Ym Mhontardawe, roedd rhai o'r bobl leol wedi eu siomi.
Dywedodd Gareth Richards bod hyn yn "drychinebus" ac yn "hoelen arall yn arch diwydiant a busnes".
Ychwanegodd: "Mae'n amlwg bod dim dyfodol i'r banciau ar y stryd fawr."
Yn ôl Betsan Gower Gallagher, mae'n "ofnadwy" ac mae am "effeithio ar gymaint o bobl… dydyn nhw ddim yn sylweddoli".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd10 Mai 2024
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2019