Dynes yn gwadu mai hi piau ci XL Bully a laddodd tad ei chymar
- Cyhoeddwyd
Mae dynes 31 oed o Wrecsam wedi gwadu mai hi oedd perchennog ci a ymosododd ar ei thad-yng-nghyfraith a'i ladd yn 2022.
Mae Chanel Fong wedi cael ei chyhuddo o fod yn berchen ar gi XL Bully Americanaidd o'r enw Cookie oedd, yn ôl yr erlyniad, yn beryglus allan o reolaeth.
Fe frathodd y ci goes Keven Jones, 65, a bu farw yn ddiweddarach o'i anafiadau.
Fe wylodd Ms Fong yn y doc yn Llys y Goron Yr Wyddgrug wrth bledio'n ddieuog i'r cyhuddiad.
Clywodd y gwrandawiad bod Mr Jones wedi marw yn dilyn digwyddiad yng nghartref Ms Fong, cymar ei fab, yn Stryt Holt, Wrecsam ym mis Mai 2022.
Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands bod disgwyl i'r achos llawn yn erbyn Ms Fong, sydd wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth, gael ei gynnal fis Hydref 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd24 Mai 2022
- Cyhoeddwyd23 Mai 2022