Cynhadledd ieithoedd ryngwladol 'yn gyfle i ddysgu'
- Cyhoeddwyd
Bydd Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn "gyfle i ddysgu" a "rhannu arfer dda", yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Mae'r gymdeithas yn 10 mlwydd oed eleni, ac Efa Gruffudd Jones yw'r cadeirydd presennol.
Nod Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yw cefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol a hawliau ieithyddol ledled y byd a chefnogi gwaith y comisiynwyr iaith.
Wrth edrych ymlaen at y gynhadledd yng Nghaerdydd ddydd Mawrth, dywedodd Ms Jones ei bod yn "falch iawn" o fod yn cynnal y digwyddiad yng Nghymru.
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd17 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
Oherwydd y pandemig, y gynhadledd hon fydd yr un lawn gyntaf i'w chynnal ers yr un yn Toronto yn 2019.
Fe fydd digwyddiad lansio nos Lun, cyn i'r gynhadledd ei hun gael ei chynnal ddydd Mawrth - gyda modd ei gwylio ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.
Dywedodd Ms Jones mai prif ffocws y digwyddiad eleni fydd "cofleidiad yr iaith" a'r "effaith y mae deddfu o blaid y Gymraeg wedi ei gael yn ymarferol".
"Mae hi'n bwysig rhoi sylw i'r theori, ond hefyd yr ymarferol, a beth yn union mae deddfu o blaid y Gymraeg wedi arwain ato fe dros y ddeng mlynedd ddiwethaf," meddai.
Angen 'arddangos' yr iaith
Ychwanegodd: "Dros y blynyddoedd mae'r cyfle i drafod a meithrin rôl comisiynwyr iaith yn ogystal â rhannu arferion effeithiol gyda gwledydd eraill wedi bod yn rhan greiddiol o'n gwaith.
"Mae angen gweld y Gymraeg yng nghyd-destun byd amlieithog ac mae gwaith y gymdeithas a'r gynhadledd hon yn ein galluogi i arddangos sut mae'r iaith yn cael ei defnyddio'n naturiol o ddydd i ddydd.
"Rwy'n hynod falch mai Cymru yw cartref y gynhadledd yn y flwyddyn arbennig hon wrth i’r gymdeithas ddathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed."
Yn ôl un o sylfaenwyr y Gymdeithas, yr Athro Colin H Williams, mae aelodau wedi cyfrannu'n sylweddol tuag at gynnal hawliau iaith.
"Rwy’n cofio, yn 2013, Peadar Ó Flatharta, Seán Ó Cuirreáin, a finnau yn mynd ati i drefnu cynhadledd i drafod hawliau dynol yn Nulyn, ac yn dilyn y trafodaethau hynny, cafwyd y syniad o ffurfio Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith," meddai.
"Mae'r gymdeithas bellach yn dathlu degawd o waith, ac mae llawer iawn i'w ddathlu.
"Mae'r aelodau wedi cyfrannu'n sylweddol at godi statws ieithoedd swyddogol ac wedi bod yn allweddol wrth gynnal hawliau iaith, yn eu gwledydd eu hunain a thu hwnt.
"Mae'r ffordd y mae'r gymdeithas wedi esblygu ac aeddfedu yn fy llenwi â balchder ac mae'n ymddangos yn briodol bod y degfed pen-blwydd yn cael ei ddathlu yma yng Nghymru gan fod Comisiynydd y Gymraeg wedi bod yn aelod allweddol o'r cychwyn."
'Lot o botensial'
Ychwanegodd ar raglen Dros Ginio ddydd Gwener: "Ar ôl ryw bum mlynedd [ers sefydlu'r gymdeithas] pan roedd mwy wedi ymuno a'r gymdeithas wedi caniatáu pobl oedd ddim yn gomisiynwyr... wrth i hynny aeddfedu a datblygu daeth i'r amlwg fod yna lot o botensial i'r gymdeithas.
"Roedd 'na frwydrau yn Iwerddon ac yng Nghymru o ran datblygu Comisiynydd Iaith, felly roedd o'n beth da i bobl oedd yn gweithio i'r comisiynwyr yma ddod ynghyd i drafod problemau a chodi arfer da o un wlad i'r llall."
Eglurodd fod rhai elfennau - fel y berthynas rhwng Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg a'r llywodraeth wedi "gwella'n ddirfawr" dros y degawd diwethaf, ond fod yna rhai pethau sylfaenol sydd heb gael eu cyflawni, gan gynnwys sicrhau hawliau ieithyddol.
Dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: "Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer y Gymraeg, a chynlluniau arloesol i droi’r weledigaeth yna’n realiti.
"Mae gennym lawer i'w rannu â chymunedau ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd – a llawer i'w ddysgu wrth gwrs.
“Mae'n wych gweld y gymdeithas yn ymgynnull yng Nghymru wrth iddi ddathlu degawd o waith pwysig, yn diogelu ac yn ymgyrchu dros ieithoedd lleiafrifol a swyddogol."