Safonau'r Gymraeg: Comisiynydd wedi 'ymyrryd' 837 gwaith

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, COMISIYNYDD Y GYMRAEG
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Efa Gruffudd Jones ei bod hi'n bwysig "sicrhau cysondeb yn y ffordd y caiff gofynion ieithyddol swyddi eu hysbysebu"

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru ymhlith y sefydliadau sydd wedi cael camau gorfodi gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Roedd y camau gorfodi a osodwyd ar y ddau sefydliad yn ymwneud â'u prosesau recriwtio, ac yn ôl y comisiynydd, "wedi arwain at adolygu'r ffordd y mae'r ddau sefydliad yn asesu gofynion ieithyddol swyddi maent yn eu hysbysebu".

Mae Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg, a fydd yn cael ei drafod yn Senedd Cymru ddydd Mawrth, yn nodi dros y flwyddyn y bu 250 o gamau o dan bolisi gorfodi'r comisiynydd a 837 enghraifft o "ymyrraeth gan y Comisiynydd er mwyn cynnal neu wella sut mae sefydliadau yn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg".

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru wedi dweud eu bod wedi gwneud newidiadau o ganlyniad i'r camau gorfodi.

Gofynion ieithyddol swyddi

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth y BBC y gofynnwyd i Gyngor Celfyddydau Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru "adolygu'r ffordd yr oeddent yn asesu'r angen am sgiliau ieithyddol ar gyfer swyddi, a'r arweiniad a roddir i staff ar ofynion y safonau o fewn y broses recriwtio".

"Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau cysondeb yn y ffordd y caiff gofynion ieithyddol swyddi eu hysbysebu."

Ychwanegodd bod y camau gorfodi bellach wedi eu bodloni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru fod "yr iaith Gymraeg yn un o gonglfeini'r sefydliad"

Hysbysebodd Cyngor Celfyddydau Cymru swydd Cyfarwyddwr Datblygu'r Celfyddydau, gyda'r Gymraeg wedi ei nodi fel "sgil ddymunol iawn".

Gan gyfeirio at Safonau'r Gymraeg, penderfynodd swyddfa'r comisiynydd "nid yw 'dymunol iawn' yn gategori sydd yn cyd-fynd â gofynion safon 132".

"Yn ogystal, nid yw'n glir sut daeth y Cyngor i'r casgliad y dylid categoreiddio y swydd fel un lle bo sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol iawn, ar sail canfyddiadau'r asesiad a gynhaliwyd.

"Mae'n ymddangos bod gwrthdaro rhwng canfyddiadau'r asesiad a'r categori â bennwyd ar gyfer y swydd. Casglaf felly na chynhaliwyd yr asesiad yn unol ag amcanion safon 132."

Dywedodd swyddfa'r comisiynydd y cafodd y camau gorfodi eu bodloni ar ôl i'r cyngor benderfynu hysbysebu'r swydd gyda'r Gymraeg yn hanfodol.

'Un o gonglfeini'r sefydliad'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru y cafwyd "trafodaethau hynod gadarnhaol gyda Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ac fe aed ati i wella ein prosesau asesu swyddi am ofynion iaith yn unol â'r gorchymyn".

"Ar gyfer y swydd benodol sydd yn dod o dan sylw'r adroddiad, penodwyd Lleucu Siencyn, sy'n siaradwraig Gymraeg, yn Gyfarwyddwr Datblygu'r Celfyddydau yn Chwefror 2022," meddai.

"Mae'r iaith Gymraeg yn un o gonglfeini'r sefydliad ac yn ystyriaeth ar gyfer pob elfen o'n gwaith yn genedlaethol a rhyngwladol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Croesawon y cyfle i gryfhau ein prosesau" meddai Canolfan y Mileniwm

Gwnaed cwyn gan aelod o'r cyhoedd bod Canolfan Mileniwm Cymru wedi recriwtio wyth "cydymaith artistig" ond nad oes yr un ohonynt yn siarad Cymraeg.

Penderfynodd swyddfa'r comisiynydd, "er bod CMC wedi datgan iddo gynnal asesiad anffurfiol o'r swyddi Cymdeithion Artistig, nid yw wedi darparu tystiolaeth o'r asesiad hwnnw er mwyn rhoi sicrwydd bod yr asesiad a gynhaliwyd wedi bod yn ddigonol".

"Er bod CMC yn datgan bod rhai o'r swyddi wedi eu categoreiddio fel swydd lle bo sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol, nid yw wedi manylu ar gategori gweddill y swyddi.

"Casglaf felly bod CMC wedi methu â chydymffurfio â gofynion safon 132."

Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Mileniwm Cymru wrth y BBC, "yn dilyn ymchwiliad gan Gomisiynydd y Gymraeg ddwy flynedd yn ôl, darganfyddom nad oedd asesiad sgiliau iaith llawn ar gyfer un o'n cyfleoedd swyddi wedi'i gofnodi yn ôl gofynion y Safonau".

"Croesawon y cyfle i gryfhau ein prosesau i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto, gyda'r Comisiynydd yn hapus gyda'n gwelliannau sydd bellach ar waith."

Ffynhonnell y llun, Huw Fairclough
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Trafnidiaeth Cymru mai "ein ffocws yn 2024 fydd profi'r cyhoeddiadau dwyieithog newydd ar ein fflyd o drenau"

Cynhaliwyd ymchwiliad hefyd i arwyddion, cyhoeddiadau a'r defnydd o'r Saesneg yn unig ar drenau Trafnidiaeth Cymru, ac fe gytunwyd ar gynllun gweithredu.

Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru wrth y BBC bod "trenau Dosbarth 175 (nad oedd yn cydymffurfio â'r safonau) wedi'u tynnu allan o wasanaeth".

"Mae gan bob trên newydd gyhoeddiadau dwyieithog a thestun/sgrin arno," meddai, gan ychwanegu fod 51 o drenau newydd mewn defnydd eisoes, gyda dros 100 eto i ddod.

"Ein ffocws yn 2024 fydd profi'r cyhoeddiadau dwyieithog newydd ar ein fflyd o drenau, fesul llwybr a fesul fath o drên."

'Problem hirdymor'

Mae enghreifftiau o "ymyrraeth" gan y comisiynydd yn y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys y broses o wneud cais ar-lein am drwydded bysgota, sydd, meddai'r comisiynydd "wedi bod yn broblem hirdymor ers sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru".

Ymhelaethodd Efa Gruffudd Jones: "Fe wnaeth y Comisiynydd gynnig cyngor ar ddiwedd 2021 er mwyn dangos sut mae asiantaethau ac adrannau eraill wedi adeiladu systemau tebyg yn ddwyieithog ar GOV.UK.

"Derbyniwyd ymholiad gan aelod o'r cyhoedd ym mis Awst 2022 ac aed ati i ofyn am ddiweddariad ar y system.

"Cadarnhaodd CNC y byddai'r system ar gael yn ddwyieithog o ddechrau Tachwedd 2022."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru wrth y BBC: "Mae'r gallu i brynu ac adnewyddu trwydded gwialen bysgota drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod ar gael ers dechrau 2023.

"Rydym yn parhau i gydweithio'n agos a'r Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod gwasanaeth dwyieithog llawn ac effeithiol yn cael ei gynnig i'r cyhoedd yng Nghymru."

Mae enghreifftiau eraill o "ymyrraeth" yn cynnwys:

  • "Wrth wneud gwaith monitro gwelwyd bod adran swyddi ar wefan un awdurdod yn Saesneg yn unig. Wedi cysylltu â'r awdurdod ymddangosodd yr adran ar y wefan yn ddwyieithog o fewn tri mis ac mae'r rhan fwyaf o swyddi yn ymddangos ar y safle swyddi Cymraeg";

  • "Yn dilyn cyfarfod roedd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn cyfeirio at ddiffyg adnoddau fel rheswm i beidio â chydymffurfio â safon 47 (sy'n ymwneud â sicrhau bod datganiad ar ddogfen i ddweud bod fersiwn Gymraeg ar gael). Anfonwyd llythyr at y sefydliad a chytunwyd i ddarparu'r adnoddau i sicrhau cydymffurfiaeth.";

  • "Amlygodd yr arolygon nad oedd gwasanaeth recriwtio Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a oedd wedi ei allanoli i ddarparwr allanol, yn cydymffurfio â'r safonau recriwtio. Yn y cyfarfod cadarnhawyd mai system dros dro oedd y gwasanaeth oherwydd diffyg capasiti'n fewnol. Cytunwyd y byddai angen i'r gwasanaeth aros yn fewnol gyda'r sefydliad am y tro hyd nes bod adolygiad o'r prosesau yn cael ei gynnal."

'Pryder'

Gan gyfeirio at Gyfrifiad 2021, mae adroddiad y Comisiynydd Efa Gruffudd Jones yn dweud ei fod yn "gadarnhaol" fod cynnydd yng nghanran y siaradwyr Cymraeg mewn pedwar awdurdod lleol yn y de-ddwyrain ond bod y gostyngiad ym mhob awdurdod lleol arall yn "peri pryder, yn arbennig yng nghyd-destun y cymunedau hynny lle mae'r Gymraeg yn gryf yn draddodiadol".

Gan gyfeirio at y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2022 a'r buddsoddiad o £11m yn Arfor 2 - sydd â'r bwriad o helpu i gryfhau gwydnwch economaidd cadarnleoedd y Gymraeg - meddai "mae'n hollbwysig y bydd yr ymyraethau hyn yn dwyn ffrwyth er mwyn sicrhau na welir erydiad pellach yn hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn ei chadarnleoedd traddodiadol".