Enwau lleoedd: 'Rhwystredigaeth' Comisiynydd heb sail statudol

  • Cyhoeddwyd
Efa Gruffudd JonesFfynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnig rhestr o ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi mynegi "rhwystredigaeth" nad oes sail statudol i waith ei swyddfa ym maes enwau lleoedd.

Dywedodd Efa Gruffudd Jones mai "argymell a cheisio argyhoeddi yw'r unig ddulliau sydd gennym o hyrwyddo ffurfiau safonol".

Llynedd, cyflwynwyd deiseb i Senedd Cymru yn galw am ddefnyddio "enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru".

Casglodd y ddeiseb gan Mihangel ap Rhisiart 1,397 o lofnodion.

Ymatebodd Gweinidog y Gymraeg Jeremy Miles i'r ddeiseb bryd hynny trwy ddweud y dylid "anelu at un ffurf o enwi lleoedd pan fod ond ambell i lythyren o wahaniaeth rhwng y ffurfiau Cymraeg a'r Saesneg".

'Hwb'

Mewn llythyr at gadeirydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd, Jack Sargeant, dywedodd Efa Gruffudd Jones ei bod yn "hwb" i ddarllen sylwadau'r gweinidog.

"Pe bai sefydliadau yng Nghymru a thu hwnt yn mabwysiadu'r egwyddor hon yn ddi-ffael byddai hynny'n gam arwyddocaol tuag at waredu ffurfiau deuol diangen ar arwyddion a hyrwyddo enwau Cymraeg.

"Ond hyd nes bod gorfodaeth ar awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i fabwysiadu ffurfiol safonol, mae'r sefyllfa bresennol yn annhebygol o newid," meddai Efa Gruffudd Jones.

Yn ddiweddar gofynnodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru, mewn cwestiwn ysgrifenedig i Lywodraeth Cymru pa drafodaethau a gafwyd "ynghylch arwyddion Aberdovey a osodwyd yn ddiweddar ger Pont Dyfi, Machynlleth, ac a fydd ymdrechion yn cael eu gwneud i roi arwyddion gydag Aberdyfi yn lle?"

Ymatebodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Lee Waters trwy ddweud y byddai'r arwydd newydd yn cael ei newid i Aberdyfi, dolen allanol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mihangel ap Rhisiart wnaeth gyflwyno'r ddeiseb i'r Senedd

Dywedodd Mihangel ap Rhisiart yn ei ddeiseb: "Byddai hyn yn dangos parch tuag at Gymru, fel cenedl sydd â'i hanes a'i diwylliant ei hun; a byddai'n cydnabod rhai o'r ffyrdd y mae Cymru wedi dioddef gorthrwm diwylliannol yn hanesyddol o ran ei hiaith a'i diwylliant.

"Yn y lle cyntaf, gallai pobl barhau i ddefnyddio enwau Saesneg yn ôl eu harfer.

"Fodd bynnag, ym mhob cyd-destun swyddogol, ac yn y cyfryngau llafar ac ysgrifenedig, dylid defnyddio'r enwau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer lleoedd yng Nghymru."

'I'w gwarchod, i'w dathlu a'u hyrwyddo'

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio'n benodol at benderfyniadau gan barciau cenedlaethol Eryri a Bannau Brycheiniog i ddefnyddio enwau Cymraeg yn unig.

Ymatebodd Comisiynydd y Gymraeg i hynny, "does dim dwywaith bod y penderfyniadau strategol hyn wedi rhoi enwau lleoedd yn y penawdau eto ac wedi atgyfnerthu a normaleiddio'r syniad bod enwau Cymru yn bethau i'w gwarchod, i'w dathlu a'u hyrwyddo.

"Mae'n amlwg bod yna awydd cynyddol ymhlith y cyhoedd yng Nghymru i weld enwau Cymraeg yn cael rhagor o amlygrwydd gan sefydliadau cyhoeddus".

Ond rhybuddiodd, "bydd angen cynyddu buddsoddiad yn y maes hwn er mwyn gwireddu'r uchelgais.

"Mae fy swyddfa i wedi dechrau cynnal nifer o brosiectau yn edrych ar enwau tirweddol ond teg nodi bod ein hadnoddau yn cyfyngu ein gallu i wneud cyfiawnder â'r maes ac i symud yr agenda bwysig hon yn ei blaen yn ddigon cyflym i fodloni dyheadau a disgwyliadau'r cyhoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Dadl Mihangel ap Rhisiart yw nad oes angen dau enw ar le

Ailsefydlu Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol

Datgelodd Comisiynydd y Gymraeg hefyd, yn dilyn yr ymosodiad seibr difrifol a ddioddefodd eu swyddfa ddiwedd 2020, y "collwyd seilwaith a chynnwys y gronfa enwau lleoedd oedd yn sail i'r Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru, dolen allanol ar ein gwefan".

"Data elfennol iawn sy'n cael ei gyhoeddi yn y rhestr ar ein gwefan ar hyn o bryd o'r herwydd"

Mae dros fil o ddefnyddwyr yn cyrchu'r rhestr yn gyson bob chwarter.

"Rydym wedi cymryd camau breision dros y flwyddyn ddiwethaf i ddatblygu cronfa ddata newydd ac i ailboblogi'r gronfa honno," meddai.

Mae Rhaglen Lywodraethu 2021 i 2026 Llywodraeth Cymru, dolen allanol yn nodi y bydd yn "gweithredu i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg" a'r Cytundeb Cydweithio, dolen allanol gyda Phlaid Cymru'n datgan y bydd yn "gweithredu i sicrhau bod enwau lleoedd Cymraeg yn yr amgylchedd adeiledig a naturiol yn cael eu diogelu a'u hyrwyddo ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".

Yn y blynyddoedd diwethaf mae swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi ymestyn eu rôl i gynghori'r Swyddfa Dramor ar ffurfiau Cymraeg safonol ar enwau tramor, dolen allanol.