Lluniau: Dydd Mercher Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd
Mae'n drydydd diwrnod yr ŵyl ym Maldwyn ac mae'r haul yn ei ôl!
Ar y maes heddiw mae'r dysgwyr yn cael eu dathlu gyda gweithgareddau a chystadleuthau ar gyfer siaradwyr newydd yn cael eu cynnal ledled y Maes.
Heddiw hefyd y cafodd medal y dysgwyr a medal Bobi Jones eu cyflwyno.

Agorodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau yr Urdd gynhadledd y Wasg ddydd Mercher, fel y mae wedi gwneud pob un hyd yma, gyda cherdd
Mae 'na iaith sy'n ein clymu,
dyna hud geiriau i mi.
Iaith sy'n adeiladu pont
i gwmni. Tyrd i'w chroesi.

Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffydd Jones, gydag Arwen, Vikki, ac Elen tu allan i stondin Gwasg RILY, sy'n cyhoeddi "llyfrau i godi gwên"

Mae Donna a chriw Tŷ Toastie wedi bod yn brysur iawn drwy'r wythnos yn llenwi boliau cystadleuwyr brwd a'u rhieni ac athrawon blinedig!

Disgyblion blwyddyn 5 a 6 ysgol Prendergast Community Primary School, Hwlffordd. Maen nhw'n cystadlu yn y parti unsain i ddysgwyr yn canu'r darn Bai Ar Gam gan Robat Arwyn. Fe ddaeth y côr yn ail y llynedd felly maen nhw'n anelu am y top eleni!

Ciliodd y glaw ond mae dal angen welis! Alex Humphreys sydd wedi bod yn dod â rhagolygon y tywydd o'r Maes yr wythnos hon

Roedd Rob Page, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, ar y maes heddiw i gyhoeddi carfan Cymru

Mae Cari yn brysur iawn yr wythnos hon. Mae'n cystadlu mewn 12 cystadleuaeth ar ei phen ei hun, gydag Ysgol Uwchradd Bodedern a gydag Aelwyd yr Ynys

Picnic yn Nant Caredig! Mae Millie, Sam a Harriet wedi teithio o Gaer am y dydd i'r Eisteddfod
Gwobrwyo'r dysgwyr

Enillydd Medal y Dysgwyr (Bl.10 ac o dan 19 oed) yw Melody Griffiths o Wrecsam

Dyfarnwyd Medal Bobi Jones (19-25 oed) i Isabella Colby Browne o’r Wyddgrug
Nod cystadlaethau Medal Bobi Jones a Medal y Dysgwyr yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac sy’n ymfalchïo mewn Cymreictod. Heddiw, bu'r holl ymgeiswyr yn cyflawni nifer o dasgau amrywiol ac ymarferol ar y Maes heddiw.

Disgwyl yn eiddgar am ganlyniadau wrth Lwyfan y Cyfrwy

Dyna un ffordd o aros yn sych... Mickey o Lambed yn hapus braf yn y gwellt!

Ymarfer bach sydyn ym mhabell Prifysgol Caerdydd

Arallfydol! Mae Bessie o Ysgol Gymraeg Rhydaman yn cystadlu yn y dawnsio disgo
Gwobr Tir na n-Og

Megan Angharad Hunter, awdur Astronot yn yr Atig, enillydd y categori Uwchradd

Daf James, awdur Jac a'r Angel, enillydd y categori Cynradd
Mae gwobrau Tir na n-Og yn cael eu trefnu'n flynyddol gan Adran Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru.
Pynciau cysylltiedig
Mwy o Eisteddfod yr Urdd
- Cyhoeddwyd27 Mai 2024
- Cyhoeddwyd28 Mai 2024
- Cyhoeddwyd29 Mai 2024