Am dro i Faldwyn
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Wythnos yma, mae Eisteddfod yr Urdd ym Maldwyn, Powys.
Bydd plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru yn cystadlu ar lwyfan yr Urdd... o ganu i lefaru i ddawnsio gwerin.
Ond faint wyddoch chi am fro'r Eisteddfod?
Mae maes yr Eisteddfod ar gaeau Mathrafal wrth ymyl Y Trallwng.
Roedd gan dywysogion Powys lys yma tan y 13g.
Mae Pistyll Rhaeadr tu allan i Lanrhaeadr ym Mochnant yn un o Saith Rhyfeddod Cymru.
Yn 150 troedfedd, mae'n uwch na rhaeadr Niagra.
Cafodd Castell Trefaldwyn ei adeiladu gan Harri III o Loegr yn 1223.
Roedd Harri III eisiau adeiladu'r castell er mwyn dangos ei bŵer i Dywysog Cymru, Llywelyn Fawr.
Cyn hynny, roedd castell mwnt a beili ar y safle. Roger de Montgomery adeiladodd y castell yma yn yr 1070au.
Erbyn 1105 roedd y castell yn nwylo Baldwin de Boulers. Dyma'r dyn a roddodd yr enw Cymraeg i Faldwyn.
Mae Llyn Efyrnwy yn brydferth iawn heddiw ond mae'r hanes yn drist.
Adeiladwyd y gronfa yn yr 1880au er mwyn dal dŵr i gorfforaeth Lerpwl.
Cafodd pentref Llanwddyn ei foddi i greu'r gronfa.
Roedd Llanwddyn yn gartref i 37 o dai, 10 o ffermydd, eglwys, swyddfa bost, melin, dau gapel a thair tafarn.
Pan mae'r dŵr yn isel, gallwch weld tŵr yr eglwys o hyd.
Ar y lawnt o flaen Plas Machynlleth mae cofeb i Owain Glyndŵr.
Codwyd y gofeb yn 2004 i nodi 600 mlynedd ers i Owain Glyndŵr gael ei goroni yn Dywysog Cymru a chynnal ei Senedd yn y dref.
Mae Llwybr Glyndŵr yn 135 milltir o hyd ac yn cynnig her i gerddwyr.
Mae'n dechrau yn Nhrefyclo ac yn gorffen yn Y Trallwng.
Mae gwarchodfa Cors Dyfi wrth ymyl Machynlleth yn gartref i deulu o weilch.
Maen nhw'n dychwelyd o Affrica i'w nyth yng Nghors Dyfi bob blwyddyn!
Beth am fynd ar y trên stêm o'r Trallwng i Lanfair Caereinion?
Agorwyd y lein yn 1903 i gysylltu tref farchnad Y Trallwng gyda chymuned wledig Llanfair Caereinion.
Ar ddechrau'r 20fed ganrif, prynodd Gwendolyn a Margaret Davies Dŷ Gregynog.
Roedd y chwiorydd Davies yn casglu celf ac yn hoff o gerddoriaeth.
Sefydlodd y ddwy chwaer wasg argraffu a gŵyl gerdd ar safle Tŷ Gregynog.
Geirfa
cystadlu/compete
llefaru/recite
bro/area
maes/the name given to the site of the Eisteddfod
tywysogion/princes
llys/court
Saith Rhyfeddod Cymru/Seven Wonders of Wales
her/challenge
cerddwyr/hikers
rhaeadr/waterfall
safle/site
prydferth/beautiful
cronfa/dam
corfforaeth Lerpwl/Liverpool's corporation
melin/mill
isel/low
cofeb/memorial
Senedd/Parliament
llwybr/path
gwarchodfa/reserve
gweilch/ospreys
dychwelyd/return
nyth/nest
tref farchnad/market town
cymuned wledig/rural community
casglu/collect
gwasg argraffu/printing-press
gŵyl gerdd/music festival
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai
- Cyhoeddwyd14 Mai
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd30 Ebrill